Mae rhediad siomedig tîm rygbi Cymru o wyth colled o’r bron wedi dod i ben, ar ôl iddyn nhw grafu buddugoliaeth o 36-35 dros Queensland Reds yn Brisbane.

Hon yw buddugoliaeth gyntaf tîm Warren Gatland eleni.

Roedd Cymru ar y blaen o 17 pwynt ar un adeg, ac roedd hi’n edrych fel pe baen nhw am golli tan y munudau olaf.

Roedd Queensland ar y blaen gydag wyth munud yn weddill, ar ôl i Mac Grealy groesi am ddau gais.

Ond daeth y cais buddugol drwy’r eilydd o fewnwr Kieran Hardy ar ôl 78 munud, ar ôl 21 o gymalau.

Sgoriodd yr asgellwr Regan Grace gais yn ei gêm undeb gyntaf ar ôl symud o rygbi’r gynghrair, gyda Chymru’n sgorio chwe chais i gyd.

Roedd helynt ar drothwy’r gêm, ar ôl iddi ddod i’r amlwg na fyddai Cory Hill yn chwarae, er iddo fe gael ei enwi’n gapten, gyda’r clo yn tynnu’n ôl am resymau personol wrth baratoi ar gyfer ei gêm gyntaf ers iddo fe a chriw o ddynion achosi difrod i gartref dynes yn 2021.

Hanner cyntaf

Dechreuodd Cymru’n gryf wrth i’r prop Archie Griffin groesi am gais yn y munudau agoriadol.

Ond tarodd y Reds yn ôl wrth i’r bachwr Richie Asiata groesi am ddau gais, gydag un arall i James O’Connor wedi’i atal gan y dyfarnwr fideo.

Daeth dau gais i Gymru wedyn drwy Regan Grace a Rio Dyer, cyn i’r bachwr Evan Lloyd weld cerdyn melyn ar ôl 26 munud.

Ond parhau i ymosod wnaeth Cymru, a daeth cais arall wrth i Gareth Davies daflu i’r lein a chanfod Dafydd Jenkins, oedd wedi rhyddhau Christ Tshiunza i ychwanegu pum pwynt arall at y sgôr.

Ail hanner

Chwe munud yn unig gymerodd hi ar ddechrau’r ail hanner i Gymru ymestyn eu mantais, gyda Nick Tompkins yn manteisio ar gic 50:22 gan Sam Costelow, oedd wedi ychwanegu’r trosiad i ymestyn mantais Cymru eto i 17 pwynt.

Ond cipiodd Asiata ei hatric oddi ar lein ar ôl 51 munud wrth i’w dîm ddechrau taro’n ôl, gydag O’Connor yn ychwanegu’r trosiad cyn creu cais arall i Mac Grealy ar ôl awr i ddod â’i dîm o fewn un sgôr i Gymru.

Arhosodd amddiffyn y Reds yn gryf wrth i Gymru ymosod, ac fe ychwanegon nhw gais wedyn drwy Grealy wrth iddyn nhw fynd ar y blaen, gyda throsiad O’Connor yn ei gwneud hi’n 35-31 gyda naw munud yn weddill.

Ond roedd Kieran Hardy wrth law yn y pen draw i atal embaras i Gymru, a sicrhau na fydden nhw’n colli am y nawfed tro yn olynol.