Mae 91% o feddygon teulu Cymru’n dweud nad ydyn nhw’n gallu cwrdd â galw cleifion.
Yn ôl arolwg diweddar gan BMA Cymru, mae 87% yn ofni bod y llwyth gwaith yn effeithio ar ddiogelwch cleifion hefyd.
Ers 2012, mae 100 meddygfa wedi cau yn y wlad, yn ôl Ystadegau Cymru.
Yn sgil hynny, mae pob meddyg teulu’n gweld 35% yn fwy o gleifion yr un, sy’n arwain at bwysau gwaith uwch. O ganlyniad, mae meddygon teulu’n troi oddi wrth y gwaith.
Ar hyn o bryd, mae tros eu hanner (53%) yn bwriadu gadael eu gwaith o fewn y tair blynedd nesaf, a 31% yn bwriadu gweithio oriau llai na llawn amser.
Does gan Bwyllgor Meddygon Teulu BMA Cymru “ddim amheuaeth” bod y meddygfeydd yn cau yn sgil tanfuddsoddiad “parhaus”.
Dim ond 6.1% o gyllideb Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru sy’n mynd yn uniongyrchol at wasanaethau meddygon teulu – gostyngiad ers 2005-06, pan oedd 8.7% yn mynd tuag at feddygon teulu.
‘Torcalonnus’
Mae BMA Cymru yn galw am becyn brys i’w wario ar wasanaethau meddygon teulu, fel rhan o’u hymgyrch ‘Save Our Surgeries’.
Mae eu galwadau’n cynnwys:
- rhoi cyfran decach o gyllid y Gwasanaeth Iechyd i feddygon teulu
- strategaeth i wneud siŵr bod mwy o feddygon yn aros yn y gwaith ac yn cael eu recriwtio
- mesurau i fynd i’r afael â llesiant staff.
Mae 73% o feddygon teulu’n barod i streicio oni bai bod Llywodraeth Cymru’n gweithredu i roi cyfran decach o’r arian i feddygfeydd teulu hefyd.
“Mae meddygon teulu ledled Cymru wedi rhannu’u profiadau efo fi, ac rydyn ni gyd yn gytûn am ein hofnau am ddyfodol meddygfeydd teulu,” meddai Dr Gareth Oelmann, cadeirydd y Pwyllgor Meddygon Teulu.
“Mae meddygon teulu wedi dweud wrtha i am yr effaith ar eu hiechyd a’u llesiant, ac am eu pryderon mawr am eu cleifion. Mae’n dorcalonnus.
“Heb gyfran decach o gyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae gen i ofn bod y sefyllfa’n un ddifrifol, ac os yw gwasanaethau meddygon teulu yn methu bydd gweddill y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn eu dilyn.
“Rydyn ni’n gofyn am becyn brys er mwyn atal rhagor o feddygfeydd rhag cau eu drysau.”
‘Ymddiheuro awr ar ôl awr’
Mae 709 o feddygon teulu wedi llofnodi llythyr at Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cabinet yn gofyn am weithredu brys i atal y gwasanaeth rhag chwalu.
Ychwanega Dr Rowena Christmas, cadeirydd Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru, ei bod hi wrth ei bodd â’i gwaith yn feddyg teulu ers 25 mlynedd, ond ei bod hi wedi “dod bron yn amhosib trio darparu’r gwasanaeth gofalgar, safonol” maen nhw eisiau ei roi.
“Dw i’n ymddiheuro wrth fy nghleifion yn gyson. Sori bod rhaid iddyn nhw aros wythnosau am apwyntiad arferol gyda fi, sori eu bod nhw wedi gorfod aros yn hirach nag amser eu hapwyntiad, oherwydd mae bob ymgynghoriad nawr mor gymhleth fel ei bod hi’n amhosib rhedeg ar amser waeth faint o galed dw i’n trio,” meddai.
“Sori nad yw’r ambiwlans wedi cyrraedd, bod rhaid iddyn nhw aros yn hirach am ffisiotherapi, neu i weld cwnselydd.
“Awr ar ôl awr, dw i’n ymddiheuro am wasanaeth sydd ddim cystal ag y dylai fod.
“Fedra i ddim newid hyn, ac mae’n ofid moesol.”
‘Cydnabod pwysau’
Dywed Llywodraeth Cymru bod meddygaeth deulu yn “chwarae rhan hynod o bwysig yn y gwasanaeth iechyd ac mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan y cyhoedd a ninnau”.
“Rydyn ni’n cydnabod y pwysau mae meddygon teulu yn ei wynebu ac wedi clywed cryfder teimlad ymgyrch Achub ein Meddygfeydd,” meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.
“Rydym yn buddsoddi mewn ffyrdd newydd i bobl gael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys fferylliaeth gymunedol a’r llinell gymorth 111, i helpu i leddfu rhywfaint o’r pwysau hwnnw.
“Mae ein buddsoddiad mewn gwasanaethau meddygon teulu wedi bod yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn – fe wnaethon ni fuddsoddi £20m yn ychwanegol y llynedd, ar ben £12m dros dair blynedd i gefnogi arferion i wella mynediad at wasanaethau.”