Mae nifer o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi ymddiswyddo.
Mae Julie James, Lesley Griffiths, Jeremy Miles a Mick Antoniw wedi gadael y Cabinet, a hynny bedwar mis ar ôl i’r Prif Weinidog newydd Vaughan Gething ddod yn arweinydd Llafur Cymru.
Ers cael ei ethol, mae Vaughan Gething wedi bod dan y lach am dderbyn £200,000 i’w ymgyrch arweinyddol gan droseddwr amgylcheddol, wedi colli pleidlais hyder yn y Senedd, ac wedi cael ei feirniadu am y modd y gwnaeth e ddiswyddo Hannah Blythyn, un o’i weinidogion.
Yn ôl Adrian Masters, Golygydd Gwleidyddol ITV Cymru, mae ffynonellau’n awgrymu bod Vaughan Gething wedi cael gwybod bod yr ymddiswyddiadau ar y gorwel “rai wythnosau yn ôl”.
Ond mae Mick Antoniw, sydd wedi bod yn Gwnsler Cyffredinol, yn dweud bod yr awgrym yn “gelwydd”.
Julie James (Tai)
Dywed Julie James mai “gydag edifeirwch mawr” mae hi’n teimlo na all hi barhau i wasanaethu Llywodraeth Cymru.
Wrth agor ei datganiad, dywed iddi anfon neges destun at Vaughan Gething, ond na chafodd hi ateb.
Dywed fod ganddi “galon drom” wrth gyflwyno’i hymddiswyddiad, ond ei bod hi’n gwneud hynny ar ôl “myfyrio o’r tu allan” wrth wella ar ôl triniaeth.
Ychwanega fod yr holl helyntion diweddar am ei gwneud hi’n anodd i’r Llywodraeth gael cydsyniad ar y Gyllideb a’u huchelgeisiau deddfwriaethol.
Dywed fod y cyfan yn “bygwth taith datganoli”, ac nad Vaughan Gething yw’r “arweinydd i’n harwain ni drwy’r cyfan”.
Lesley Griffiths (Diwylliant)
Dywed Lesley Griffiths ei bod hi’n ymddiswyddo “â chalon drom”.
Ychwanega ei bod hi’n poeni am effaith yr holl helyntion ar “y berthynas rhwng cydweithwyr”, ac nad oes modd “rhoi’r cyfan yn ôl at ei gilydd” o dan arweiniad Vaughan Gething.
Dywed ymhellach mai’r “unig opsiwn” iddi yw camu o’r neilltu.
Jeremy Miles (Economi)
Ar ôl gwrthod datgan ei gefnogaeth i Vaughan Gething sawl gwaith wrth siarad ag ITV Cymru, mae Jeremy Miles wedi ymddiswyddo gan ddweud y bu’n “gryn fraint ac yn gyfrifoldeb dwys” cael bod yn weinidog.
“Gyda thristwch mawr, dw i’n ymddiswyddo heddiw,” meddai.
Ychwanega nad yw’n “gweld ffordd ymlaen i ni sy’n ein galluogi ni i wneud ein gwaith heb i chi gamu o’r neilltu”, a bod “rhaid rhoi budd y genedl yn gyntaf”.
Mick Antoniw (Cwnsler Cyffredinol)
Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad, mae Mick Antoniw wedi cynnig cyngor i Vaughan Gething, “waeth pa mor boenus” yw’r cyngor hwnnw.
“Rhaid i fi eich cynghori nad ydw i’n teimlo y gallwch chi barhau’n Brif Weinidog,” meddai.
“Mae angen llywodraeth hyderus a sefydlog ar Gymru.
“Dw i ddim yn credu eich bod chi’n gallu cyflwyno hynny.”
Dywed fod colli pleidlais hyder “o bwys mawr yn gyfansoddiadol”.
Ychwanega fod y Senedd bellach “ar gyfeiliorn”.