Mae angen ystyried sefyllfa Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun y Blaid Lafur, ynghyd â “chamgymeriadau” Vaughan Gething, yn ôl arbenigwr ar Athroniaeth Wleidyddol.
Y disgwyl yw y bydd olynydd yn ei le erbyn yr hydref, a dywedodd Vaughan Gething wrth y Senedd heddiw y bydd y blaid yn gwneud dewisiadau o ran pryd fydd yr ornest yn cael ei chynnal.
Ers cael ei ethol, mae Vaughan Gething wedi bod dan y lach am dderbyn £200,000 i’w ymgyrch arweinyddol gan droseddwr amgylcheddol, wedi colli pleidlais hyder yn y Senedd, ac wedi cael ei feirniadu am y modd y gwnaeth e ddiswyddo Hannah Blythyn, un o’i weinidogion.
“Dw i’n credu bod hen ddigon o sylw wedi’i roi i gamgymeriadau Vaughan Gething yn y cyswllt yma, a bydden i’n bersonol yn annog pobol i ystyried sut mae hwn, yn ogystal â bod yn ganlyniad i benderfyniadau unigol gwael yn foesol ac yn bragmatig, mae hefyd eisiau ystyried beth sy’n digwydd yng nghyd-destun y Blaid Lafur yn fan hyn,” meddai Dr Huw Williams, sy’n Ddarllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Un agwedd, dw i’n siŵr, yw cyflwr plaid sydd wedi bod mewn grym ers bron i chwarter canrif heb ryw lawer o her, maen nhw wedi gorfod cydweithio o ran clymbleidiau ond mae hwnna ar y cyfan wedi bod ar eu telerau nhw.
“Mae eisiau meddwl beth ydy goblygiadau plaid sydd ddim yn wynebu’r math o her fyddai rhywun yn ei ddisgwyl mewn system ddemocrataidd, a bod hwnna efallai yn anorfod yn arwain at elfennau o ddiystyru a chymryd pethau’n ganiataol, meddwl efallai bod rhwyddhynt i wneud beth bynnag mae rhywun eisiau, a hynny mewn cyd-destun lle mae’r sffer cyhoeddus yng Nghymru’n gymharol wan.
“Mae’r holl agweddau yna o system sy’n system un-blaid i bob pwrpas yn ffactor, dw i’n meddwl – yn seicolegol, ac yn ddiwylliannol o ran plaid sydd llawn pobol, ac nid Vaughan Gething yn unig, sy’n meddwl eu bod nhw’n gallu gwneud pethau heb gael craffu arferol.”
Carfanau’r Blaid Lafur
Ffactor arall yw fod y Blaid Lafur, fel unrhyw blaid o faint sylweddol, yn ryw lun o glymblaid o wahanol garfanau ynddi’i hun, yn ôl Huw Williams.
“Dydy’r carfanau yng Nghymru ddim wastad mor eglur â hynny, achos, gwaetha’r modd, does dim llawer o wahaniaethau ideolegol rhwng gwahanol garfanau yn y Blaid Lafur,” meddai.
O ystyried Grŵp y Senedd, mae carfan Vaughan Gething o’r blaid yn debygol o fod yn bleidiol i fusnesau, eglura.
Mae hynny’n arbennig o amlwg o edrych ar y Blaid Lafur yng Nghaerdydd, a chymeriadau fel Russell Goodway, y cyn-arweinydd Llafur yno, sydd wedi bod yn gefnogol i Vaughan Gething.
“Beth sydd angen gwybod yw bod y rhan yna o’r blaid wedi bod yn gweithio law yn llaw â busnes ers degawdau, a bod y garfan yna o’r Blaid Lafur yn aml iawn wedi dod mewn i ryw fath o wrthwynebiad gyda rhannau eraill o’r blaid sydd, efallai, ychydig mwy i’r chwith – fyddai’n cynnwys pobol fel Mark Drakeford a Rhodri Morgan ers talwm.
“Yn achos Rhodri Morgan ryw ugain mlynedd yn ôl, roedd e’n un o’r sawl oedd yn wrthwynebus i’r math yna o wleidydda ac yn gyhoeddus yn ei feirniadaeth o Russell Goodway.
“Ers hynny, fydden i’n awgrymu bod y math yna o feirniadaeth ac ymgais i roi stop ar y math yna o wleidyddiaeth wedi dod i ben, a bod y carfanau eraill yma ddim wir wedi gwneud ryw ymdrech fawr i geisio beirniadu na gwthio’n ôl yn erbyn y math yma o wleidyddiaeth.”
