Mae ymrwymiad i sefydlu Cyngor y Cenedlaethau a’r Rhanbarthau wedi cael ei grybwyll yn Araith y Brenin heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 17).

Dyma un o’r cyfeiriadau prin at Gymru yn yr Araith wrth ailagor San Steffan.

“Bydd fy ngweinidogion yn sefydlu Cyngor newydd o’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau i adnewyddu cyfleoedd i’r Prif Weinidog, penaethiaid llywodraethau datganoledig, a meiri awdurdodau cyfun i gydweithio â’i gilydd,” meddai Charles III, Brenin Lloegr, yn ystod ei araith yn amlinellu’r deddfau sy’n dod i rym.

Mae ymrwymiad hefyd i’w gwneud hi’n haws trosglwyddo pwerau datganoledig i’r rhanbarthau yn Lloegr, ond does ddim manylion ynghylch pa bwerau mae’r Llywodraeth Lafur yn bwriadu eu trosglwyddo.

Yr Araith

Ar ffurf Araith y Brenin, mae Llywodraeth newydd Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi eu prif amcanion polisi a deddfwriaethol.

Yn ystod yr Araith, fe wnaeth y Brenin amlinellu 39 mesur mae’r llywodraeth eisiau gweithredu arnyn nhw yn ystod y sesiwn seneddol nesaf.

Dyma rhai o’r prif bwyntiau yn yr Araith:

  • bydd cwmni sy’n eiddo i’r wladwriaeth yn cael ei sefydlu, sef Ynni Prydain Fawr, i fanteisio ar gyfleoedd ynni cynaliadwy
  • bydd Cronfa Gyfoeth Genedlaethol yn cael ei sefydlu i fuddsoddi £7.3bn mewn seilwaith a diwydiant gwyrdd
  • bydd awdurdod newydd o’r enw Rheilffyrdd Prydain Fawr yn cael ei sefydlu i oruchwylio’r system drenau
  • bydd y Mesur Trosedd a Phlismona yn cael ei gyflwyno i roi pwerau i’r heddlu fynd i’r afael ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn cau bwlch cyfreithiol i bobol sydd yn dwyn o siopau
  • bydd Deddf Martyn yn cael ei gyflwyno i orfodi lleoliadau sydd yn cynnal digwyddiadau mawr i sefydlu gweithdrefnau i fynd i’r afael â bygythiadau o derfysgoedd
  • bydd Mesur Diogelwch Ffiniau, Lloches a Mewnfudo i alluogi’r heddlu i ddefnyddio pwerau gwrth-derfysg i daclo gangiau mewnfudo
  • bydd Mesur Hawliau Cyflogaeth yn cael ei gyflwyno i wahardd defnydd sy’n “ecsbloetio” o gytundebau oriau sero
  • bydd Mesur Cyfrifoldeb Cyllidebol yn sicrhau bod rhaid i ragolygon cyllidebol gael eu cynnal cyn i Gyllideb gael ei chyflwyno
  • bydd y llywodraeth newydd yn ailgyflwyno’r Mesur Llywodraethu Pêl-droed i osod rheoleiddiwr ar gyfer y pum cynghrair uchaf.

Ond mae elfennau pwysig sydd ddim wedi cael eu gyflwyno yn yr Araith hon, gan gynnwys:

  • cyflogau o fewn y sector cyhoeddus
  • y cap ar fudd-daliadau i deuluoedd â mwy na dau o blant
  • mwy o fanylder ar sut i ryddhau mwy o lefydd mewn carchardai
  • dyfodol y diwydiant dur yng ngwledydd Prydain.

Croesawu

Mewn datganiad, dywed Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod y “rhaglen lywodraethu yn feiddgar ac uchelgeisiol”, ac y “bydd yn sicrhau’r newid sydd ei angen ar Gymru a’r Deyrnas Unedig”.

“Bydd y mesurau sydd wedi’u cyhoeddi yn Araith y Brenin yn sicrhau twf a swyddi, yn cymryd ein strydoedd yn ôl, yn sefydlu GB Energy i dorri biliau pobol, ac yn creu Cronfa Gyfoeth Genedlaethol i fuddsoddi yn niwydiannau’r dyfodol,” meddai.

“Mae’r llywodraeth newydd eisoes wedi dangos ei chefnogaeth glir i gynhyrchu dur yng Nghymru, ac mae wedi gweithredu i ailosod y berthynas gyda’r llywodraethau datganoledig.

“Mae Araith y Brenin heddiw yn dangos y byddwn yn cyflawni yn gyflym ar ein mandad dros newid.”

Mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiadau, gan ddweud bod “Araith y Brenin yn nodi cyfnod cyffrous o bartneriaeth rhwng ein dwy lywodraeth”.

“Drwy gydweithio ar dwf economaidd, codi safonau byw, hawliau cyflogaeth, ac ynni adnewyddadwy byddwn yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, ac yn creu gwlad decach gyda chyfleoedd i bawb,” meddai.

Terfyn ar “annhegwch economaidd”

“Er bod elfennau o Araith y Brenin i’w groesawu, mae pobol yng Nghymru yn galw allan am ddiwedd i annhegwch economaidd,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Bydd hyn yn gallu digwydd os ydy Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig yn gweithredu ar frys dros ein cymunedau dur, ac yn anfon neges na fydd unrhyw gymuned yng Nghymru yn cael ei gadael ar ôl yn yr ysgogiad ar gyfer twf.”

Datganoli – ond nid i Gymru

Dywed Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, fod “Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi cynlluniau i gryfhau datganoli yn Lloegr… gan ddadlau bod datganoli yn yrrwr allweddol twf economaidd”.

“Ond nid yw wedi cynnig unrhyw bwerau pellach i Gymru,” meddai.

“Mae’n ymddangos bod Llafur yn hapus i ddal Cymru yn ôl.

“Doedd dim ymrwymiad i ddatganoli Ystâd y Goron, sydd wedi cael ei datganoli i’r Alban ers 2017, rhywbeth fyddai’n sicrhau bod buddiannau ynni yn cael eu rhoi i mewn i gymunedau Cymreig.

“Doedd dim sôn chwaith am y system gyfiawnder yng Nghymru, sy’n methu – rhywbeth mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi’i gefnogi ers blynyddoedd.”


Dadansoddiad Rhys Owen, Gohebydd Gwleidyddol golwg360

Doedd yna ddim byd ddaeth allan o’r Araith heddiw fel syndod i unrhyw un sydd wedi bod yn gwrando ar Keir Starmer a’r Blaid Lafur yn ystod yr ymgyrch etholiadol ac yn nyddiau cynnar y llywodraeth mewn grym.

Bydd yr ymrwymiad i wella effeithlonrwydd y system drafnidiaeth a Bil Trosedd a Phlismona yn cael ei groesawu, ond does ddim llawer o ran ymrwymiad ariannu mawr i’w weld i helpu efo’r argyfwng costau byw – bydd y llywodraeth yn dadlau y bydd hyn yn dod o ganlyniad i ffyniant economaidd.

Mae’r ffaith hefyd y bydd y Cwmni Ynni Gwladol yn cael ei sefydlu yn yr Alban yn codi cwestiynau ynglŷn â faint o sylw a faint o’r gronfa werth £7.3bn fydd yn dod i Gymru.

Er bod argyfwng gwleidyddol yma yng Nghymru, mae Keir Starmer dal yn ymddangos fel pe bai ar ei fis mêl gwleidyddol. Arhoswn i weld efo’r agenda sydd wedi cael ei chyflwyno heddiw pa mor hir fydd hynny’n parhau…