Bydd tîm pêl-droed y Seintiau Newydd yn wynebu her eithriadol yn ail gymal eu gêm yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr, ar ôl colli o 5-0 oddi cartref yn Ferencváros neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 23).
Sgoriodd yr asgellwr Adama Traoré hatric, tra bod Kristoffer Zachariassen a Marquinhos hefyd wedi rhwydo yn Stadiwm Ferencváros yn Hwngari.
Bydd yr ail gymal yn cael ei gynnal yn Neuadd y Parc nos Fawrth nesaf (Gorffennaf 30, 6.30yh).
Dywedodd y rheolwr Craig Harrison ar ddiwedd y gêm fod y canlyniad yn un “siomedig”, ond ei fod yn falch o agwedd ei chwaraewyr.
“Doedd dim amheuaeth erioed y byddai unrhyw un yn rhoi’r gorau iddi,” meddai wrth y BBC.
“Fe wnaethon ni ddal ati gyda’n gilydd hyd y diwedd.
“Mae [Ferencváros] yn dîm da iawn, ond dw i’n falch o’n chwaraewyr ni a’r ffordd wnaethon nhw ymdopi, eu proffesiynoldeb, eu hagwedd a’u gweithgarwch.”