Mae undebau addysg yn mynnu gweithredu ar anghenion dysgu ychwanegol, ar ôl i ddau adroddiad beirniadol gael eu cyhoeddi ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 15).

Daw’r alwad gan undebau ASCL Cymru, NAHT Cymru, NASUWT Cymru, NEU Cymru, UCAC, GMB ac Unsain Cymru.

Cafodd y ddau adroddiad eu cyhoeddi gan Bwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg y Senedd, ac maen nhw’n tynnu sylw at rai o’r heriau i blant a gweithwyr addysg proffesiynol ar sail yr hyn mae gweithwyr yn ei ddweud wrth eu hundebau, sef bod angen i bethau newid er lles plant ag anableddau a/neu anghenion dysgu ychwanegol fel bod modd iddyn nhw gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i gyflawni eu potensial.

‘Argyfyngus’

“Mae ein haelodau yn dweud wrthym fod y sefyllfa ar gyfer plant sydd angen cymorth ag anghenion dysgu ychwanegol yn argyfyngus,” meddai Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd NEU Cymru.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu nawr i sicrhau bod digon o gyllid ar gyfer ysgolion, ac amser i Gydlynwyr ADY gefnogi plant.

“Os na fyddwn yn gweithredu’n gyflym, rydym yn gwneud cam â’n plant mwyaf agored i niwed.”

‘Adolygiad manwl a theilwng’

Mae NASUWT Cymru wedi croesawu’r “adolygiad manwl a theilwng”.

“Mae nifer yr argymhellion a wnaed (32) yn sôn am yr ystyriaeth ddifrifol mae’r Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg wedi’i rhoi i’r materion gafodd eu codi yn ystod yr ymgynghoriad,” meddai Neil Butler, Swyddog Cenedlaethol yr undeb.

“Mae NASUWT yn croesawu’r ffocws cryf yn yr argymhellion hyn i’r materion y tu ôl i gyllido pob myfyriwr ADY.

“Mae dwy agwedd yn arbennig yn arwyddocaol.

“Mae cydnabyddiaeth glir yma fod angen i Lywodraeth Cymru egluro cyfrifoldebau ysgolion a’r Awdurdodau Lleol, ac ystyried diogelu’r arian a glustnodwyd ar gyfer plant sy’n byw gydag ADY er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

“Mae cydnabyddiaeth glir hefyd o’r angen i adolygu sut mae’r myfyrwyr hynny yr ystyrir bod angen darpariaeth gyffredinol arnyn nhw yn cael eu cefnogi yn yr ysgol ar hyn o bryd, gydag argymhelliad am adnoddau gwell i alluogi staff i sicrhau bod eu dysgu’n cael ei ddiogelu.

“Mae NASUWT yn awyddus i weld yr ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r ceisiadau a wnaed am ymchwil gryfach sy’n seiliedig ar dystiolaeth, cyllid, ac ymrwymiad i amserlen glir ar gyfer camau gweithredu.

“Byddai NASUWT yn pwysleisio pa mor frys yw gweithredu’r argymhellion hyn, er mwyn unioni unrhyw effaith andwyol o’r ddeddfwriaeth ADY flaenorol.”

‘Colli allan ar gymorth’

Yn ôl Rosie Lewis, Trefnydd Rhanbarthol Unsain, dydy cyn orthwywyr addysgu ddim yn teimlo bod modd iddyn nhw ymateb i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn y modd y bydden nhw’n hoffi ymateb iddyn nhw.

“Mae llawer eisoes yn teimlo eu bod yn cael eu gorymestyn ac nad ydynt wedi elwa o hyfforddiant angenrheidiol, gan olygu bod mwy o blant yn colli allan ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw,” meddai.

“Mae angen mwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o ddarparu ADY – mae yna argyfwng recriwtio mewn ysgolion ar hyn o bryd.

“Mae diffyg staff yn her allweddol i gyflwyno’r system ADY yn llwyddiannus.”

‘Baich annioddefol’

Dywed NAHT Cymru fod “y system wedi’i thanariannu’n sylweddol”.

“Mae’r adroddiadau hyn yn cadarnhau’r hyn y gwyddom eisoes sy’n wir – yn syml, nid oes gan ysgolion y gallu i gyflawni ar gyfer y dysgwyr mwyaf agored i niwed oherwydd bod y system wedi’i thanariannu’n sylweddol,” meddai Laura Doel, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb.

“Nid oes dim byd sy’n difetha enaid mwy i arweinwyr ysgol wybod beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i gefnogi eu plant a’u pobl ifanc, ond yn syml iawn, nid oes ganddyn nhw’r arian i gyflogi’r staff i’w cefnogi, a’r gallu mewn ysgolion i helpu’r rheini gyda’r anghenion mwyaf cymhleth.

“Mae proses rhy fiwrocrataidd, ynghyd â chyflogau gwael i Gydlynwyr ADY ac Awdurdodau Lleol hefyd yn cael trafferthion ariannol sy’n golygu na allan nhw ehangu darpariaethau arbenigol, wedi arwain at bwynt argyfyngus.

“Ni allwch ddweud wrth ysgolion am gyflawni cynlluniau cymorth unigol ar gyfer dysgwyr neu wynebu’r goblygiadau, a dweud wrthyn nhw ar yr un pryd am wneud arbedion effeithlonrwydd.

“Yr unig opsiwn sydd ar gael i ysgolion i arbed arian yw torri’r union staff sydd eu hangen arnynt i gefnogi ADY.

“Mae hyn yn rhoi baich annioddefol ar ysgolion ac yn gorymestyn staff.”

‘Addysg o’r safon uchaf’

Dywed UCAC eu bod nhw’n “cydnabod pwysigrwydd darparu addysg o’r safon uchaf posib i fyfyrwyr ADY”.

“Er mwyn cyrraedd y safonau hynny, mae’n hollbwysig bod cyllid digonol a bod Cydlynwyr ADY a’r holl staff sy’n ymwneud â myfyrwyr ADY yn cael amser ac adnoddau digonol,” meddai Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb.

“Ar hyn o bryd, mae’r aelodau hyn o staff yn wynebu pwysau aruthrol ac mae’r galwadau presennol wedi arwain at unigolion yn gadael y proffesiwn ar adeg pan rydym eisoes yn wynebu heriau recriwtio a chadw.

“Mae angen newid y sefyllfa, er mwyn sicrhau bod ein disgyblion mwyaf agored i niwed yn cael y cyfleoedd gorau posib.”

System “or-fiwrocrataidd a beichus”

Yn ôl ASCL Cymru, mae’r system yn “or-fiwrocrataidd a beichus”, ac “yn aml yn mynd ag ymarferwyr medrus i ffwrdd o’r ystafell ddosbarth ac yn y pen draw oddi wrth yr union blant sydd angen y cymorth hwn”.

“Dylai’r cyllid ddilyn unrhyw blentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ond nid yw hyn yn wir,” meddai Eithne Hughes, Cyfarwyddwr yr undeb.

“Mae dryswch y dosbarthiad cyllid yn dod â ni at loteri cod post arall unwaith eto.

“Dim ond hyn a hyn all arweinwyr ei wneud ag angen gwirioneddol am adnoddau pellach wrth geisio rheoli toriadau dwfn i gyllidebau.

“Nid ydym eisiau dim mwy na chefnogi ein plant.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i’n helpu ni, i helpu’r rhai mwyaf agored i niwed.”

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi ymrwymo i chwalu rhwystrau, er mwyn i bob dysgwr allu cyrraedd eu potensial.