Roedd y Steddfod ‘cw wedi cychwyn, ond roeddwn innau dal adre’. Y rheswm am hyn oedd fod tywydd mawr wedi rhoi marc cwestiwn uwchben doethineb cysgu mewn pabell fach simsan.

Bu’r rhagolygon tywydd yn addo gwyntoedd uchel a digon o law ddydd Sadwrn i foddi’r cae gwersylla. Mi roedd hi’n oer uffernol fa’ma yn y tŷ yn y gororau, heb sôn am draw ar yr arfordir gorllewinol, tu ôl i wal o frethyn tenau. A finnau hefo iechyd bregus, yn enwedig yn yr oerni…a.y.b, a.y.b.

Llawer iawn callach, felly, oedi am gwpwl o ddyddiau a gyrru draw bore Llun. Call iawn. Ia, ga’i fod yn dawel fy nghydwybod… er, dwi dal yn teimlo ‘chydig yn… euog… neu… fel fy mod yn colli allan… Ond… Ella hefyd, rhywfaint o… ryddhad?

Mae fy mherthynas hefo’r Eisteddfod yn gymhleth, a fy nheimladau amdani yn gymysg oll i gyd. Does gen i ddim y math o eglurder meddwl, na’r ffordd groyw gyda geiriau oedd gan Dave Datblygu, ond dwi am ddechrau ar y gwaith o ddadbacio’r enigma yma a fy ‘Nghymreictod’.

Y dysgwr a’i lygaid dieithryn

Mae fy nghyfaill Simon Chandler wedi cyhoeddi nofel o’r enw Llygad Dieithryn sydd, gyda llaw, ar gael nawr o siopau llyfrau gwerth eu halen, a stondinau’r Maes mae’n siŵr.

Mynychais y lansiad y diwrnod o’r blaen yn Siop Lyfrau’r Hen Bost, a chlywais fod y teitl yn deillio o rywbeth mae un o’r cymeriadau yn ei ddweud, gan eu bod nhw wedi dysgu Cymraeg, ac felly wedi dysgu am ddiwylliant ‘y Cymry’.

Bu trafodaeth ddiddorol ynglŷn â hyn, a’r ffaith fod Simon wedi tynnu ar ei brofiadau ei hun fel rhywun sydd wedi dysgu’r Gymraeg, ac yna wedi ymgynefino â’r diwylliant cysylltiedig, gan gynnwys y Brifwyl.

Difyr iawn fu’r sôn am Simon yn teimlo’n ddieithryn ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Dywedodd Siân Northey rywbeth i’r perwyl fod hyn yn groes i brofiadau pobol o Gymru, gan eu bod nhw’n ymwneud a’r Steddfod ers yn ifanc…

Yn wir, ar glawr cefn y nofel, mae yna ddyfyniad gan Siân sy’n dweud mai “dim ond rhywun o’r tu allan i Gymru allai fod wedi sgwennu hon”.

Nawr ‘te, mae gen i feddwl mawr o Siân Northey, ond ni allaf feddwl am ddatganiad sy’n llai gwir – hynny ydi, oni bai fod ffiniau’r wlad wedi newid, a bod Wrecsam nawr yn rhan o ogledd-orllewin Lloegr, a bod pobol Wrecsam felly o’r ‘tu allan i Gymru’… a hynny wedi ei back-dateio at yr adeg pan oeddwn i yn ifanc…

Alltud ar gyfer y bleidlais a’r ‘Steddfod

Pan glywais y sgwrs hon, cefais fy nhywys ’nôl – à la Philip E. Marlow – i 1997, a’r tro cyntaf i mi fynychu’r Brifwyl (i mi fod yn ymwybodol ohono, beth bynnag).

Blwyddyn y refferendwm oedd hi, a minnau’n ddeunaw oed. Roedd hawl gen i bleidleisio, ond doedd neb o’m cwmpas i’w weld â llawer o ymwybyddiaeth na gwybodaeth am yr hyn roedden ni fod i bleidleisio amdano.

Ac os cofiwch chi ’nôl, ‘Na’ bleidleisiodd Wrecsam – dwi’n cofio clywed y canlyniadau gan ffrind, a ninnau yn y Cotton Club yn mwynhau’r noson wythnosol i fyfyrwyr ene. Yn wir, mi roedd llawer iawn o gyfeillion yn dweud nad oeddent yn teimlo mai rhywbeth iddyn nhw bleidleisio ynddo oedd e.

Ond mi roeddwn i wedi pleidleisio, ac wedi cerdded o amgylch Cymru hefo Cymdeithas yr Iaith yn annog pobol i bleidleisio, a hynny ar ôl cwrdd â’r criw draw yn Steddfod y Bala. Roedd gwylio Dafydd Wigley ar sioe Jeremy Paxman wedi gwneud argraff arnaf!

Y diwylliant dieithr

Gadewais fy bedsit yn Rhosddu, yn llawn brwdfrydedd sy’n perthyn i’r ifanc. Ffwr’ â fi wedyn i ddal y gyfres o fysiau ar fy siwrne fawr anturus, ac mi roedd fy mathodyn Tafod y Ddraig ar fy nghardigan; perodd hyn i un gyrrwr bws ffarwelio â mi yn y Gymraeg – profiad annisgwyl ac anghyffredin!

Wrth gyrraedd yr Eisteddfod, sylweddolais nad oeddwn yn gwybod pa fath o beth oedd hi – lot o stondinau drud oedd fy argraff gyntaf! Doeddwn i ddim yn nabod neb ene, nac yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen. Gadewais y Maes heb wybod llawer mwy na hynny; a felly y bu hi am flynyddoedd maith.

Yn syml, nid oedd y Brifwyl yn rhan o fy niwylliant na fy hunaniaeth – safbwynt sy’n gyffredin iawn yn Wrecsam, yn ôl sgyrsiau diweddar rwy’ wedi bod yn rhan ohonyn nhw. A dwi dal wrthi’n pendroni’r penbleth.

Ond mi fedrech ddweud bod llu o ddysgwyr yn meistroli’r iaith ac yna’n ymdrochi yn y diwylliant yma. Wel ia, nid dysgwr ydw i. Bu teulu fy nhad yn siarad Cymraeg (tafodieithol Rhosllannerchrugog) yn well na Saesneg! A chefais fy holl addysg yn y Gymraeg.

Profiad od, felly, yw cael clywed mai dyma ddiwylliant ‘y Cymry’ – pwy neu beth ydw i, felly? A phwy neu beth yw (mwyafrif) trigolion Wrecsam? Lle ydyn ni’n ffitio? Ydyn ni’n ffitio?

Un peth sy’n glir. Mae yna lot o waith cynefino i’w wneud cyn i’r Brifwyl gyrraedd yn 2025.