Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru am gyflwyno rhaglen frechu newydd i amddiffyn babanod a phobol hŷn rhag haint anadlol cyffredin.

Mae Feirws Synyctiol Anadlol (RSV) yn feirws heintus iawn, sy’n gallu heintio naw ym mhob deg o blant cyn eu bod yn troi’n ddwy oed.

Gall arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol i oedolion dros 75 oed, ac at ryw 125 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru.

Beth yw’r symptomau?

I’r rhan fwyaf o bobol, symptomau tebyg i annwyd sydd gan y feirws anadlol hwn.

Ond ar gyfer babanod dan flwydd oed a phobol oedrannus, mae perygl sylweddol o heintiau difrifol all arwain at orfod mynd i’r ysbyty.

Bydd y rhaglen yn weithredol o fis Medi, ac yn cynnig brechiad rhag RSV i bobol 75 i 79 oed, yn ogystal â merched beichiog (o 29 wythnos y beichiogrwydd).

‘Amddiffyn miloedd o bobol’

Dywed Eluned Morgan fod Llywodraeth Cymru’n falch iawn bod y brechlyn RSV yn cael ei gyflwyno yng Nghymru.

“Mae tystiolaeth yn dangos bod y brechlyn yn ddiogel ac yn effeithiol, a bydd brechu ein darpar famau yn helpu i atal ein babanod ieuengaf rhag mynd yn ddifrifol wael gyda’r feirws o’u genedigaeth,” meddai.

“Bydd y brechlyn hwn hefyd yn ein helpu ni i gadw oedolion hŷn yn ddiogel dros fisoedd y gaeaf a byddwn yn annog pawb sy’n gymwys i’w gael.”

Dywed Dr Christopher Johnson, pennaeth brechu Iechyd Cyhoeddus Cymru, ei bod yn “rhaglen frechu newydd sy’n newid pethau”.

“Bydd yn amddiffyn miloedd o’n pobol fwyaf agored i niwed ni rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf, neu’n lleihau’n sylweddol y tebygolrwydd o haint difrifol, gan gadw pobol allan o’r ysbyty a rhag bod angen gweld meddyg teulu, a galluogi mwy o bobol i gael budd o wasanaethau’r GIG,” meddai.