Mae Ben Lake, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, am gyflwyno gwelliant i Araith y Brenin, er mwyn rhoi gwasanaethau cyhoeddus Cymru “yn ôl ar sylfaen gynaliadwy” drwy fformiwla ariannu sy’n seiliedig ar angen.

Yn ôl Aelod Seneddol Ceredigion Preseli, mae Llafur wedi ennill etholiad ar sail maniffesto sy’n addo “peidio dychwelyd i lymder”, ond mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu “bylchau cyllidebol syfrdanol”.

Dywed y byddai setliadau ariannu aml-flwyddyn ar gyfer Llywodraeth Cymru yn rhoi “mwy o eglurder i wasanaethau cyhoeddus ar eu cyllidebau”.

Mae e hefyd wedi ategu galwad Plaid Cymru ar i Gymru dderbyn cyllid canlyniadol llawn gan HS2 a phrosiectau seilwaith eraill yn Lloegr.

Mae’n tynnu sylw at y ffaith fod pob plaid yn Senedd Cymru yn cefnogi’r egwyddor, gan gynnwys y Llywodraeth Lafur.

Ar lefel y Deyrnas Unedig, fodd bynnag, mae Llafur wedi gwrthod ymrwymo i’r egwyddor.

‘Straen difrifol’

“Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru dan straen difrifol, a Chyngor Caerdydd yw’r diweddaraf i gyhoeddi bwlch cyllidebol syfrdanol o bron i £50m y flwyddyn nesaf,” meddai Ben Lake.

“Rhaid i Lywodraeth Lafur newydd y Deyrnas Unedig, gafodd ei hethol ar addewid maniffesto o ‘ddim dychwelyd i lymder’, ddangos yn Araith y Brenin sut y mae’n bwriadu rhoi ein gwasanaethau cyhoeddus yn ôl ar sylfaen gynaliadwy.

“Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i Araith y Brenin fyddai’n sefydlu fformiwla ariannu ar sail angen i Gymru, fyddai’n adlewyrchu ffactorau megis lefelau tlodi cymharol, iechyd, a chanran y plant a’r bobol sydd wedi ymddeol yn y boblogaeth.

“Byddai ein gwelliant hefyd yn gweld setliadau ariannu aml-flwyddyn yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, gan symud i ffwrdd o’r broses ariannu ad-hoc bresennol sy’n atal pennu cyllidebau’n effeithiol.

“Byddai hyn yn rhoi mwy o eglurder i wasanaethau cyhoeddus ar eu cyllidebau.

“Rydym hefyd yn galw am fframwaith cyllidol diwygiedig i sicrhau bod Cymru’n cael cyllid canlyniadol llawn o HS2 a phrosiectau seilwaith eraill yn Lloegr drwy ei gwneud yn ofynnol bod ffactor cymaradwyedd cyllid Cymru ar gyfer y rhain, a phrosiectau trafnidiaeth y dyfodol, yn cael ei osod ar 100%.

“Caiff yr alwad hon ei chefnogi gan bob plaid yn Senedd Cymru, gan gynnwys y llywodraeth, sef y Blaid Lafur.

“Mae Plaid Cymru yn barod i fod yn wrthblaid ddifrifol ac adeiladol i Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig.

“Byddwn yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif ar ei haddewidion i Gymru ac yn defnyddio pob cyfle i sicrhau bargen decach i bobol Cymru.”