A hithau’n Ddiwrnod Psoriasis y Byd heddiw (dydd Mawrth, Hydref 29), mae menyw sydd wedi’i heffeithio gan y cyflwr ers 30 mlynedd yn dweud ei bod hi “ychydig bach yn anobeithiol” cael cymorth arbenigwr heb orfod talu i fynd yn breifat.
Mae’r wythnos hon yn cael ei defnyddio i dynnu sylw at y cyflwr, sy’n achosi plisg (flakes) ar y croen all droi’n gen (scales), ac sy’n effeithio ar ryw 2% o bobol yng ngwledydd Prydain.
Thema Wythnos Ymwybyddiaeth Psoriasis, sy’n cael ei chynnal rhwng Hydref 28 a Thachwedd 3, yw Cymuned, ac mae Psoriasis Assocation UK yn awyddus i glywed beth mae bod yn rhan o’r ‘Gymuned Psoriasis’ yn ei olygu i bobol.
Heddiw, maen nhw’n annog pobol i wisgo porffor i nodi Diwrnod Psoriasis y Byd hefyd.
Ar hyn o bryd, mae Elen Davies o Benygroes yng Ngwynedd yn trin ei psoriasis gydag eli steroid, ond mae hi wedi bod yn ystyried ei drin â therapi golau.
Mae dermatolegwyr yn gallu ei drin â golau uwch-fioled, ond yn ôl ei meddyg teulu dydy’r driniaeth ddim yn cael ei chynnig yn lleol ar hyn o bryd.
Beth yw psoriasis?
Fel arfer, mae’r plisg yn ymddangos ar benelinoedd, pengliniau, croen y pen neu waelod y cefn, ond gallan nhw ddatblygu ar unrhyw ddarn o’r corff.
Dydy’r rhan fwyaf o bobol ond yn cael eu heffeithio gan blotiau bach ar y croen, ond gallan nhw gosi neu frifo.
Does dim gwellhad parhaus ar gyfer psoriasis, ond mae triniaethau ar gael i wella’r symptomau, gan gynnwys elïau.
Gall rhai pobol â psoriasis ddatblygu arthritis psoriataidd, all achosi llid poenus yn y cymalau.
Mae pobol â psoriasis yn creu mwy o gelloedd croen nag arfer, ond dydy hi ddim yn gwbl glir pam fod hynny’n digwydd, er bod lle i gredu ei fod yn gysylltiedig â’r system imiwnedd.
Yn aml, mae pobol yn dechrau datblygu symptomau, neu’n eu gweld nhw’n gwaethygu, ar ôl digwyddiad penodol megis briw i’r croen, meddyginiaethau penodol neu haint yn y gwddw.
Beth all ei achosi?
Dechreuodd Elen Davies gael symptomau pan oedd hi tua 17 oed, yn ystod cyfnod ei harholiadau Safon Uwch.
“Mae mam yn siŵr bod o i wneud efo straen amser gwaith Lefel A ac arholiadau a ballu, bod o wedi dod ymlaen amser hynny,” meddai’r ddynes 44 oed wrth golwg360.
“Mae o wedi, fwy neu lai, bod gen i off ac on ers hynny.
“Mae o wedi bod yn well ar brydiau; pan oeddwn i’n feichiog ddwywaith, mae o wedi diflannu.
“Yn amlwg, pan mae hi’n haul a phan mae hi’n braf, mae o’n well na phan mae o dros y gaeaf.
“Mae yna adegau pan dw i’n cael llond bol ohono fo, ond pan dw i wedi siarad efo rhai eraill dw i’n ymwybodol bod rhai’n trio’i guddiad o ac yn gwisgo llewys hir i guddio penelin ac ati.
“Dydy o ddim ots gen i gymaint i drio’i guddiad o.
“Dw i’n trio chwarae pêl-rwyd, wedyn yn amlwg pan dw i’n chwarae pêl-rwyd mewn ffrog dw i ddim yn mynd i fod yn gwisgo llewys hir ac yn trio’i guddiad o.”
Heriau canfod triniaeth
Dywed Elen Davies fod ei psoriasis wedi bod ar ei waethaf yn y blynyddoedd diwethaf, a’i bod hi’n ceisio’i reoli efo eli, gan gynnwys rhai sy’n cynnwys steroid.
Mae eli steroid yn cael ei ddefnyddio i drin psoriasis dan argymhelliad meddyg, ond mae peryg i’r croen deneuo wrth ddefnyddio gormod arnyn nhw.
“Dw i ddim wedi gweld lot o bethau wedi bod yn dda iawn, ac mae lot ohonyn nhw’n ryw hen ointments sy’n ychydig bach o sglyfath o beth i roi arnodd,” meddai Elen Davies.
“Mae o’n job; ti’n gorfod gwneud beth sydd orau i chdi.
“Es i i weld doctor ddim yn hir yn ôl achos roeddwn i wedi ffansïo cael rhywbeth fel therapi golau i helpu, ond beth ddywedodd y doctor oedd fod yna ddim wir Adran Dermatoleg yn Ysbyty Gwynedd ar y funud, ac os bydd yna un yn agor yn fuan bydd yna dair blynedd o aros.
“Mae hynny ychydig bach yn anobeithiol o ran cael help arbenigwr, oni bai bod chdi’n mynd yn breifat a thalu ffortiwn.”
Fis Tachwedd y llynedd, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod heriau recriwtio’n arwain at newid “dros dro” mewn gofal dermatoleg yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
‘Rhwystredig’
Ychwanega Elen Davies ei fod yn “rhwystredig” cael pobol yn ceisio gwerthu’u cynnyrch a’u helïau iddi wrth ofyn am gymorth ar driniaethau ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Jyst iawn i 30 mlynedd dw i wedi bod efo fo, a dw i wedi trïo pob math o wahanol bethau,” meddai.
“Mae o jyst yn un o’r rheiny, does yna ddim ateb ar hyn o bryd.
“Yr unig beth dw i’n teimlo ydy mai dim ond psoriasis ydy o; dydy o ddim yn ganser.
“Dydy o ddim yn bwgwth bywyd; dw i o hyd yn meddwl fy mod i’n lwcus nad ydy ddim yn ddim byd ofnadwy.
“Fel yna dw i’n trio sbïo ar bethau.”
‘Gweithio i leihau amseroedd aros’
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n cydnabod yr effaith iechyd corfforol a meddyliol o fyw gyda chyflyrau dermatolegol fel soriasis.
“Mae gwasanaethau dermatoleg yng ngogledd Cymru yn parhau dan bwysau mawr ond rydym yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd i gryfhau arweinyddiaeth glinigol, cynyddu capasiti ac ehangu arferion megis tele-dermosgopeg,” meddai.
“Rydym yn gweithio i leihau amseroedd aros ar draws y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan gynnwys dermatoleg, ac yn ystod tymor y llywodraeth hon (2021-22 i 2025-26) byddwn wedi dyrannu mwy na £1bn mewn cyllid adfer gofal wedi’i gynllunio i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i fynd i’r afael â’r triniaethau a gronnwyd yn ystod y pandemig.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am ymateb.