Bydd danteithion Cymreig ar gael i deithwyr dosbarth cyntaf Trafnidiaeth Cymru rhwng Abertawe-Manceinion a Chaerdydd-Caergybi.

Mae’r cwmni trenau cenedlaethol yn addo’r gorau o Gymru – gan gynnwys cig moch gyda bara lawr, cyw iâr ‘supreme’ Caerffili, bara brith â sglein a llawer mwy – i gyd-fynd â’r Genedlaethol eleni.

Bydd bwydlen arall ar gael i deithwyr dosbarth safonol hefyd, gyda ‘Byrger yr Eisteddfod’ a detholiad o ddiodydd sy’n cael eu cynhyrchu yma yng Nghymru.

Meddai Piers Croft, Cyfarwyddwr Ar Fwrdd Trenau Trafnidiaeth Cymru:

“Mae bwydlen yr Eisteddfod yn mynd y tu hwnt i flas yn unig. Mae’n cynnig cyfle i’n teithwyr brofi blas yr Eisteddfod ei hun. Mae’r cyfle unigryw hwn yn dathlu popeth sydd gan Gymru i’w gynnig wrth fwynhau pryd o fwyd blasus a rhagorol.”

Ychwanegodd Lowri Joyce, Arweinydd Strategol y Gymraeg TrC :

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio’r fwydlen Gymreig arbennig hon ar ein trenau i ddathlu’r Eisteddfod Genedlaethol.

“Fel brand cwbl ddwyieithog, mae TrC eisiau dathlu ein hiaith, diwylliant a phopeth mae’n ei olygu i fod yn Gymraeg. Rydym yn bartner allweddol yn y digwyddiad eleni a byddwn yn annog y rhai sy’n teithio i’r Maes i chwilio am opsiynau teithio cynaliadwy ac os cewch gyfle, rhoi cynnig ar ein bwydlen arbennig.

Mae’r fwydlen eisteddfodol ar gael tan 10 Awst.

Ar y cledrau i’r Coroni

Mae’r cwmni trenau cenedlaethol, sydd yn nwylo Llywodraeth Bae Caerdydd ers 2021, yn annog cymaint â phosib ohonom i ddefnyddio’r trenau i fynd a dod i’r Brifwyl eleni.

Gyda gorsaf Pontypridd o fewn 5 munud ar droed i’r Maes ym Mharc Ynysangharad a 25 munud i Faes B ger Glyn-coch, mae’r cwmni’n addo darparu rhagor o drenau i ateb y galw rhwng y dref a’r brifddinas, tan ddiwedd y digwyddiad olaf bob nos. Mae sbec sydyn ar wefan TrC yn dangos bydd y trên olaf yn gadael Pontypridd am 12.15 y bore.

Mae trenau’n rhedeg yn uniongyrchol o Gaerdydd Canolog i Ferthyr Tudful, Aberdâr a Threherbert, a phob un yn galw ym Mhontypridd. Bydd teithwyr trenau o Ben-y-bont, Ynys y Barri, Penarth neu Rymni yn gorfod newid yng ngorsafoedd Caerdydd Heol y Frenhines neu Gaerdydd Canolog.

Metro Maes B

Pwy â wyr – efallai y byddwch chi’n ddigon ffodus i ddal un o drenau newydd sbon Dosbarth 231 a brofwyd eisoes ar lein Treherbert fel rhan o ddarpariaeth Metro De Cymru.

Rhagor o fanylion teithio i’r Steddfod gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.