Mae cyn-gapten Cymru yn rhan o arlwy newydd chwaraeon BBC Cymru Wales y tymor nesaf.

Bydd Ashley Williams yn cyflwyno sioe wyth ran newydd Feast of Football gyda mynediad diguro at y garfan genedlaethol gan adlewyrchu holl gyffro a phynciau trafod y dydd. Wedi’i ffilmio ym mhencadlys Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar noswyl gemau rhyngwladol y menywod a’r dynion, y nod fydd dangos cyfweliadau arbennig â chwaraewyr y naill garfan a’r llall, ynghyd â ffilmiau byrion o bob cwr o’r wlad.

“Wy’n edrych ymlaen at gyflwyno Feast of Football. Mae gennym ni fynediad gwych i’r sgwadiau a byddwn ni’n rhoi cipolwg gwych i gefnogwyr ar bêl-droed Cymru ac yn siarad am bethau sy’n bwysig iddyn nhw. Ry’n ni eisiau i bawb deimlo eu bod nhw wrth galon y gwersyll ac yn rhan o’r stori,” meddai Ashley Williams.

Dywed BBC Cymru y bydd y wledd bêl-droed yn cynnwyd podlediad, fersiwn iPlayer ac un arall ar gyfer y teledu.

Yn ôl Carolyn Hitt, Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru Wales, “Bydd Feast of Football yn trafod pêl-droed Cymru yn ei holl ogoniant ac mewn cyfnodau llai llewyrchus.”

Mae’r BBC yn addo mwy o wrandawiad i bêl-droed y merched hefyd, gyda chyfres Iconic: The Rise of the Women in Red ar Radio Wales a BBC Sounds dan law Jess Fishlock. Llamodd Fishlock i’r brig fel prif sgoriwr Cymru erioed (45 o goliau), wedi’r fuddugoliaeth yn erbyn Cosofo nos Fawrth diwetha.

Capten Cymru

Yn gyn-amddiffynnwr Abertawe ac Everton, enillodd ei gap cyntaf o 86 i Gymru yn 2008 tan ei ymddeoliad yn 2019. Bu’n gapten ar ei wlad adeg pencampwriaeth Ewro 2016, lle sgoriodd yn rownd y chwarteri yn erbyn Gwlad Belg.

Roedd yn un o griw sylwebu helaeth y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig adeg Ewro 2024 diweddar yn yr Almaen.