Mae Morgannwg wedi gorffen eu hymgyrch ugain pelawd gyda buddugoliaeth swmpus dros Wlad yr Haf ar noson hanesyddol.

Tarodd y capten Kiran Carlson 135, y sgôr unigol gorau erioed i Forgannwg, gan drechu 116 heb fod allan Ian Thomas yn erbyn yr un gwrthwynebwyr yn 2004.

Cyfrannodd y sgôr hwnnw’n sylweddol at gyfanswm gorau erioed Morgannwg, 243 am bedair, gan guro’u 240 am dair yn erbyn Surrey ar yr Oval yn 2015.

Serch hynny, doedd y bartneriaeth allweddol o 169 rhwng Carlson a Will Smale, oedd wedi taro’i hanner canred cyntaf erioed i’r sir, ddim yn agos at y record o bartneriaeth i Forgannwg mewn gemau ugain pelawd.

Cipiodd y troellwr coes Marnus Labuschagne bum wiced wrth i Wlad yr Haf gael eu bowlio allan am 123, gan golli o 120 o rediadau.

Rhain yw’r ffigurau gorau erioed i Forgannwg, gan ragori ar bum wiced am 14 Graham Wagg yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn 2013.

Clatsio cadarn

Tra bod Gwlad yr Haf yn ceisio sicrhau gêm gartref yn rownd yr wyth olaf, roedd Morgannwg allan o’r gystadleuaeth eisoes cyn y gêm olaf hon.

Fe fu’n gystadleuaeth siomedig i’r sir Gymreig, sydd wedi’i chael hi’n anodd ennill gemau trwy gydol yr ymgyrch, ond dechreuon nhw’n gadarn yn y cyfnod clatsio, gyda Will Smale a’r capten Kiran Carlson yn gosod y seiliau.

Daeth Carlson allan yn ymosodol, yn enwedig, ac fe gafodd e gefnogaeth ei bartner ifanc yn erbyn y bowlwyr rhyngwladol Craig Overton, Jake Ball a Riley Meredith yn y pelawdau agoriadol tra bo’r cyfyngiadau maesu ar waith.

Erbyn i’r chwe phelawd dan gyfyngiadau ddod i ben, roedd y tîm cartref yn 66 heb golli wiced, a’u capten Carlson heb fod allan ar 41, tra bo Smale wrth y llain o hyd ar 24.

Canred a record i Carlson

Ychydig iawn arafodd Morgannwg yn y pelawdau ar ôl y cyfnod clatsio, wrth i Carlson arwain y ffordd drwy gyrraedd ei hanner canred gan daro saith pedwar ac un chwech wrth gyrraedd y garreg filltir.

Roedd y sir Gymreig yn 113 heb golli wiced erbyn hanner ffordd drwy’r batiad.

Cyrhaeddodd Carlson ei sgôr ugain pelawd gorau gydag ergyd chwech oddi ar 47 o belenni, wrth drechu ei 87 yn erbyn Sussex y tymor hwn, a doedd hi ddim yn hir cyn i Will Smale daro’i hanner canred cyntaf i Forgannwg.

Daeth eu partneriaeth i ben pan gafodd Smale ei ddal ar y ffin ar ochr y goes gan Sean Dickson oddi ar fowlio Ben Green am 59, gan ddod â Colin Ingram i’r llain.

Wrth gyrraedd 117, fe wnaeth Carlson dorri’r record am y sgôr unigol gorau erioed i Forgannwg, gan drechu record Ian Thomas, 116 heb fod allan, yn erbyn Gwlad yr 2004.

Daeth batiad y capten i ben ar 135 pan gam-ergydiodd ar yr ochr agored, gan roi daliad i Tom Abell oddi ar fowlio Meredith, gyda Morgannwg yn 213 am ddwy ar ôl 17.2 pelawd, ac yn llygadu eu cyfanswm gorau erioed, 240 yn erbyn Surrey ar yr Oval yn 2015.

