Mae Mabon ap Gwynfor yn galw ar y Blaid Lafur i ddilyn yr un egwyddor â Llafur yr Alban, oedd wedi galw am etholiad yn dilyn ymddiswyddiad Humza Yousaf fis Mai.

Daw sylwadau Prif Chwip Plaid Cymru yn y Senedd wrth siarad â golwg360 yn dilyn cyhoeddiad Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 16) ei fod yn bwriadu ymddiswyddo.

“Pan ddaru Humza Yousaf gamu lawr, a John Swinney gymryd ei le, mi roedd y Blaid Lafur yn yr Alban yn fwy na pharod i ofyn am etholiad, gan ddweud nad oedd mandad gan Swinney na Yousaf bryd hynny,” meddai.

“Ond mae’r un egwyddor yn perthyn tro yma.

“Does gan bwy bynnag fydd y Prif Weinidog newydd ddim mandad.”

Cyfle?

A oes cyfle, felly, i Blaid Cymru fanteisio ar drafferthion presennol y Blaid Lafur?

“Os ydi pobol eisiau gweld o fel cyfle, mae hynny lan i bobol eraill farnu,” meddai Mabon ap Gwynfor wedyn.

“I ni, mae’n fater o fod rhaid i ni gael llywodraeth rŵan sydd efo hyder pobol Cymru.”

Ar hyn o bryd, does neb am gymryd rôl y Prif Weinidog dros dro yn dilyn ymddiswyddiad Vaughan Gething, er bod rhai enwau wedi’u crybwyll – yn eu plith mae Jeremy Miles, Huw Irranca-Davies, Eluned Morgan, Ken Skates, Hannah Blythyn a Mick Antoniw.

Dywed Mabon ap Gwynfor fod hyn “yn profi’r pwynt”, sef fod Cymru’n “mynd i gael yr un ansefydlogrwydd am ychydig fisoedd yn rhagor rŵan”.

“Ac yna, mi fydd y Blaid Lafur yn gwneud rhyw fath o stitch up mewnol arall,” meddai.

“Penderfyniad y Blaid Lafur yn fewnol fydd hwn, nid pobol Cymru.

“Mewn gwirionedd, pwy bynnag fydd yn arwain, bydd y person yna wedi bod yn rhan o lywodraethau blaenorol, a’r Blaid Lafur sydd wedi dod fyny efo rhaglen lywodraethol gwbl ddi-fflach sydd ddim wedi gweithredu i bobol Cymru dros y misoedd diwethaf.

“Ac mewn gwirionedd, os wyt ti’n edrych ar bethau cadarnhaol sydd wedi cael eu gweithredu, wel, pethau o’r Cytundeb Cydweithredu efo Plaid Cymru ydyn nhw.”

‘Seicoddrama’

Wrth drafod effaith y “seicoddrama” Llafur, chwedl Mabon ap Gwynfor, ar allu’r llywodraeth i lywodraethu, dywed eu bod nhw “wedi gwastraffu misoedd gwerthfawr”.

“Mi ddylen nhw [y gweinidogion ymddiswyddodd ddydd Mawrth] wedi gwneud y penderfyniad yma mis neu ragor yn ôl,” meddai.

“Ond mae’r sinig yno’ i’n dweud bod o’n gyfleus iddyn nhw bo nhw’n gwneud o ar ôl yr etholiad cyffredinol.

“Doedden nhw ddim eisiau ysgwyd y cwch, fel petai, efo etholiad Keir Starmer, felly ddaru nhw aros yn driw i Lafur a, typical, rhoi Llafur yn gyntaf, a rhoi’r genedl yn ail.”