Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi denu’r golwr Lawrence Vigouroux o Burnley am ffi sydd heb ei ddatgelu.

Mae’r chwaraewr 30 oed wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd gyda’r Elyrch, ac mae yna opsiwn i’w ymestyn am flwyddyn hyd at 2027.

Bydd e’n gwisgo’r crys rhif 22.

Fe fu Abertawe’n chwilio am golwr newydd ers iddyn nhw gael gwybod na fyddai Carl Rushworth yn dychwelyd o Brighton ar ôl treulio’r tymor diwethaf ar fenthyg.

Fe fu Vigouroux a Luke Williams, rheolwr Abertawe, yn cydweithio yn Swindon yn y gorffennol, ac mae’r ddau yn dod yn ôl at ei gilydd ar daith baratoadol i Awstria.

Mae’r golwr yn ymuno ag Andy Fisher a Nathan Broome ymhlith golwyr y tîm cyntaf.

Yn ôl Luke Williams, mae Vigouroux “yn ddewr â’r bêl” ac yn “arbedwr ergydion gwych erioed”, ac mae ganddo fe gyfle i’w sefydlu ei hun fel golwr yn y Bencampwriaeth.

Gyrfa

Yn enedigol o Loegr, mae Lawrence Vigouroux yn gymwys i gynrychioli Chile, ac mae e wedi’i alw i’r garfan genedlaethol yn y gorffennol.

Dechreuodd ei yrfa gyda Brentford a Spurs, cyn ymuno â Lerpwl.

Symudodd ar fenthyg i Swindon a sicrhau ei le yn y tîm yn ystod tymor 2015-16, gan arbed cic o’r smotyn yn ei gêm gyntaf yn erbyn Bradford, ac fe wnaeth y clwb ei gadw’n barhaol.

Treuliodd e dri thymor yn Swindon, gan chwarae mewn 130 o gemau ac ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn y clwb yn 2017.

Symudodd wedyn i glwb Everton de Viña del Mar, ond fe ddychwelodd i Loegr at Leyton Orient oherwydd ansefydlogrwydd gwleidyddol yn y wlad.

Roedd e’n aelod o garfan Leyton Orient enillodd yr Ail Adran yn 2023, ac fe gafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn y clwb am y trydydd tro yn olynol, Maneg Aur yr Ail Adran, ac yn aelod o Dîm y Flwyddyn yr Adran.