Mae angen “trawsnewid llwyr” ar y Blaid Lafur yng Nghymru, yn ôl un fu’n ymgyrchu dros Jeremy Miles yn y ras arweinyddol ddiwethaf, pan ddaeth Vaughan Gething yn Brif Weinidog Cymru.

Yn dilyn y newyddion bedwar mis yn ddiweddarach fod y Prif Weinidog bellach yn bwriadu camu o’r swydd yn yr hydref, mae’r Blaid Lafur yng Nghymru yn wynebu her go fawr wrth geisio uno’r blaid sydd wedi ymddangos mor unedig yn y gorffennol.

Yn sgil hyn, mae Owain Williams, wrth siarad â golwg360, yn credu bod rhaid cael “trawsnewid llwyr” ar y Blaid Lafur yng Nghymru.

“Does dim diddordeb gen i mewn personoliaethau,” meddai.

“Mae angen dim byd llai na thrawsnewid llwyr i Lafur Cymru – a Chymru hefyd – os ydyn ni am ffynnu yn y 2020au a’r 2030au.

“Mae Keir Starmer yn llygad ei le. Dyma’r awr i roi gwlad o flaen plaid.”

Sefyllfa fregus Llafur Cymru

Mae’r farn fod angen “trawsnewid llwyr” yn arwydd o ba mor fregus fu’r sefyllfa fewnol dan arweinyddiaeth Vaughan Gething.

O ystyried y newid i’r system etholiadol, mwy o aelodau seneddol, a Phlaid Lafur sydd mewn argyfwng, does dim dwywaith fod y sefyllfa’n un sydd angen ei datrys, a hynny’n gyflym os ydi Llafur am aros mewn grym yn dilyn etholiadau datganoledig tu hwnt i 2026.

Wrth gwrs, mae’n bosib y bydd etholiad cyn hynny, ond mae hyn yn annhebygol gan mai Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd wedi galw am etholiad, a bod angen i ddwy ran o dair o’r Senedd gytuno i gynnal etholiad.

Mae’n ymddangos mai’r unig ffordd mae hyn yn dueddol o ddigwydd yw pe na bai’r Senedd yn gallu cytuno mai’r arweinydd Llafur newydd fydd yn Brif Weinidog, sydd yn bosib o ystyried mai ond hanner y seddi sydd gan Lafur – neu, mewn termau gwleidyddol, mwyafrif lleiafrifol.

Yr ymgeiswyr posib

Mae llygaid pawb bellach yn troi tuag at yr unigolion yn y Blaid Lafur sydd yn ystyried rhedeg, neu beidio.

Mae golwg360 yn deall bod Huw Irranca-Davies a Ken Skates ymhlith yr aelodau sydd yn ystyried bod yn y ras, a hynny ar ôl galwadau honedig efo Keir Starmer ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 16).

Hefyd, yn ôl y BBC, mae disgwyl y bydd Jeremy Miles yn rhedeg eto y tro hwn, ond gyda’r rhaniadau mor ddwfn rhyngddo fo a chefnogwyr Vaughan Gething, byddai’n anodd sicrhau’r undod sydd ei angen ar y blaid.

Pe bai ras arweinyddol, yn lle coroni arweinydd, bydd disgwyl i’r blaid allu enwi o leiaf un ymgeisydd benywaidd.

Yn hynny o beth, mae Eluned Morgan yn cael ei chrybwyll fel un sydd yn addas i fod yn y swydd, yn enwedig o ystyried ei phrofiad fel Ysgrifennydd Iechyd.

Y consensws ydi y bydd unrhyw un o’r aelodau sydd yn ennill yn ei chael hi’n anodd uno’r blaid, ond dydi hynny ddim o reidrwydd oherwydd ideoleg, ond yn hytrach oherwydd personoliaethau o fewn y blaid.

‘Siom’

Dywed y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis fod digwyddiadau’r misoedd diwethaf wedi dod â “siom fawr” o ran y prosesau datganoli, ac “i ni fel cenedl”.

“Mae’n rhaid i’r Blaid Lafur Cymreig feddwl yn ofalus efo beth maen nhw’n gwneud nesaf, achos maen nhw efallai yn y sefyllfa waethaf maen nhw erioed wedi bod ynddi,” meddai wrth golwg360.

“Wrth gwrs, gyda phob peth mewn gwleidyddiaeth, mae’r sefyllfa wedi bod yn eithaf Shakespearian unwaith eto.

“Dw i’n credu bod hynna wedi synnu fi, y ffaith bod yr undod o fewn y Blaid Lafur wedi’i rwygo fel mae e.

“Yn ehangach, mae e’n dangos y cymhlethdod efo’r cymeriadau mewn gwleidyddiaeth.”

Mae disgwyl y bydd y rheolau ar gyfer y ras arweinyddol yn cael eu cyhoeddi gan Bwyllgor Gwaith Llafur dros y penwythnos.