Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd rowndiau terfynol Cwpan Cymru JD a Chwpan Cymru Bute Energy yn cael eu cynnal ar gae Rodney Parade yn 2025.

Hon fydd yr ail flwyddyn yn olynol i ddwy gystadleuaeth gwpan fwyaf Cymru gael eu cynnal yng Nghasnewydd.

Cei Connah a Chaerdydd gododd y tlysau y tymor diwethaf.

Fe wnaeth rownd derfynol Cwpan Cymru Bute Energy rhwng Caerdydd a Wrecsam ddenu torf o 1,734 – y dorf fwyaf yn y gystadleuaeth.

Y tymor hwn, bydd rownd derfynol Cwpan Bute Energy yn cael ei chynnal ddydd Sul, Ebrill 27, wythnos cyn rownd derfynol Cwpan Cymru JD ar ddydd Sul, Mai 4.

Mae’r daith i Rodney Parade yn dechrau’r penwythnos yma, gyda rownd ragbrofol gyntaf Cwpan Cymru JD.

Bydd rownd ragbrofol Cwpan Cymru Bute Energy yn cael ei chynnal ym mis Medi.