Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cymeradwyo cyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 er mwyn rheoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau.
Dyma gam arloesol sy’n galluogi’r Cyngor, fel Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd, i fynnu bod perchnogion eiddo yn derbyn caniatâd cynllunio cyn newid defnydd prif gartref i fod yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr.
Bydd y newid yn weithredol o Fedi 1.
‘Angen canllawiau ac adnoddau’
Yn dilyn eu llwyddiant wrth fabwysiadu’r mesur, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi canllawiau ac adnoddau i awdurdodau cynllunio er mwyn eu galluogi nhw i gymryd camau tebyg.
Bu aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith tu allan i adeilad Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon cyn cyfarfod y Cabinet.
Un o’r cefnogwyr hynny oedd Osian Jones, sy’n rhan o ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’ Cymdeithas yr Iaith.
Dywed eu bod yn “croesawu penderfyniad aelodau Cabinet Cyngor Gwynedd i gymeradwyo cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, ac am fod yn flaengar a defnyddio’r grymoedd sydd o fewn eu gallu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai”.
“Ond, wrth gwrs, dim ond un awdurdod cynllunio allan o 25 ydy Gwynedd, ac mae argyfwng tai Cymru yn bodoli tu hwnt i’w ffiniau,” meddai.
“Ym mhob cymuned yng Nghymru, boed yn Gymraeg neu’n ddi-Gymraeg, mae teuluoedd a phobol ifanc yn wynebu ansicrwydd a bygythiadau i hyfywedd eu cymunedau ac yn gorfod gadael eu cymuned am fod prisiau rhent a thai tu hwnt i’w cyrraedd.
“Rydym yn gobeithio y bydd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru’n talu sylw i’r penderfyniad heddiw ac yn dilyn esiampl Gwynedd.
“Ond er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth ariannol er mwyn i awdurdodau gyflogi swyddogion i fynd at y gwaith, a chanllawiau clir ar weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4.”
Awdurdodau eraill
Mae ambell i awdurdod lleol arall wedi oedi cyn cyflwyno mesur tebyg, gan gynnwys cynghorau Conwy a Cheredigion.
Cyfeiriodd Cyngor Conwy at heriau staffio a chost fel rheswm i beidio â pharhau â’r polisi fis Ebrill eleni, tra bod Cyngor Ceredigion wedi nodi bod angen iddyn nhw weld sut mae’r broses yn gweithredu yng Ngwynedd cyn dechrau arni yno.
Gwynedd yr awdurdod cyntaf
Dywed y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd, eu bod nhw’n awyddus i weld “pobol leol yn gallu cael mynediad at dai addas a fforddiadwy yn lleol”.
“Mae hynny yn allweddol er mwyn sicrhau dyfodol ein cymunedau ni,” meddai.
“Yn anffodus, mae ymchwil yn dangos fod cyfran sylweddol o bobol Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai, ac mae hynny i’w weld yn fwy amlwg mewn cymunedau lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau.
“Yn dilyn y penderfyniad hwn, Gwynedd fydd yr Awdurdod Cynllunio cyntaf i ddefnyddio’r pwerau cynllunio newydd yma gafodd eu cyflwyno gan y Llywodraeth.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gwaith manwl wedi’i gynnal i sefydlu’r achos dros gyflwyno’r newid, ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb wnaeth gymryd rhan yn y cyfnod ymgysylltu cyhoeddus.”
Fydd y newid ddim yn berthnasol i eiddo sydd eisoes wedi’i sefydlu fel ail gartref neu lety gwyliau tymor byr cyn i’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ddod yn weithredol.