Mae adolygiad o gyflogau penaethiaid Cyngor Sir Fynwy wedi argymell codi cyflog y Prif Weithredwr gan o leiaf £10,000.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn talu cyflog o £128,008 y flwyddyn i’r Prif Weithredwr, sydd ymhlith y chwarter isaf o gyflogau ar draws holl gynghorau Cymru, awdurdodau Seisnig cyfagos a’r awdurdodau mae modd cymudo’n hawdd iddyn nhw o Gymru, gan gynnwys Birmingham, Windsor a Maidenhead.

Byddai codi’r ffigwr hefyd yn galluogi’r awdurdod i roi hwb i gyflogau saith aelod o staff uwch sydd ar gyfraddau is o gymharu â chyflog blynyddol y Prif Weithredwr Paul Matthews.

Does dim penderfyniad wedi’i wneud eto ar y cyflog mae angen i’r Cyngor llawn ei gymeradwyo, ond mae adolygiad gafodd ei gomisiynu gan y Cyngor wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth.

Mae Grŵp Ceidwadol y Cyngor, sydd dan reolaeth Llafur, wedi boicotio’r pwyllgor wrth iddyn nhw wrthwynebu codiadau cyflog i’r staff sy’n derbyn y cyflogau mwyaf.

Adolygiad

Anne Phillimore, sy’n ymgynghorydd adnoddau dynol, oedd wedi cynnal yr adolygiad ac wedi ystyried yr opsiynau, gan gynnwys talu’r Prif Weithredwr yn unol â’r cynghorau mwyaf yng Nghymru, fyddai wedi cynhyrchu cyflog blynyddol o £177,000-£183,000.

Fe wnaeth hi argymell symud y cyflog i ran isa’r chwarter cyfartalog – rhwng £138,000 a £148,000.

Ond rhybuddiodd hi y gallai recriwtio fod yn “anodd” o hyd yn y dyfodol, gan y byddai cyflog is ar gyfer y swydd na rhai swyddi rheolaeth isel gyda chynghorau a chyrff cyhoeddus eraill fyddai’n debygol o ddarparu’r olynydd.

Ei hargymhelliad yw gosod cynnydd graddol o £3,000 ar y tro, ac ar ôl deuddeg mis fod yna symudiad diofyn at £141,000 fyddai’n “gyflog sefydlog”, gyda newidiadau at y dyfodol yn ymwneud ag unrhyw gyfrifoldebau ychwanegol.

Awgrymodd y dylai’r codiad cyflog o £10,000 gael ei gyflwyno dros ddwy flynedd er mwyn lleihau’r pwysau ar gyllideb y Cyngor.

Mae argymhelliad hefyd y dylid codi’r cyflog ar gyfer haen dau yn Sir Fynwy – £98,394-£100,950 ar hyn o bryd – i’r chwarter canolrifol o ryw £112,000-£125,000.

“Byddai graddau’r cynnydd, er eu bod yn sylweddol, yn golygu bod cyflogau Sir Fynwy yn unol â sefydliadau tebyg ac yn cynnig rhywfaint o le i symud mewn perthynas â lefelau cyflogau haen dau a thri.”

Cyflogau’r Cyngor Sir

Mae cyflogau haen tri yn Sir rhwng £90,683 a £94,533 ar hyn o bryd, ac mae awgrym unwaith eto y dylid eu codi i’r ystod canolrifol, gan gynhyrchu cyflog blynyddol rhwng £103,000 a £113,000 tra byddai swyddi haen pedwar yn codi o £79,114 i £82,970 i’r ystod canolrifol o £85,000 i £93,000.

Fe wnaeth Cabinet y Cyngor sefydlu’r adolygiad yn sgil pryderon y gallai Cyngor Sir Fynwy ei chael hi’n anodd denu ymgeiswyr addas, a thra ei fod wedi bod ymhlith y cynghorau sy’n talu’r cyflog lleiaf, mae buddiannau megis cael gweithio gartref wedi cael eu herydu wrth i’r arfer ddod yn fwy cyffredin.

Fe wnaeth yr adolygiad gydnabod fod rheolwyr uwch “yn gallu rheoli cynnydd mewn costau byw yn well” na staff ar gyflogau is, ond fe rybuddiodd y gallen nhw gael eu temtio gan godiadau cyflog “sylweddol” gan gyflogwyr eraill pe baen nhw’n “ennill llai na blynyddoedd cynt” mewn modd “cymharol”.

Dywed y Cabinet y byddan nhw’n mynd yn ôl at y broses o werthuso swyddi ar bob gradd “er mwyn sicrhau strwythur cyflogau teg” o fewn Cyngor Sir Fynwy.

Mae’r cyflogau ar gyfer pob un ond wyth o swyddi uwch yn destun y cynllun gwerthuso swyddi presennol a graddfeydd cyflog sy’n cael eu cytuno’n genedlaethol.