Gyda’r ddau ddibynadwy – Colin Ingram a Chris Cooke – wrth y llain, roedd hynny’n dal yn bosib â hwythau ymhell y tu hwnt i’r gyfradd ofynnol er mwyn cyflawni hynny.

Collodd Morgannwg eu trydedd wiced ar ddiwedd y belawd olaf ond un, pan darodd Cooke ergyd uchel i’r awyr i roi daliad digon syml i Overton oddi ar fowlio Ben Green am 16.

Daeth y record o sgôr oddi ar drydedd pelen y belawd olaf, a sgôr gorau’r gystadleuaeth i unrhyw sir eleni oddi ar y belen ganlynol, gan drechu ymgais Gwlad yr Haf, cyn i Colin Ingram gael ei redeg allan oddi ar belen ola’r batiad i orffen ar 243 am bedair.

Cwrso nod annhebygol

Er i Wlad yr Haf ddechrau’n gryf, roedd eu batiad ar chwâl braidd ar ôl i Timm van der Gugten gipio dwy wiced mewn dwy belen yn y drydedd pelawd, wrth waredu Tom Banton a Tom Kohler-Cadmore i adael yr ymwelwyr yn 40 am ddwy.

Roedden nhw’n 53 am dair yn y bumed pelawd, pan darodd George Thomas y bêl yn uchel i’r awyr at Will Smale oddi ar fowlio’r troellwr Ben Kellaway, a’u gobeithion wedi pylu eisoes.

Roedd y sgôr yn gyfartal ar ddiwedd y cyfnod clatsio, ond roedd Gwlad yr Haf wedi colli tair wiced yn fwy na’r sir Gymreig wrth gyrraedd 66 ar ôl chwe phelawd.

Fe gollon nhw eu pedwaredd ar 88 yn yr wythfed pelawd wrth i Sean Dickson gael ei fowlio gan Andy Gorvin, a’u pumed ar 90 wrth i Tom Abell, capten y Tân Cymreig, gael ei fowlio am 29 gan y troellwr coes Mason Crane, gafodd ei ddewis i’r garfan yr wythnos hon fel hapddewis trwy deilyngdod.

Marnus Labuschagne ar dân

Os daeth batiad Morgannwg i ben yn seiniau ‘Yma O Hyd’ gan Gareth Roberts ar y trombôn, wel fe fu bron â dod i ben yn seiniau ‘Waltzing Matilda’.

Cipiodd Morgannwg eu chweched wiced ar 102 ar ddiwedd y degfed pelawd, wrth i Lewis Gregory dynnu at Tom Bevan, a hwnnw’n cipio chwip o ddaliad oddi ar fowlio’r troellwr coes arall, Marnus Labuschagne o Awstralia.

Ar ôl i Chris Cooke adael y cae ag anaf, cafodd Ben Green a Riley Meredith eu bowlio gan Labuschagne i adael ei dîm yn 113 am wyth, ac roedden nhw’n 113 am naw pan gafodd Jack Leach ei fowlio yn yr un belawd ddi-sgôr.

Daeth y gêm i ben pan gafodd Jake Ball ei fowlio gan Labuschagne, wrth i hwnnw gipio’i bumed wiced.

Pe baen nhw wedi perfformio cystal drwy gydol y gystadleuaeth, fe allai pethau fod wedi bod yn wahanol iawn i’r sir Gymreig, sy’n troi eu sylw bellach at y gystadleuaeth 50 pelawd.

‘Breuddwyd’

“Mae’n rywbeth rydych chi’n breuddwydio amdano fe,” meddai Kiran Carlson am ei record gyda’r bat.

“Rydych chi’n meddwl, os aiff pethau’n dda, y gallech chi gael canred, ond dyw e ddim wedi fy nharo i eto, a bod yn onest.

“Roeddwn i jest yn trio aros yn yr eiliad, ond mae’n braf iawn cael y fuddugoliaeth ac i orffen y tymor fel yna’n bersonol.

“Bydda i’n ei drysori am flynyddoedd i ddod.”