Caint v Morgannwg: Buddugoliaeth i’r sir Gymreig

Mae Morgannwg eisoes allan o gystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast ar ôl ymgyrch siomedig

Hunanbarch yn unig sydd yn y fantol i dîm criced Morgannwg bellach, wrth iddyn nhw deithio i Gaergaint i herio Caint yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast heno (nos Fawrth, Gorffennaf 16).

Bydd y gêm yn fyw ar Sky Sports am 6.30yh.

Mae’r sir Gymreig allan o’r gystadleuaeth eisoes, yn dilyn ymgyrch siomedig y tymor hwn.

Hon yw eu gêm olaf oddi cartref.

Dydy Sam Northeast ddim ar gael i wynebu ei hen sir, a hynny o ganlyniad i anaf i linyn y gâr, ac mae Ollie Rayner wedi’i ychwanegu at y garfan fel eilydd o faeswr.

“Er gwaethaf ein siom yn ddiweddar yn dilyn y canlyniad yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Cheltenham, dydyn ni ddim am adael i hynny ein diffinio ni,” meddai’r capten Kiran Carlson.

“Wrth i ni herio Caint yng Nghaergaint, mae’n gyfle mawr i ni daro’n ôl yn gryfach.

“Mae tipyn yn y fantol o hyd yn y gystadleuaeth hon, ac mae arwyddocâd enfawr i bob gêm yn y grŵp hwn.”

O ran Caint, Sam Billings sy’n arwain y tîm gyda chyfnod Feroze Khushi ar fenthyg wedi dod i ben.

Mae Zak Crawley yn absennol gan ei fod yng ngharfan Lloegr i herio India’r Gorllewin, tra bod Joe Denly, Beyers Swanepoel, Matt Quinn, Fred Klaassen a Michael Cohen i gyd wedi’u hanafu.

Carfan Caint: S Billings (capten), D Bell-Drummond, J Evison, H Finch, G Garrett, N Gilchrist, J Leaning, T Muyeye, M O’Riordan, M Parkinson, T Rogers, J Singh

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, C Ingram, B Kellaway, M Labuschagne, J McIlroy, W Smale, T van der Gugten, S Northeast, O Rayner.

22:09

Morgannwg yn fuddugol o 13 rhediad.

21:24

Diwedd y cyfnod clatsio

Caint 33 am un.

20:58

Diwedd y batiad.

Hanner canred i Marnus Labuschagne (50 heb fod allan).

Morgannwg 145 am chwech.

20:21

20:18

Morgannwg 39 am ddwy ar ddiwedd y cyfnod clatsio (3.5 pelawd).

Y sir Gymreig wedi cael eu gwahodd i fatio.

13 pelawd yr un yn dilyn glaw.