Yn y diwedd, llwyddodd Vaughan Gething i gadw ei swydd yn brif weinidog am ychydig dros ddwywaith gymaint ag y parhaodd Liz Truss yn Rhif 10 Downing Street. Anodd meddwl am ddim byd mwy cadarnhaol i’w ddweud am yr hyn a gyflawnodd dros y cyfnod hwnnw.
Efallai na achosodd lawn gymaint o lanast ag a wnaeth Liz Truss yn ei theyrnasiad byr, ond go brin chwaith ei fod wedi dangos llawer mwy o ddoethineb na hi.
Roedd yr ysgrifen eisoes ar y mur erbyn y cafodd ei ddatgan yn fuddugol yn etholiad Llafur Cymru ym mis Mawrth.
Yn y lle cyntaf, roedd amheuon cynyddol am ddilysrwydd yr etholiad, gan ei bod yn amlwg nad oedd ei wrthwynebydd wedi cael chwarae teg gan yr undebau. Er nad Vaughan Gething ei hun oedd yn gyfrifol am y rheolau, byddai ymgeisydd â’r mymryn lleiaf o gydwybod wedi mynnu bod yr etholiad wedi cael ei redeg yn decach.
Yn fwy penodol, daeth i’r amlwg ei fod wedi derbyn cyfraniad o £200,000 gan berchennog cwmni a oedd wedi cyflawni troseddau amgylcheddol difrifol. Swm anferthol i’w gyfrannu at etholiad mewnol o’r fath yng Nghymru. Hyd yn oed os mai esgeulustod a diofalwch a barodd i Vaughan Gething dderbyn yr arian ar y cychwyn, cafodd fwy na digon o amser i syrthio ar ei fai a gwneud iawn. Hyd yn oed ar ôl cael ei ethol, gallasai’n hawdd gydnabod ei fod wedi gwneud camgymeriad a mynnu talu pob ceiniog yn ôl.
Roedd ei ymddygiad tuag at Hannah Blythyn – wrth ei diswyddo fel gweinidog ac wedi hynny – yn adlewyrchu’n arbennig o wael ar ei gymeriad. Ar ôl iddi hi amddiffyn ei hun yn y senedd yn mynd ar ei llw nad hi a roddodd wybodaeth gyfrinachol i’r wasg, ei ymateb oedd ceisio creu’r argraff ei bod yn dweud celwydd. Yn y diwedd, bu mor wirion â rhoi ei air ei hun yn erbyn ei gair hi – pan oedd yn amlwg pwy oedd y mwyaf diffuant o’r ddau. Pan wnaeth Nation.Cymru gadarnhau nad Hannah Blythin oedd ffynhonnell y stori, cafodd hynny o hygrededd roedd gan y Prif Weinidog ar ôl ei danseilio’n llwyr.
Erbyn hynny, roedd eisoes wedi colli pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd, yn bennaf oherwydd i ddau o’i blaid ei hun fethu â’i gefnogi. Wrth ymateb i’r bleidlais honno, dangosodd agwedd hynod drahaus a hunangyfiawn.
Hyd yn oed wrth ymddiswyddo, doedd dim arlliw o wyleidd-dra yn perthyn iddo. Yn lle hynny, roedd yn dal i honni nad oedd wedi gwneud dim byd o’i le, a’i fod wedi dioddef erledigaeth, gan led-awgrymu fod hyn yn rhyw fath o ergyd yn erbyn lleiafrifoedd ethnig. Fel y dywed y newyddiadurwr gwleidyddol Martin Shipton wrth ymateb ar Nation.Cymru – ‘delusional to the bitter end’.
Canlyniadau’r etholiad
Pan gychwynnodd Vaughan Gething yn ei swydd, y darogan cyffredinol oedd y byddai’n ddiogel ynddi tan ar ôl etholiad San Steffan o leiaf. Er i’r farn hon gael ei phrofi’n gywir, roedd ar sail y dybiaeth na fyddai’r etholiad hwnnw wedi cael ei gynnal am rai misoedd yn rhagor.
Go brin fod neb yn disgwyl y byddai wedi hunan-ddinistrio lawn mor gyflym, a gallai fod mewn trafferthion erbyn hyn yn oed pe na bai’r etholiad wedi’i gynnal.