Mae’r math hwnnw o weithio gyda busnes yn rhan o wleidyddiaeth feunyddiol y blaid, yn sicr yng Nghaerdydd, meddai Huw Williams.
“I fi, mae’n rhaid i bob un o wleidyddion Llafur gymryd cyfrifoldeb am yr hyn sydd wedi digwydd.
“Yr hyn sbardunodd yr holl drafodaeth yn y lle cyntaf oedd y taliad anferth yna gan gwmni Dauson, ac roedd rhywun yn gallu gweld o’r ffordd wnaeth Vaughan Gething, Russell Goodway ac eraill yn eu plith, ymateb eu bod nhw ddim yn gweld dim byd yn bod ar y peth ac yn meddwl ei fod yn chwarae o fewn y rheolau.”
Cyfrifoldeb y Blaid Lafur gyfan oedd gosod y rheolau hynny, nid Vaughan Gething.
“Waeth iddyn nhw beidio â chwyno nawr am yr hyn sydd wedi digwydd, roedd e wedi digwydd fel rhan o ddiwylliant, strwythurau, arferion gwleidyddol, a hynny hefyd yn ymestyn mewn i agweddau eraill megis y berthynas gyda’r undebau,” meddai Huw Williams wedyn.
“Rydyn ni’n cyrraedd y pwynt yma nawr, a bydd nifer o fewn y blaid Lafur, nifer o Aelodau’r Senedd, yn ceisio awgrymu bod hwn yn rhywbeth oedd yn fai unigol ar Vaughan Gething, nad oedd e wedi ymddwyn yn ôl y disgwyliadau addas ac yn y blaen.
“Ond i lot o bobol yng [Nghaerdydd], pobol sydd wedi gweld sgil-effeithiau’r wleidyddiaeth yma a beth mae’n ei olygu o ran mannau gwyrdd, mannau cyhoeddus, natur datblygiad y ddinas, dydyn ni ddim yn gweld hwnna fel bai ar garfan unigol o fewn y Blaid Lafur.
“Mae’n waeth i’r Blaid.”
Beth nesaf?
Beth nesaf i’r Blaid Lafur a swydd y Prif Weinidog yw’r cwestiwn nawr.
Ddechrau’r flwyddyn, collodd Jeremy Miles y ras yn erbyn Vaughan Gething o drwch blewyn.
“Bydd rhai’n dweud mai ychydig fisoedd sydd wedi pasio ac y byddai’n ddilys i Jeremy Miles gymryd arweinyddiaeth y blaid ymlaen, a siawns byddai criw gweddol o faint o fewn y blaid yn y Senedd yn gefnogol iddo fe ac yn ddigonol i sicrhau bod e’n gallu cynnal Cabinet a symud ymlaen gyda’i agenda e,” meddai Huw Williams.
“Ond mae tipyn wedi digwydd, ac mae cwestiwn ynglŷn â pha mor hir mae canlyniad felly yn ddilys.
“Oherwydd bod Jeremy Miles a rhai o’i gefnogwyr wedi gorfod gwthio pethau gymaint er mwyn gweld yr ymddiswyddo, mae hynny’n ychwanegu at y gynnen.
“Dydy Vaughan Gething, oherwydd ei styfnigrwydd e i raddau helaeth, ddim wedi creu amodau sy’n gwneud hi’n hawdd i Jeremy Miles gymryd arweiniad mewn ffordd sy’n uno’r blaid.”
Bydd rhai eisiau gweld rhywun arall yn camu i’r adwy, dros dro efallai, a dau o’r enwau mae Huw Williams yn eu codi fel rhai allai uno’r blaid Lafur yw’r Prif Chwip Jane Hutt a Huw Irranca-Davies, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig.
“Yn y cefndir, mae gyda chi Brif Weinidog newydd lawr yn San Steffan yn llechu yn y cysgodion felly mae yna gwestiynau fan yna ynghylch pa ddylanwad fydd Keir Starmer yn ei gael ar y drafodaeth hon, a fydd gyda fe unrhyw ddymuniad o ran pwy sy’n arwain o hyn ymlaen.
“O’r tu allan, mae’n anodd [dweud], ond yr un peth all rywun ddweud i sicrwydd yw bod e’n dipyn o lanast ac mae e’n mynd i gymryd dipyn o fedr i allu llywio’r sefyllfa yma ar foroedd tymhestlog a rhoi’r Blaid Lafur yng Nghymru ar ryw fath o sail sefydlog cyn diwedd y flwyddyn.”