Ar ôl ymgyrch siomedig yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, mae Morgannwg wedi ennill eu gêm 50 pelawd gyntaf yng Nghwpan Undydd Metro Bank, gyda buddugoliaeth o 27 rhediad dros Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd.

Pan ddaeth y glaw i ben ganol y prynhawn, roedd disgwyl i gêm 38 pelawd gael ei chynnal, ond cafodd ei chwtogi ymhellach i 33 pelawd.

Gyda’r elfennau wedi tarfu ar adegau tyngedfennol yn ystod ymgyrch ugain pelawd y sir, bydden nhw wedi bod yn awyddus i’r glaw gadw draw er mwyn cael cwblhau’r ornest hon yn yr un modd ag y gwnaethon nhw orffen y Vitality Blast.

Roedd Morgannwg dan rywfaint o bwysau ar 76 am bedair ar ôl pymtheg pelawd, ac roedd hi’n edrych yn annhebygol y bydden nhw’n gallu gosod nod fyddai’n ddigon cystadleuol i ennill y gêm.

Ar wahân i bartneriaeth o 49 rhwng Billy Root (29) a Kiran Carlson (32), cawson nhw eu hachub i raddau helaeth gan y chwaraewr amryddawn ifanc Ben Kellaway, oedd wedi sgorio 65 heb fod allan oddi ar 60 o belenni, gan daro wyth pedwar.

Ar ôl i Forgannwg gyrraedd 187 am wyth, roedd gan y Saeson nod o 188 i ennill, ond serennodd Dan Douthwaite gyda’r bêl wrth gipio pedair wiced am 25 yn ei saith pelawd.

Batiad Swydd Gaerloyw

Gyda’r gêm yn y fantol, felly, byddai’n rhaid i Forgannwg sicrhau bod eu bowlio ar ei orau ar lain oedd wedi cynnig digon o gymorth i fowlwyr Swydd Gaerloyw, gyda Dom Goodman yn manteisio gyda’i dair wiced.

Roedd y Saeson eisoes yn saith am ddwy yn y pumed pelawd, ar ôl colli’r agorwyr Miles Hammond a Cameron Bancroft, y naill wedi’i ddal yn gampus yn y cyfar gan Carlson oddi ar fowlio Jamie McIlroy a’r llall wedi’i ddal gan y wicedwr ifanc Will Smale oddi ar fowlio Timm van der Gugten.

Roedden nhw dan ragor o bwysau ar 44 am dair wrth iddyn nhw golli Ollie Price, wrth i Smale gipio ail ddaliad oddi ar fowlio Dan Douthwaite.

Er iddyn nhw golli Ben Charlesworth a’r capten Jack Taylor yn gymharol rhad, batiodd James Bracey yn gadarn a hyderus i gadw ei dîm yn yr ornest cyn cael ei fowlio gan Dan Douthwaite am 86 oddi ar belen rhif 79 ei fatiad, i adael ei dîm yn 157 am chwech.

Erbyn hynny, 31 rhediad oedd eu hangen ar yr ymwelwyr i ennill oddi ar 33 o belenni, ond heb ychwanegu at y sgôr, collodd Swydd Gaerloyw eu seithfed wiced pan gafodd Graeme van Buuren ei fowlio gan Andy Gorvin am 23.

Roedden nhw’n 158 am wyth pan gafodd Zaman Akhter ei ddal yn gelfydd gan ddwylo chwim Smale oddi ar fowlio Andy Gorvin, ac fe gipiodd y wicedwr ddaliad arall yn fuan wedyn wrth i Douthwaite ganfod ymyl bat Josh Shaw.

Daeth y gêm i ben oddi ar belen gyntaf pelawd rhif 31, pan gafodd Goodman ei ddal gan Kellaway oddi ar fowlio Andy Gorvin.

Tân Cymreig

Yn y cyfamser, roedd buddugoliaeth o wyth wiced i ddynion y Tân Cymreig yn erbyn Manchester Originals yn Old Trafford.

Sgoriodd y tîm cartref 86 am wyth, sef y sgôr isaf erioed yn y twrnament, wrth i’r tîm Cymreig gyrraedd y nod oddi ar 57 o belenni.

Enillodd tîm y merched o saith wiced yn erbyn yr un gwrthwynebwyr hefyd.