Ar y llaw arall, mae’n sicr fod canlyniadau’r etholiad yng Nghymru wedi dwysáu’r cymhelliad i’r Blaid Lafur weithredu ar frys os am osgoi colledion rhy ddrwg yn etholiad Senedd Cymru yn 2026.
Wrth gipio 27 allan o 32 o etholaethau Cymru mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf fod Llafur wedi cael llwyddiant ysgubol. Y gwir amdani, fodd bynnag, oedd iddyn nhw wneud yn wael iawn o ran cyfanswm a chanran y pleidleisiau a gawsant. Aeth canran eu pleidlais i lawr ychydig i 37 y cant. O’r seddau a gafodd eu cipio ganddyn nhw, roedd llawer â mwyafrifoedd bach, ac maen nhw wedi colli pleidleisiau’n ddifrifol yn eu cadarnleoedd traddodiadol. Mewn llawer o etholaethau, yr hyn sy’n diogelu Llafur yw bod y pleidleisiau maen nhw wedi eu colli yn cael eu rhannu rhwng gwahanol bleidiau; pe bai’r colledion i unrhyw un blaid benodol yn hytrach nag i amryw gallen nhw fod mewn trafferthion mawr.
Perfformiad Plaid Cymru
Llwyddiant amlycaf – a phwysicaf – Plaid Cymru yn yr etholiad oedd ennill y pedair sedd roedd wedi eu targedu.
Er hyn, diddorol yw nodi mai Ceredigion yw’r unig un o’r seddau hyn lle bu cynnydd amlwg yn ei phleidlais yn yr etholiad. Nid yw ei phleidlais ym Môn wedi amrywio mwy nag ychydig gannoedd dros yr etholiadau diwethaf, ac o’u rhoi gyda’i gilydd mae cyfanswm pleidleisiau Dwyfor Meirionnydd a Bangor Aberconwy tua’r un fath â chyfanswm y tair etholaeth (gan gynnwys hen etholaeth Arfon) a oedd yn ymestyn dros yr un ardal y tro diwethaf. Yng Nghaerfyrddin, o ystyried y newid ffiniau, aeth pleidlais Plaid Cymru i lawr yn weddol sylweddol, ond daliodd y sedd yn rhwydd oherwydd cwymp mwy ym mhleidlais Llafur a’r Torïaid.
I raddau helaeth, llwyddiant mwy annisgwyl i Blaid Cymru oedd ei pherfformiad mewn etholaethau lle nad oedd ganddi obaith o ennill. Cynyddodd canran ei phleidlais ledled Cymru i fymryn o dan 15%. Dyma’r ganran uchaf erioed mewn unrhyw etholiad San Steffan, gyda’r cyfanswm drwch blewyn yn llai na’r uchaf erioed o 195,000 a gafodd yn 2001. Cafodd bleidlais ddigon parchus mewn sawl etholaeth lle’r arferai wneud yn druenus o wael yn y gorffennol.
Un ffactor allanol cyffredin rhwng etholiadau 2001 ac eleni oedd nad oedd unrhyw amheuaeth ynghylch pwy fyddai’n ffurfio llywodraeth yn ei sgil. Mae’n gwbl bosibl felly fod mwy o bobl yn teimlo’n rhydd i gefnogi pleidiau llai yn lle pleidleisio’n dactegol i’r lleiaf o ddau ddrwg.
Digwyddodd cynnydd Plaid Cymru y tro hwn yr un pryd â thwf syfrdanol Reform. Er mor wahanol yw’r ddwy blaid o ran gwerthoedd ac amcanion mae eu pleidlais wedi codi law yn llaw â’i gilydd yn y rhan fwyaf o etholaethau.
Ar un ystyr, does dim rheswm pam na ddylai hyn fod gan y byddai disgwyl i’r ddwy blaid apelio at bobl gwbl wahanol. Ac mewn llawer i ardal mae hyn yn debygol o fod yn wir. Mae’n sicr fod digonedd o bleidleiswyr Reform sy’n cydymffurfio â’r ddelwedd stereoteipaidd ohonynt fel Saeson cenedlaetholgar hŷn sy’n darllen y Daily Mail ac yn cefnogi Brexit i’r carn. Pobl na fyddai ag unrhyw ddiddordeb ym Mhlaid Cymru – a phobl na fyddai llawer o aelodau Plaid Cymru eisiau eu cefnogaeth p’run bynnag.
