Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r cymorth ariannol fydd ar gael i ffermwyr cyn cyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Fydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddim yn dechrau tan 2026, wedi i’r cynlluniau gwreiddiol wynebu cryn wrthwynebiad.

Bellach, mae Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Cymru, wedi cyhoeddi y bydd ‘cyfnod paratoi’ 2025 yn cynnwys nifer o gynlluniau i roi cyngor a chymorth i ffermwyr cyn i’r Cynllun gael ei gyflwyno.

Ymhlith y cynlluniau hynny, mae:

  1. Cynllun Cynefin Cymru – yn cael ei gynnig yn 2025, a bydd pob ffermwr cymwys yn cael gwneud cais.
  2. Cytundebau Tir Comin presennol Cynllun Cynefin Cymru – yn gallu cael eu hymestyn ar gyfer 2025.
  3. Y Taliad Cymorth Organig – yn cael ei gadw ar gyfer 2025.
  4. Cyswllt Ffermio – yn cael ei ymestyn hyd at 2026, gan gadw’r cymorth i helpu ffermwyr i drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi ffermydd.
  5. Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig newydd – yn cael ei greu i gefnogi partneriaethau rhwng ffermwyr i gael hyd i atebion sy’n seiliedig ar natur ar draws tirwedd, dalgylch neu ar raddfa Cymru gyfan. Bydd yn parhau’n bont i ffordd newydd o gefnogi ffermwyr a’r gwaith maen nhw’n ei wneud cyn cyflwyno Gweithredoedd Cydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Yn ogystal â’r pum cynllun, byddan nhw hefyd yn cynnal proses i weld pa fath o dir sydd gan ffermwyr.

Gydag adborth gan y ffermwyr sy’n penderfynu cymryd rhan, bydd yr ymarfer yn rhoi darlun cywirach o’r tir cynefin a’r gorchudd coed er ffermydd, er mwyn helpu i baratoi Cynllun Cynefin Cymru a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

‘Cymorth cyn 2026’

Bwriad cyhoeddi’r cynlluniau hyn yw rhoi sicrwydd i ffermwyr y bydd cymorth iddyn nhw yn y cyfnod cyn 2026, meddai Huw Irranca-Davies.

“Rydyn ni’n cydnabod hefyd y bydd y newid o’r [cynllun] BPS yn golygu newid mawr i lawer o ffermwyr, ac felly rydyn ni am helpu, tywys a chynnal ffermwyr Cymru dros gyfnod o flynyddoedd wrth i ni gwblhau a symud tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy,” meddai.

“Byddwn yn dal i wrando ar y sector a chydweithio â hi. Gyda’n gilydd gallwn greu dyfodol lle bydd ein ffermwyr yn cynhyrchu’r bwyd gorau at y safonau uchaf, ac yn diogelu yr un pryd ein hamgylchedd gwerthfawr ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda ffermwyr a pherchenogion tir trwy Ford Gron Weinidogol i lunio’r Cynllun terfynol a rhoi sicrwydd ynghylch y cymorth a fydd ar gael yn y dyfodol cyn gynted â phosibl. Gan ddibynnu ar faint o arian fydd ar gael, byddwn yn cadarnhau cynlluniau cymorth ychwanegol 2025 yn ddiweddarach eleni.

“Rydyn ni am weld diwydiant ffermio cynaliadwy sy’n cefnogi cymunedau gwledig ffyniannus a’r iaith Gymraeg – cynaliadwy ym mhob ystyr y gair.”