Mae Aelod Seneddol Ynys Môn wedi rhybuddio Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig rhag cymryd “cam yn ôl” wrth iddyn nhw baratoi i gyflwyno cynlluniau’n ymwneud â chyfraniadau cyflogwyr tuag at Yswiriant Gwladol eu gweithwyr.
Byddai’r cynnydd arfaethedig yng nghyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol yn gyfystyr â “cham yn ôl o ran treth swyddi”, yn ôl Llinos Medi.
Wrth dynnu sylw at y ffaith fod 99.3% o’r holl fentrau oedd yn weithredol yng Nghymru yn 2023 yn fentrau bach neu ganolig eu maint, dywed ei bod hi’n “hanfodol eu cefnogi os ydym am i’n heconomïau lleol ffynnu”.
Ar drothwy cyhoeddi Cyllideb yr Hydref ddydd Mercher (Hydref 30), mae’n edrych yn debygol y bydd Rachel Reeves, Canghellor San Steffan, yn cynyddu cyfraniadau cyflogwyr tuag at Yswiriant Gwladol.
Yn ystod yr ymgyrch etholiadol, fe wnaeth sefydliad ariannol yr IFS feirniadu’r Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr am “gynllwyn” tros eu cynlluniau ar drethi a gwariant.
Yn ôl Llinos Medi, mae’r trafferthion sy’n wynebu Llafur yn bodoli “am fod Llafur wedi penderfynu gwrthod ymgysylltu’n onest â’r cyhoedd” yn ystod yr ymgyrch.
Ychwanega y dylai’r Canghellor “gydnabod fod angen diwygio treth yn onest ac ystyried dulliau tecach”, yn hytrach na “dod o hyd i fylchau clyfar i godi trethi tra’n osgoi cyhuddiadau o dorri addewidion maniffesto”.
Busnesau bach yn “asgwrn cefn” i economi’r wlad
Mae Plaid Cymru wedi cynnig diwygiadau tecach i drethiant, gan gynnwys treth o 2% ar gyfoeth dros £10m.
Yn ôl y grŵp ymgyrchu Green New Deal, fe allai hyn godi £24bn y flwyddyn i’r Trysorlys.
Dywed Llinos Medi fod busnesau bach yn “asgwrn cefn” i economi Cymru, gan nodi bod y “cynnydd arfaethedig” gan Lafur yng nghyfraniadau cyflogwyr tuag at Yswiriant Gwladol “mewn perygl o osod beichiau ychwanegol ar y sector hollbwysig sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd”.
Dywed fod Plaid Cymru yn annog y Blaid Lafur i “ystyried gwir gost eu cynigion atchweliadol ar y busnesau hyn”.
“Mae cynyddu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr yn gweithredu fel cam yn ôl ar dreth swyddi, gan daro busnesau bach ac enillwyr incwm isel i ganolig galetaf,” meddai.
“Drwy godi costau cyflogwyr, gallai effeithio ar gyflogau, pensiynau a chyfleoedd gwaith, gan fygwth diogelwch ariannol teuluoedd sy’n gweithio, lleihau cynilion ymddeoliad, a chyfyngu ar dwf swyddi ar adeg pan fo cymorth i fusnesau bach yn hollbwysig.”