Ar y llaw arall, mae’n gwbl amlwg fod Reform wedi gallu estyn allan ymhell y tu hwnt i’r stereoteip craidd hwn, yn enwedig yng nghymoedd ôl-ddiwydiannol y de. Mae’n ymddangos fod Nigel Farage yn gwybod yn iawn beth oedd yn ei wneud wrth lansio eu hymgyrch yn y Gurnos ym Merthyr. Mewn lleoedd fel hyn, yr unig blaid sydd wedi bod yn fygythiad credadwy i Lafur yn y gorffennol yw Plaid Cymru, a hynny dim ond yn achlysurol. Er bod cael ei churo gan Reform yn y rhan fwyaf o’r cymoedd yn ergyd i Blaid Cymru, ni achosodd hynny rwystr iddi’r tro hwn gan i’w phleidlais hithau hefyd gynyddu. Ar y llaw arall, gall fod yn fygythiad i dwf pellach gan Blaid Cymru yn y dyfodol. Mae’r ddwy blaid yn debygol o fod yn cystadlu am bleidleisiau pobl sydd wedi hen ddadrithio â Llafur ac sy’n credu bod eu cymunedau’n cael cam. Does dim mymryn o sicrwydd bellach a fyddai adwaith mawr yn erbyn Llafur yn golygu cynnydd cyfatebol i Blaid Cymru.
Etholiad Senedd Cymru
Mae’n rhy gynnar ar hyn o bryd i geisio darogan pa effaith y bydd digwyddiadau’r pythefnos ddiwethaf yn ei gael ar ganlyniadau etholiad Senedd Cymru yn 2026. Pe bai Vaughan Gething wedi gallu parhau yn ei swydd, does wybod pa mor drychinebus fyddai’r canlyniadau i Lafur Cymru. Cyn belled ag y bydd arweinydd rhesymol dderbyniol yn cael ei ethol yn deg, does dim rheswm pam na allan nhw osgoi cyflafan o’r fath. Does neb yn debygol o allu efelychu’r math o lwyddiant cymharol annisgwyl a gafodd Mark Drakeford yn 2021, ond gallai dal gafael ar ganran debyg i’r hyn a gafodd Llafur ddechrau’r mis fod yn ddigon cyraeddadwy.
Gobaith mwyaf Llafur yw y bydd y pleidleisiau a gaiff eu bwrw yn ei herbyn wedi eu rhannu’n gymharol gyfartal rhwng y pleidiau eraill. Mae’r drefn gyfrannol newydd o bleidleisio am ei gwneud bron yn amhosibl i unrhyw blaid gael mwyafrif dros bawb. Ar y llaw arall, gall plaid sydd fymryn ar y blaen i’r pleidiau eraill yn y rhan fwyaf o’r etholaethau ddal i gael nifer sylweddol fwy o seddau na’r lleill.
Gan na fyddai Llafur yn ffurfio unrhyw gytundeb â’r Torïaid na Reform, mae’n debygol mai rhyw fath o glymblaid gyda Phlaid Cymru fydd yr unig ddewis ymarferol iddyn nhw. Ar yr olwg gyntaf, gallai hyn roi Plaid Cymru mewn sefyllfa gref i daro bargen galed. Ar y llaw arall, ni fydd gan Blaid Cymru unrhyw ddewis heblaw ceisio cyfaddawd gan na fyddai hithau chwaith yn gallu ystyried cydweithio â’r Torïaid na Reform.
Yn y cyfamser, pwysicach nag unrhyw ystyriaethau gwleidyddiaeth plaid yn y dyfodol ydi bod Cymru heddiw’n cael Prif Weinidog sy’n deilwng o’r swydd. Mae’n ddyletswydd ar Lafur Cymru sicrhau trefn decach o ethol a fydd, gobeithio, yn galluogi eu haelodau i wneud dewis mwy goleuedig y tro hwn.