Bydd tîm pêl-droed merched Cymru’n herio Slofacia yn rownd gyntaf gemau ail gyfle Ewro 2025.

Cafodd yr enwau eu tynnu o’r het yn y Swistir heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 19).

Gorffennodd tîm Rhian Wilkinson ar frig eu grŵp ar ddiwedd ymgyrch ddi-guro, gan sgorio deunaw gôl mewn chwe gêm.

Byddan nhw nawr yn teithio i Slofacia ar ddydd Gwener, Hydref 25, gyda’r gêm gyfatebol yng Nghaerdydd bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Bydd yr enillwyr yn herio Georgia neu Weriniaeth Iwerddon yn y rownd nesaf fis Tachwedd a Rhagfyr.

“Mae gennym ni bedair gêm arall, gobeithio,” meddai Rhian Wilkinson.

“Rhaid i ni ddod drwy’r rownd gyntaf, ac yna’r rownd nesaf gyda dwy arall.

“Mae’n farathon.

“Rhaid i ni fod yn well, oherwydd rydyn ni’n gobeithio creu hanes.”

Cefndir

Collodd Cymru’r cyfle i fynd i Gwpan y Byd 2023 ar ôl colli’r gemau ail gyfle yn erbyn y Swistir.

Ond maen nhw bellach yn ddi-guro mewn wyth gêm ers gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn yr Almaen, sef gêm olaf Gemma Grainger wrth y llyw cyn iddi symud i Norwy.

Dim ond tair gôl mae Cymru wedi’u hildio mewn wyth gêm.