Swydd Gaerloyw yw gwrthwynebwyr cyntaf tîm criced Morgannwg yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Undydd Metro Bank yng Nghaerdydd heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 25).

Bydd y sir Gymreig yn awyddus i dynnu llinell o dan ymgyrch siomedig yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, ar ôl iddyn nhw fethu â chyrraedd rownd yr wyth olaf.

Mae ganddyn nhw hanes o berfformio’n dda yn y gystadleuaeth hon, serch hynny, ar ôl iddyn nhw godi’r gwpan yn 2021.

Byddan nhw’n gobeithio y gall eu capten Kiran Carlson ddechrau’r gystadleuaeth hon yn yr un modd ag y gwnaeth e orffen y twrnament ugain pelawd, ar ôl creu hanes gyda’r bat, gyda Marnus Labuschagne hefyd yn creu hanes gyda’r bêl.

Ond bydd cryn dipyn o bwysau ar ysgwyddau Colin Ingram, eu batiwr tramor hefyd, yn ogystal ag Eddie Byrom, eu prif sgoriwr y tymor diwethaf gyda 352 o rediadau.

Ond fydd Ingram ddim ar gael ar gfer y gêm gyntaf hon, gan ei fod e wedi’i ddewis gan y Northern Superchargers ar gyfer y Can Pelen, ac mae Sam Northeast a Zain Ul Hassan wedi’u hanafu.

Seren Morgannwg gyda’r bêl y tymor diwethaf oedd y troellwr ifanc Ben Kellaway, oedd wedi cipio 13 o wicedi ond sydd heb chwarae ryw lawer eto y tymor hwn.

O ran y bowlwyr profiadol, mae James Harris allan ag anaf.

Yn absenoldeb Chris Cooke, fydd yn chwarae i’r Tân Cymreig yn y Can Pelen, bydd cyfle i un o’r wicedwyr ifainc serennu – naill ai Alex Horton, Will Smale neu Henry Hurle – ond mae pwysau ar rai o’r batwyr hefyd i lenwi bwlch.

Yr ymwelwyr

Bydd Swydd Gaerloyw’n awyddus i ailadrodd y llwyddiant gawson nhw yn y Vitality Blast, y gystadleuaeth ugain pelawd, ar ôl iddyn nhw gymhwyso ar gyfer rownd yr wyth olaf.

Cyrhaeddodd y Saeson y rowndiau olaf y tymor diwethaf drwy orffen yn y tri uchaf, tra bod Morgannwg wedi colli allan drwy orffen yn bedwerydd.

Collodd Swydd Gaerloyw yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn y rownd gyn-derfynol, wrth i’w gwrthwynebwyr fynd yn eu blaenau i godi Cwpan Undydd Metro Bank yn Trent Bridge yn Nottingham.

O ran y garfan, mae’r chwaraewyr ifainc Joe Phillips, Ed Middleton a Dom Goodman i gyd wedi’u cynnwys, ond mae Zafar Gohar a Tom Price wedi’u hanafu, tra bod David Payne, Matt Taylor a Marchant de Lange, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, i gyd yn chwarae yn y Can Pelen.

Yn y Can Pelen, bydd timau dynion a menywod y Tân Cymreig yn chwarae oddi cartref yn Old Trafford yn erbyn Manchester Originals ar yr un pryd, gyda’r menywod yn dechrau am 3 o’r gloch a’r dynion yn cychwyn am 6.30yh.

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, E Byrom, D Douthwaite, A Gorvin, A Horton, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten, H Hurle

Carfan Swydd Gaerloyw: J Taylor (capten), C Bancroft, J Shaw, T Smith, G van Buuren, Zaman Akhter, J Phillips, J Bracey, Ajeet Singh Dale, E Middleton, B Charlesworth, O Price, D Goodman, M Hammond

Sgorfwrdd