Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i glywed barn y cyhoedd am y drefn bresennol o ethol Cynghorwyr Sir.
Mae gan bawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio yng Ngwynedd gyfle i leisio’u barn am y mater, ar ôl i’r ymgynghoriad agor ddydd Llun (Gorffennaf 15).
Bydd ar agor tan Fedi 15.
Y drefn bresennol yw y caiff y Cynghorwyr Sir eu dewis drwy system etholiadau ‘Mwyafrif Syml’, sef y system gyntaf i’r felin.
Mae’r system honno yn un o ddwy system bleidleisio sydd wedi’u caniatáu gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Yr opsiwn arall yw System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, gaiff ei hadnabod hefyd fel system bleidleisio cynrychiolaeth gyfrannol, neu ‘proportional representation’.
“Rydym eisiau clywed barn pobol Gwynedd, ac mae cyfle i bawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio yng Ngwynedd i lenwi holiadur byr,” meddai’r Cynghorydd Menna Trenholme, yr Aelod Cabinet dros Gefnogaeth Gorfforaethol.
“Fel rhan o’r broses ymgynghori hon, rydym hefyd yn casglu barn cynghorau cymuned, cynghorau tref a’r cyngor dinas yng Ngwynedd.”
Bydd y cynghorwyr yn ystyried yr holl ymatebion ac adborth yn ofalus cyn gwneud penderfyniad terfynol mewn cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn ym mis Hydref.
Mae modd cymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy fynd i wefan Cyngor Gwynedd.
Bydd copïau papur ar gael mewn llyfrgelloedd lleol ac yn Siop Gwynedd Caernarfon, Dolgellau a Phwllheli.