Dyma gyfres newydd o eitemau sy’n edrych ar rai o hoff lefydd darllenwyr Golwg360. Mae’r eitemau wedi cael eu sgwennu gan ddysgwyr Cymraeg. Y tro yma, Lisa o Bentrefelin ger Cricieth, Gwynedd sy’n dweud pam mai traethau’r ardal yw rhai o’i hoff lefydd yng Nghymru…

Lisa dw’i. Dw i’n dŵad o Sir Gaer yn wreiddiol ond dw i’n byw ym Mhentrefelin ger Cricieth rŵan.

Mae gen i lawer o hoff lefydd yng Nghymru!

Traeth Harlech, Gwynedd yw un o hoff lefydd Lisa

Pan mae’r tywydd yn heulog dw i’n hoffi mynd i’r traethau hir yn Abererch neu Harlech i gerdded. Fel arfer, dw i’n mynd tua dwywaith y mis.

Traeth Porth Neigwl ar ôl y storm

Pan mae hi’n stormus dw i’n licio mynd i draeth Porth Neigwl i weld y môr mawr!

Pan mae o’n brysur iawn yn yr haf, dw i’n hoffi mynd i’r goedwig uwchben Llyn Mair efo picnic, lle mae’n dawel.

Weithiau dw i’n cerdded efo fy ngŵr o Lyn Mair i Lyn Tanygrisiau neu Lyn Stwlan yn ardal Blaenau Ffestiniog. Mae’r golygfeydd yn wych.