Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Ray Reardon, y chwaraewr snwcer sydd wedi marw’n 91 oed.

Bu farw Reardon, oedd yn bencampwr y byd chwe gwaith ac yn cael ei ystyried yn un o chwaraewyr snwcer gorau’r byd, yn 91 oed yn dilyn brwydr â chanser, meddai ei wraig Carol.

Cafodd y ffugenw ‘Dracula’ o ganlyniad i’w steil gwallt unigryw, ac roedd yn un o ffigurau mwyaf poblogaidd a charismataidd ei oes, ac roedd yn boblogaidd ymhlith miliynau o gefnogwyr am ei ragoriaeth wrth y bwrdd, a’i hiwmor i ffwrdd o’r bwrdd.

Fe wnaeth y Cymro hynod boblogaidd ddominyddu’r gamp yn y 1970au, gan ennill chwe theitl byd yn ystod degawd llwyddiannus.

Gwaddol ‘Dracula’ yn ôl Ken Doherty

“Roedd Ray yn un o arwyr eiconig y byd snwcer,” meddai Ken Doherty, cyn-bencampwr y byd, oedd eisiau dilyn yn ôl troed enwog Reardon pan oedd yn blentyn, wrth SportsBoom.com.

“Roedd e’n adnabyddus ar unwaith; roedd pawb yn ei nabod, ac roedd ganddo fe naws arbennig yn ei gylch e,” meddai pencampwr y Crucible yn 1997.

“Roedd e jest yn ŵr bonheddig nodedig; roedd ganddo fe sglein, ac roedd e’n ddyn hyfryd iawn.

“Ges i’r pleser o gwrdd â fe sawl gwaith – bydd colled fawr iawn ar ei ôl e.”

“Am arwr, gŵr bonheddig, a llysgennad gwych ar gyfer y gamp.”

Statws proffesiynol

Roedd Ray Reardon wrth ei fodd wrth y bwrdd gwyrdd, ac roedd e’n dal i chwarae snwcer dros y misoedd diwethaf.

Sgoriodd e rediad dros gant fis Tachwedd y llynedd, ychydig wythnosau ar ôl ei ben-blwydd yn 91 oed.

Wedi’i eni yn Nhredegar yn 1932, dilynodd yn ôl troed ei dad, gan ymuno â’r gymuned lofaol yn 14 oed.

Ond ar ôl gadael yr ardal, daeth yn blismon am saith mlynedd, ac roedd yn dal i chwarae snwcer amatur.

Yna, yn 35 oed, fe roddodd y gorau iddi a throi’n broffesiynol ar ôl ennill Pencampwriaeth Amatur Lloegr.

Roedd ei amseru bron yn berffaith, wrth i’r BBC ddarlledu Pot Black am y tro cyntaf yn 1969, gan arddangos y byd snwcer ar ôl dyfodiad teledu lliw.

Roedd hon yn eiliad allweddol yn hanes y gamp, ac o fewn degawd fe arweiniodd at sylw helaeth i snwcer ar y BBC a chynnydd yn ei phoblogrwydd.

Ray Reardon oedd pencampwr cyntaf Pot Black, gan guro John Spencer yn y rownd derfynol un ffrâm, ac fe enillodd e hi eto yn 1979.

Mentora sêr y dyfodol

Yn 2004, fe wnaeth Ray Reardon fentora Ronnie O’Sullivan, pencampwr y byd saith gwaith, gan helpu ‘Rocket’ i ychwanegu gallu strategol at ei ddawn arbennig am adeiladu rhediadau.

Y canlyniad oedd ennill teitl yn y Crucible, ac mae Ronnie O’Sullivan bob amser yn crybwyll Ray Reardon fel un o’i brif ddylanwadau ac fel ffrind.

Fe wnaeth Shaun Murphy ddefnyddio ciw Ray Reardon wrth ennill Pencampwriaeth y Byd yn 2005, ac fe gafodd e arweiniad ganddo fe yn 2007.

Derbyniodd Ray Reardon MBE yn 1985.

Cafodd ei dderbyn i Oriel Enwogion Snwcer yn 2011, a phob blwyddyn mae enillydd Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru’n derbyn Tlws Ray Reardon.

Anrhydeddau a gwaddol

“Heb amheuaeth, fe wnaeth Ray a chwaraewyr eraill fel Alex Higgins osod y safon a’r seiliau ar gyfer pobol fel fi a chwaraewyr eraill i roi ein stamp ein hunain ar y gamp,” meddai Ken Doherty.

“Roedd gan Ray, ‘Tywysog y Tywyllwch’, ac Alex ‘The Hurricane’ elyniaeth arbennig, gystadleuol iawn yn y 1970au, ac roedd hynny’n wych i’r gamp.

“Ac roedd gyda chi John Spencer, Dennis Taylor ac wedyn Steve Davis yn torri trwodd, ond Ray oedd dechrau oes aur y gamp, mewn gwirionedd.

“Roedd hi’n oes arbennig iawn, yn tyfu i fyny yn gwylio Ray a’r chwaraewyr hynny ar Pot Black ac ym Mhencampwriaeth y Byd.

“Wna i fyth anghofio’r tro cyntaf i fi gwrdd â fe yn 1990, yn Norbreck Castle yn Blackpool.”

Dylanwad hirdymor

“Roeddwn i’n fachgen ifanc yn torri trwodd,” meddai Ken Doherty.

“Roedd e’n dal i chwarae, a daeth e draw i’r bwrdd lle’r oeddwn i’n ymarfer a rhoi ambell air o gyngor i fi ar sut i wella.

“Byddai bob amser yn ceisio helpu’r chwaraewyr proffesiynol ifainc oedd yn torri trwodd – dyna’r math o ŵr bonheddig oedd e.

“Roedd yn golygu llawer i fi, oherwydd roedd e’n enw mor fawr yn y gamp.”

Teyrngedau gan gyd-Gymry

Mark Williams, y Cymro a phencampwr y byd dair gwaith, fu’n arwain y teyrngedau i’w gydwladwr.

“Mae Ray yn un o’r chwaraewyr gorau yn y byd chwaraeon o Gymru, a’r chwaraewr snwcer gorau,” meddai.

“Mae’n un o’r rhesymau pam fod cynifer ohonon ni wedi dechrau chwarae.

“Fe wnaeth e roi snwcer ar y map, ochr yn ochr ag Alex Higgins, Jimmy White a Steve Davis.

“Mae gan unrhyw un sy’n chwarae nawr ddyled fawr iddyn nhw, oherwydd fe wnaethon nhw boblogeiddio’r gamp.

“Mae e’n ysbrydoliaeth wirioneddol.”