Mae Cadw yn dathlu 40 mlynedd eleni, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi croesawu dros hanner can miliwn o ymwelwyr o bob cwr o’r byd.

Mae’r sefydliad yn “edrych ymlaen at barhau â’r etifeddiaeth hon”, medd eu pennaeth.

Ers ei sefydlu yn 1984, mae Cadw wedi gofalu am lefydd o bwys hanesyddol ledled Cymru, gan roi cyfle i bobol ymgysylltu â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog eu cenedl.

Mae’r sefydliad yn gyfrifol am ofalu am dros 130 o henebion hanesyddol, gan gynnwys cestyll canoloesol, abatai, safleoedd diwydiannol a henebion Rhufeinig.

Mae Cadw wedi ychwanegu Llys Rhosyr a Chastell Caergwrle at eu rhestr yn ddiweddar, a’r rheiny’n fannau o bwys gan eu bod nhw’n cael eu cysylltu â Thywysogion Cymru.

Dathlu

Yn rhan o’r dathliadau, mae gan Cadw amserlen lawn o adloniant a gweithgareddau yn eu safleoedd ledled Cymru.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys penwythnosau sy’n seiliedig ar themâu hanesyddol, gan gynnwys datgelu trysorau canoloesol, ysgolion marchogion, ysgolion cleddyfau i blant, arddangosfeydd hedfan gydag adar a gweithgareddau ar thema ffantasi fel ‘hyfforddi dreigiau’.

Mae aelodau Cadw yn cael mynediad am ddim i’r holl ddigwyddiadau, a mynediad di-derfyn i dros 130 o leoedd hanesyddol ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn.

‘Atyniadau o’r radd flaenaf’

“Mae ymrwymiad Cadw i gadwraeth, addysg a phrofiad ymwelwyr wedi sicrhau bod cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yn gallu parhau i werthfawrogi a dysgu o’n trysorau hanesyddol,” meddai Gwilym Hughes, pennaeth Cadw.

“Rydyn ni’n hynod falch o’n rôl yn gwarchod treftadaeth gyfoethog Cymru.”

Dywed Lesley Griffiths, cyn ymddiswyddo o fod yn Ysgrifennydd Diwylliant Cymru, fod y llywodraeth yn “falch iawn o’r gwaith mae Cadw yn parhau i’w wneud i warchod treftadaeth werthfawr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.

“Mae buddsoddiad Cadw i drawsnewid ein henebion hanesyddol yn atyniadau o’r radd flaenaf i ymwelwyr, fel Castell Caerffili a Chastell Caernarfon, yn hanfodol i’n rhanbarthau ac yn annog mwy o bobol i ymweld â’n henebion hanesyddol,” meddai.

Cyflawniadau a cherrig milltir Cadw

Mae nifer adeiladau rhestredig Cadw wedi treblu i dros 30,000 ac mae nifer yr henebion wedi cynyddu o 2,700 i dros 4,200.

Un o lwyddiannau cynharaf Cadw oedd achub, adfer a dehongli tŷ tref Plas Mawr yng Nghonwy, sy’n un o’r enghreifftiau gorau o dŷ tref Elizabethaidd yng ngwledydd Prydain ac yn atyniad o fri.

Chwaraeodd y sefydliad ran bwysig wrth gefnogi gweinidogion Cymru i lunio hanes cyfreithiol Cymru, pan gafodd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 Gydsyniad Brenhinol, gan ddod yn ddeddf yn Senedd Cymru.

Golyga hyn fod gan Gymru ei chyfraith ddwyieithog ei hun ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol am y tro cyntaf.

Yn ogystal, roedd Cadw yn rhan o’r broses o sicrhau arysgrif pedwar Safle Treftadaeth y Byd i Gymru – Cestyll a Threfi Caerog Brenin Edward yng Ngwynedd (1986), Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon (2000), Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte (2009), a thirwedd Llechi gogledd-orllewin Cymru (2021).

Mae Cadw wrthi’n trawsnewid caer ganoloesol fwyaf Cymru yng Nghastell Caerffili drwy adnewyddu’r Neuadd Fawr, buddsoddi £1m mewn cynllun dehongli newydd, a chyflwyno canolfan groeso a chaffi newydd.

Addysgu 

Mae Cadw wedi mynd ati i addysgu ac ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru, yn enwedig y rheini o genedlaethau iau.

Maen nhw wedi cynnig dros 2,500 o ddigwyddiadau cymunedol ac wedi croesawu hyd at 100,000 o ymweliadau addysgol bob blwyddyn i’r henebion dan eu gofal.

Mae mentrau fel y Ceidwaid Ifanc – lle mae Cadw yn cydweithio gydag ysgolion i ymweld â henebion a meithrin ymdeimlad o berchnogaeth, treftadaeth a pherthyn – yn wahanol ym mhob heneb, gan greu tapestrïau, cartwnau, astudio mathemateg, gwyddoniaeth, llenyddiaeth a sgiliau treftadaeth fel gwaith saer maen.