Mae Mick Antoniw yn dweud bod angen arweinydd all gynnig undod i Lafur Cymru.
Daw sylwadau cyn-Gwnsler Cyffredinol Cymru wrth ymateb i gais gan golwg360 am sylw ynghylch adroddiadau nad yw’n bwriadu cyflwyno’i enw i olynu Vaughan Gething.
Ymddiswyddodd Gething yr wythnos hon o’i swyddi’n arweinydd ei blaid ac yn Brif Weinidog.
Mae cryn ddyfalu ar hyn o bryd ynghylch pwy allai daflu eu henwau i’r het – yn eu plith mae Jeremy Miles, Eluned Morgan, Huw Irranca-Davies, Hannah Blythyn a Ken Skates.
Ond un sydd ddim yn bwriadu sefyll yw Mick Antoniw, ar ôl iddo ymuno â Jeremy Miles, Julie James, a Vaughan Gething maes o law, wrth gyhoeddi eu hymadawiadau.
Ar hyn o bryd, mae awgrym y gallai llywodraeth dros dro gael ei ffurfio hyd nes bod modd gwneud trefniadau mwy parhaol yn yr hydref.
“Mae angen ymgeisydd undod sy’n gryf o ran gwerthoedd Llafur Cymru ac sy’n gefnogol o agenda ddiwygio Llywodraeth Cymru, fydd yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig, ond fydd bob amser yn rhoi buddiannau Cymreig ar y brig,” meddai Mick Antoniw wrth golwg360.