Jess Fishlock bellach sydd â’r record am y nifer fwyaf o goliau dros Gymru (45), yn dilyn buddugoliaeth y tîm cenedlaethol yn erbyn Cosofo neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 17).

Ar ôl curo Cosofo o 2-0 yn Llanelli, dywedodd yr ymosodwr ei bod hi’n “anrhydedd” cael cynrychioli ei gwlad drwy gydol ei gyrfa, ac nad oes “dim byd gwell na bod yn Gymraes”.

“Diolch i’m holl gyd-chwaraewyr presennol, a’r gorffennol, am fy helpu i gyrraedd yr eiliadau hyn,” meddai ar X (Twitter gynt).

“Ymlaen i’r gemau ail gyfle.”

Record

Wrth sgorio neithiwr, mae hi wedi llwyddo i dorri record Helen Ward, oedd wedi sgorio 44 o goliau dros Gymru.

Sgoriodd Fishlock gôl gynta’r gêm ym Mharc y Scarlets, a hynny ar ôl saith munud yn unig.

41 o goliau rhyngwladol sydd gan brif sgoriwr y dynion, y cyn-gapten Gareth Bale.

Mae canlyniad y merched yn golygu eu bod nhw wedi gorffen ar frig eu grŵp rhagbrofol, a’u bod nhw’n cymhwyso ar gyfer y cam nesaf wrth geisio cyrraedd Ewro 2025, yn ogystal â dychwelyd i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd ar gyfer tymor 2025-26.

Fe wnaeth Cymru ddominyddu’r ornest, a chael y rhan fwyaf o’r meddiant, gyda’r ail gôl yn dod gan Mary McAteer ar ôl 26 munud.

Hon oedd ei gôl gyntaf i’r tîm cenedlaethol.

‘Sgorio goliau ar adegau pwysig’

Dywedodd Helen Ward wrth BBC Cymru ei bod hi wedi bod yn disgwyl i Jess Fishlock dorri ei record hi.

“Roedd hi yn erbyn gwrthwynebwyr y byddech chi’n disgwyl iddi sgorio yn eu herbyn, ond byddwn i wedi betio arian mawr pe bai Cymru wedi chwarae yn erbyn yr Almaen neu Ffrainc y byddai hi dal wedi torri’r record,” meddai.

“Dyna’r math o chwaraewraig yw hi; mae hi wedi sgorio goliau ar adegau pwysig i’w gwlad.

“Hi yw’r un sydd yn arwain y ffordd, a dyna mae hi wedi’i wneud ers 20 mlynedd bellach.”

Gemau ail gyfle

Bydd gwrthwynebwyr Cymru yn y gemau ail gyfle yn cael eu tynnu o’r het ddydd Gwener (Gorffennaf 19) yn Nyon yn y Swistir.

Bydd dwy rownd yn cael eu cynnal, wrth i 28 tîm gystadlu am y saith lle olaf yn Ewro 2025 yn y wlad.

Bydd rownd gynta’r gemau’n cael ei chynnal rhwng Hydref 23 a 29, tra bydd yr ail rownd yn cael ei chwarae rhwng Tachwedd 27 a Rhagfyr 3.