Mae bywyd newydd yn cael ei roi i safle oedd unwaith yn gartref i siop Debenhams, wrth agor canolfan iechyd a llesiant yng Nghaerfyrddin.
Bydd y ganolfan yn cynnig cyfleoedd newydd i’r dref, yn ôl y Cynghorydd Hazel Evans, er gwaethaf colli busnes dros y blynyddoedd diwethaf wrth i amryw o siopau gau eu drysau.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er mwyn agor y ganolfan.
Mae’r datblygiad yn cael ei gwblhau gan y prif gontractwyr Bougues UK, oedd wedi cychwyn ar y gwaith ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 16).
Denu ymwelwyr newydd
Wrth siarad â golwg360, dywed Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, eu bod nhw’n gobeithio targedu a “thynnu pobol mewn i’r dref na fyddai’n ymweld â’r dref fel arfer a chynyddu ymwelwyr”.
“Y gobaith wedyn yw y bydd hyn yn helpu safleoedd eraill o amgylch y dref, gan roi hwb i’r economi leol,” meddai.
Gan ei fod yn lleoliad dan do, meddai, gall fod yn atyniad gwych i ymwelwyr ym mhob tywydd.
Mae’r cyllid i gyflawni’r gwaith wedi’i dderbyn gan Gronfa Cyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Llywodraeth Cymru [IRCF], yn ogystal â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Pa fath o wasanaethau sy’n cael eu cynnig yn y ganolfan?
Bydd ystod o wasanaethau iechyd llesiant, addysg, hamdden, a gwasanaethau cwsmeriaid o dan un to.
Hefyd, bydd modd i bobol dderbyn gwasanaethau iechyd cymunedol, sy’n cael eu darparu gan yr Hwb Iechyd a Llesiant, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Ar lawr cyntaf yr Hwb Iechyd a Llesiant, bydd y Cyngor yn cynnig canolfan adloniant i’r teulu, gydag amrywiaeth o weithgareddau y gall drawstoriad o bobol eu mwynhau, gan gynnwys golff antur dan do, chwarae meddal, E-Gwib-gertio a TAG Active.
Bydd caffi ac ystafelloedd parti yn y ganolfan adloniant hefyd, er mwyn rhoi cyfle i deuluoedd gymdeithasu â’i gilydd.
‘Cyfle unigryw’
Dywed Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ei fod yn “ddatblygiad cyffrous”.
“Bydd y cynnig hwn yn dwyn ynghyd ystod eang o wasanaethau iechyd a llesiant mewn lleoliad canolog,” meddai.
Yn yr un modd, atega’r Athro Elwen Evans, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ei fod yn ddatblygiad a “chyfle unigryw er mwyn edrych ar ffyrdd o adfywio canol y dref trwy gyfuniad o gyfleodd hamdden, diwylliannol ac addysgol”.
Hwn yw’r unig gynllun yng Nghaerfyrddin ar hyn o bryd, ond mae’r Cyngor Sir wedi derbyn cyllid er mwyn ceisio adfywio Llanelli hefyd, a’r gobaith yw gweithio ar gynlluniau tebyg yno.
Bydd y ganolfan Hwb Iechyd a Llesiant yng Nghaerfyrddin ar agor i’r cyhoedd ddechrau 2026.