Mae gwasanaeth angladdol preifat Alex Salmond wedi’i gynnal yn sir Aberdeen heddiw (dydd Mawrth, Hydref 29).

Bu farw cyn-Brif Weinidog yr Alban yn 69 oed yn dilyn trawiad ar y galon yn ystod ymweliad â Gogledd Macedonia bythefnos yn ôl.

Roedd wedi bod yn annerch cynhadledd yno cyn iddo farw’n sydyn yn dilyn cinio.

Y gŵr busnes Syr Tom Hunter oedd wedi talu am yr awyren breifat i gludo’i gorff adref ar Hydref 18, ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrthod talu i’r Awyrlu ei hebrwng yn ôl i’r Alban.

Roedd ei deulu a Kenny MacAskill, arweinydd dros dro plaid Alba, wedi ymgasglu yn y maes awyr i’w hebrwng adref, gyda phibydd swyddogol y cyn-Brif Weinidog, Connor Sinclair, yn chwarae ‘Freedom come all ye’ wrth i’r arch, gafodd ei gorchuddio â baner yr Alban, adael yr awyren.

Wrth i’r hers adael y maes awyr, daeth beicwyr ynghyd i arwain yr osgordd wrth i Alex Salmond a’i deulu ddychwelyd adref i’r cartref teuluol, gyda nifer o geir yn chwifio baneri ‘Yes’ i dalu teyrnged i’w waith yn ymgyrchu dros annibyniaeth i’r Alban.

Angladd

Cafodd y gwasanaeth heddiw ei gynnal yn eglwys plwyf Strichen, a bydd yn cael ei gladdu yn y fynwent yn ddiweddarach.

Y Parchedig Ian McEwan, ffrind i’r teulu, fu’n arwain y gwasanaeth.

Ymhlith y rhai dalodd deyrnged iddo roedd Kenny MacAskill, arweinydd dros dro plaid Alba; Fergus Ewing, Aelod yr SNP o Senedd yr Alban; a Christina Hendry, nith Alex Salmond.

Ond yn unol â dymuniadau’r teulu, doedd y Prif Weinidog John Swinney na Nicola Sturgeon, olynydd Alex Salmond yn y swydd, ddim wedi mynd i’r angladd.

Mae llyfr teyrngedau ar agor yn Senedd yr Alban, ac fe fydd hwnnw’n cael ei anfon at ei deulu.

Teyrngedau

Yn ystod y gwasanaeth, fe wnaeth Kenny MacAskill gyfeirio at Alex Salmond fel “cawr o ddyn” ac fel “arweinydd”, ac roedd yn “ysbrydoliaeth, yn athrylith gwleidyddol, yn areithiwr, yn ddadleuwr ac yn gyfathrebwr heb ei ail”.

Ychwanegodd ei fod yn “ffigwr gwleidyddol rhagorol ei genhedlaeth, cenedlaethau’r gorffennol a chenedlaethau i ddod”, a bod ei waddol ym mhob man yn yr Alban.

Pwysleisiodd nad oedd yn “wleidydd o ran gyrfa”, ond ei fod e wedi ymrwymo i’r Alban ac i annibyniaeth ac i’w “freuddwyd” o sut wlad ddylai’r Alban fod.

Fe wnaeth e ganmol ei “weledigaeth” ar gyfer Alban annibynnol pan ddaeth i rym yn 2007, ac yntau’n arwain llywodraeth “gredadwy a galluog”.

Er ei fod yn “ffigwr cyhoeddus”, meddai, roedd yn “hynod warchodol o’i fywyd preifat ac o Moira [ei wraig] a’r teulu”.

Clywodd y gynulleidfa gan ei nith fod y teulu “wedi teimlo galar cenedl a thu hwnt” ers colli Alex Salmond.

 

Corff Alex Salmond wedi’i gludo adref i’r Alban

Cafodd cyn-Brif Weinidog yr Alban seremoni ac osgordd yng Ngogledd Macedonia, lle bu farw, cyn i awyren ei gludo adref i sir Aberdeen

Alex Salmond a’i ddylanwad ar YesCymru

Cadi Dafydd

“Weithiau, mae unigolion yn gallu newid hanes a doedd yna ddim byd o gwbl yn ddisgwyliedig y byddai’r Alban yn cael refferendwm annibyniaeth yn 2014”