A chamddyfynnu Harold Wilson, mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth. Ac mae gennym ni wythnos cyn i Americanwyr gyfri’r pleidleisiau. Fyddai’r etholiad hwn ddim yn gystadleuaeth pe bai’n cael ei benderfynu ar sail y bleidlais boblogaidd. Byddai’r anghenfil oren yn colli. Fodd bynnag, rydym yn byw mewn byd lle mae’r canlyniad yn dibynnu ar goleg etholiadol hynafol gafodd ei ddyfeisio i ddyrchafu taleithiau deheuol a goruchafiaeth pobol â chroen gwyn.

Dw i a fy ngwraig yn byw mewn sir goch yn Colorado, mewn ardal lewyrchus tu allan i Denver. Mae’r sir tua’r un maint â Phowys, ond â chwarter y boblogaeth. Yma, mae pobol yn cyhwfan baneri Trump. Rydym yn gweld tryciau mawr â baneri Trump yn cael eu gyrru o gwmpas y gymuned weithiau. Mae pobol nad ydych chi’n disgwyl iddyn nhw fod yn ‘MAGA’ yn eich siomi chi wrth i arwydd Trump ymddangos o flaen eu tai ryw ddiwrnod. Mae’n ddigalon, braidd. Mae’n debygol fod gan bawb ddryll (ar wahân i ni).

Y prif beth am yr etholiad hwn yw pa mor flinedig yw pawb o’r wleidyddiaeth a’r posibilrwydd ar y gorwel o drais gwleidyddol. Roedden ni’n arfer byw yn sir Boulder, ac fyddai hi ddim wedi bod yn broblem codi arwydd Harris yn y fan honno. Yma, mae sticeri’n teimlo’n beryglus!

‘Mae hanes yn amodol’

Un o’r pethau mae hanes yn ein dysgu ni, os yw’n gwrs da, yw y gallai hanes fod yn wahanol. Mae hanes yn amodol. Os oes personoliaethau a ffactorau gwahanol ar waith, yna mae cwrs hanes yn newid. Meddyliwch beth fyddai wedi digwydd i wladwriaeth San Steffan pe bai Chamberlain wedi aros mewn grym ym mis Mai 1940, neu pe bai’r Arglwydd Halifax wedi achub y blaen ar Churchill. Wel, mae’n teimlo ein bod ni’n byw un o’r eiliadau hynny pan allai pethau droi’r fantol ar hap, a bod naill ai’r anghenfil oren neu Harris yn ennill y coleg etholiadol.

Mae’r sefyllfa’n ffafrio’r Democratiaid, ond eto fe wyddom ni beth ddigwyddodd yn 2016 pan oedden ni i gyd yn credu mai Clinton fyddai’n ennill. Mae’r polau fwy na thebyg yn tangyfrif y Democratiaid ac mae modd dibynnu llai a llai arnyn nhw (pwy sy’n ateb eu ffôn symudol erbyn hyn? Nid pobol ifanc, yn sicr!), ac mae cyfartaleddau pleidleisio’n cael eu llenwi â pholau Gweriniaethol di-nod. Mae’n debygol nad yw Trump wedi cynyddu ei gefnogaeth, sydd oddeutu 43% o’r boblogaeth, yn ôl Rick Wilson o Brosiect Lincoln. Roedd Harris wedi codi mwy o arian na’r anghenfil oren, ac mae’n rhedeg ymgyrch ddisgybledig â gweithredoedd go iawn ar lawr gwlad fydd fwy na thebyg yn golygu’r gwahaniaeth rhwng ennill a cholli. Mae hi’n ymgeisydd cryf, hoffus â gwleidyddiaeth boblogaidd. Yr unig beth sy’n dal Harris yn ôl yw realaeth amgen Fox News, sydd wedi gweithio mor galed ers cyhyd i ddarlunio cymeriad ceidwadol gwallgof sydd â thuedd i fod yn afresymegol. Dydy un mewnfudwr, Rupert Murdoch, erioed wedi gwneud cymaint i niweidio seice America. Ar wahân i Elon Musk, wrth gwrs!

Kamala Harris

Pe bai Harris yn ennill, bydd ton fawr o ryddhad, ond cydnabyddiaeth hefyd nad yw’r frwydr ar ben oherwydd anallu’r anghenfil oren i ildio. Yn ffodus, Biden sy’n llywyddu, ac mae yna ddyfarniad eironig yn y Goruchaf Lys sy’n rhoi imiwnedd iddo. Pe bai yna drais gwleidyddol, dw i’n siŵr bod y Democratiaid a’r sefydliad wedi bod yn paratoi at ryfela.

Pe bai’r anghenfil oren yn ennill, does wybod beth fydd yn digwydd. Fe ddown ni’n frogaod berwedig wrth i’r gwallgofrwydd gynyddu gyda phennau bach Trump yn cipio grym. Byddwn ni i gyd yn dioddef wrth i Trump, fydd yn dod yn fwyfwy gwallgof, ganoli bywyd cyhoeddus yn ei ddwylo’i hun wrth adael i’w weinidogion wneud y pethau mwyaf eithafol posib. Mae’n debygol y byddai Vance yn cymryd yr awenau wrth i Trump ddod yn analluog, a welwn ni’r un etholiad teg arall byth eto. Bydd yn gyfnod tywyll i’r byd. Diawch! Fel mewnfudwr (er fy mod i’n breswylydd), efallai y caf fy anfon i wersyll. Bydd hi’n bryd gadael y wlad (oes yna rywun yng Nghymru’n chwilio am ddarlithydd Hanes neu ymgynghorydd technoleg yng Nghymru, tybed?!).

Natsi Americanaidd

Donald Trump
Donald Trump

Fel y gwelson ni ym Madison Square Gardens, mae’r anghenfil oren yn Natsi Americanaidd. Hynny yw, yn ffasgydd sy’n gweld popeth yn nhermau hil a “gwaed”. Mae’r ceidwadwyr wedi bradychu’r genedl maen nhw’n esgus ei charu drwy roi’r unben hwn mewn sefyllfa lle gall e gipio grym. Yn ffodus, dydy’r dyn hwn ddim yn glyfar iawn a’i fod e’n tanseilio’i hun (mae’n debyg na fydd y rheiny o dras Puerto Rican mewn taleithiau ymylol yn fodlon derbyn ei sylwadau).

Dw i’n llawn gobaith ar gyfer y diwrnodau i ddod y bydd parch a chwrteisi’r rhan fwyaf o Americaniaid yn ennill y dydd. Ac unwaith fydd Harris yn ennill, byddwn ni i gyd yn teimlo bod ei buddugoliaeth wedi bod yn anochel wedi’r cyfan.