Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi enwi ei garfan i wynebu Queensland Reds yn Brisbane fore Gwener (Gorffennaf 19).

Mae e wedi gwneud sawl newid i’r tim ar ôl colli’r ail gêm brawf yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn (Gorffennaf 13) yn Melbourne.

Mae pum chwaraewr di-gap wedi’u henwi yn y tîm, gan gynnwys yr asgellwr Regan Grace.

Dyma fydd gêm undeb gyntaf Grace, ac yntau wedi cynrychioli tîm rygbi’r gynghrair Cymru mae wedi’i wneud yn y gorffennol.

Gareth Davies sydd wedi’i enwi’n is-gapten, tra bo Dewi Lake wedi’i hepgor o’r garfan yn gyfangwbl.

Cameron Winnett, Rio Dyer, Taine Plumtree, Christ Tshiunza ac Archie Griffin sy’n cadw eu llefydd ar ôl Melbourne.

Bydd y prop Kemsley Mathias, y bachwr Evan Lloyd, yr wythwr Mackenzie Martin a’r canolwr Eddie Jones yn dechrau gêm dros Gymru am y tro cyntaf.

Helynt

Mae’r clo Cory Hill wedi’i enwi’n gapten, sydd wedi bod yn ddewis dadleuol i rai.

Cafodd ei ddewis ar gyfer taith yr haf er nad yw e wedi cynrychioli ei wlad ers tair blynedd, ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod ymhlith grŵp o ddynion achosodd ddifrod i gartref dynes yn 2021.

Chafodd e mo’i gyhuddo gan yr heddlu, ac fe ymddiheurodd llefarydd ar ei ran ar y pryd.

Tîm Cymru: Cameron Winnett, Rio Dyer, Nick Tompkins, Eddie James, Regan Grace, Sam Costelow, Gareth Davies; Kemsley Mathias, Evan Lloyd, Archie Griffin, Matthew Screech, Cory Hill (capten), Christ Tshiunza, Taine Plumtree a Mackenzie Martin

Eilyddion: Efan Daniel, Corey Domachowski, Harri O’Connor, Dafydd Jenkins, Tommy Reffell, Kieran Hardy, Ben Thomas, Mason Grady