Mae cynlluniau i ddiwygio’r system trethi lleol wedi cael eu pasio yn y Senedd.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw’n gwneud y newidiadau er mwyn “gwella’r system drethi”, a’i gwneud hi’n decach.
Hwn yw’r Bil cyllid llywodraeth leol Cymreig cyntaf ers datganoli.
Cafodd y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) ei gyflwyno i sicrhau bod y system drethi’n “gweithio’n well ar gyfer anghenion Cymru yn y dyfodol, gan sicrhau bod trethi lleol yn cyd-fynd yn fwy cyson ag amgylchiadau economaidd”, medden nhw.
Ond mae gan y Ceidwadwyr Cymreig bryderon am ddyfodol y gostyngiad yn y dreth gyngor i bobol sy’n byw ar eu pen eu hunain.
Ar gyfer treth y cyngor, bydd y Bil yn:
- golygu bod eiddo’n cael eu hailbrisio bob pum mlynedd o fis Ebrill 2028, gyda hyblygrwydd i newid hynny yn y dyfodol
- rhoi mwy hyblygrwydd i drefnu a labelu bandiau treth pan fo angen
- rhoi mwy hyblygrwydd i wneud newidiadau i ostyngiadau treth cyngor a phobol sy’n cael eu heithrio rhag talu’r dreth
- sicrhau parhad Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, gan roi cymorth ariannol i aelwydydd incwm isel.
O ran ardrethi busnes, bydd y Bil yn:
- golygu bod gwerth pob eiddo annomestig yn cael ei ddiweddaru bob tair blynedd
- rhoi mwy o hyblygrwydd ar gyfer newid rhyddhadau ac eithriadau.
- gwella’r wybodaeth sy’n cael ei rhoi i dalwyr ardrethi.
- dod ag achosion hysbys o osgoi treth i ben, a chynyddu’r gallu i fynd i’r afael ag achosion tebyg.
‘Newidiadau pwysig’
Dywed Rebecca Evans, yr Ysgrifennydd Cyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet yn Llywodraeth Cymru, fod yr achos dros newid y drefn yn “glir”.
“Mae’r [Bil] yn cyflwyno newidiadau pwysig i’r system trethi lleol yng Nghymru, gan ddiwygio’r system i’w gwneud yn fwy cyson, yn fwy effeithiol ac i roi hyblygrwydd inni yn y dyfodol,” meddai.
“Mae ymchwil a phrofiad eang o weithredu’r systemau presennol ers ugain mlynedd a mwy wedi dangos nifer o gyfyngiadau ac roedd yr achos dros newid felly yn glir.
“Gyda’r Bil bellach wedi’i gymeradwyo gan y Senedd, bydd gennym fframwaith wedi’i gynllunio ar gyfer y Gymru fodern, a’r dulliau angenrheidiol i addasu trethi lleol yn y dyfodol wrth i amgylchiadau a blaenoriaethau newid.”
‘Peidio cynyddu trethi’
Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dadlau y bydd yn arwain at drethi uwch.
“Mae geiriad y Bil yn peri pryderon, felly dw i ddim yn hollol sicr a yw’r gostyngiad i bobol sengl yn ddiogel yn nwylo gweinidogion Llafur sydd, mae’n ymddangos, yn benderfynol o ganiatáu i gynghorau Cymru godi biliau treth cyngor i filoedd o bobol ledled Cymru,” meddai Peter Fox, llefarydd Cyllid y blaid.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud yn glir, mae’r gostyngiad person sengl yn andros o bwysig, yn enwedig i weddwon, rhaid ei gynnwys mewn cyfraith a rhaid i gynlluniau Llafur i ail-werthuso treth cyngor beidio cynyddu trethi i gartrefi Cymru.
“Rydyn ni hefyd yn credu y dylai cynghorau gynnal refferendwm lleol os ydyn nhw’n bwriadu codi’r dreth cyngor dros 5% fel bod trigolion yn cael dweud eu dweud am y dreth maen nhw’n ei thalu.”