Mae Cory Hill wedi tynnu’n ôl o gêm rygbi Cymru yn erbyn Queensland Reds heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 19) “am resymau personol”, er ei fod e wedi’i enwi’n gapten.

Daeth y newyddion am y chwaraewr ail reng yn fuan cyn y gic gyntaf, gyda’r mewnwr Gareth Davies yn arwain y tîm yn ei absenoldeb, a Dafydd Jenkins yn cymryd ei le yn yr ail reng, a daw’r bachwr Dewi Lake i’r fainc.

Daeth cadarnhad o’r newyddion am Cory Hill wrth i Warren Gatland siarad â’r cyfryngau yn Awstralia cyn y gêm, ac mae Undeb Rygbi Cymru bellach wedi cadarnhau’r newyddion hefyd.

Fe fu Cory Hill dan y lach yn ddiweddar, a hynny yn sgil digwyddiad yn 2021 pan oedd e ymhlith criw o ddynion oedd wedi achosi difrod i dŷ dynes.

Doedd e ddim wedi cael ei gyhuddo mewn perthynas â’r digwyddiad, ac fe ymddiheurodd yn ddiweddarach, gan ategu’r ymddiheuriad eto’r wythnos hon.

Yn y cyfamser, mae’n ymddangos nad yw cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Undeb Rygbi Cymru’n gallu diweddaru’r wybodaeth am y gêm gan nad oes modd iddyn nhw ei gwylio hi, gyda nifer sylweddol o gefnogwyr hefyd yn cwyno nad oes modd ei gwylio ar y teledu.

Cory Hill yn gapten ar dîm rygbi Cymru yn erbyn Queensland

Bydd pum chwaraewyr yn ennill eu capiau rhyngwladol cyntaf