Mae nifer sylweddol o blant ledled Cymru yn cael eu hamddifadu o’u hawl i addysg, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.
Mae’r Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg yn dweud bod plant a phobol ifanc ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol yn cael cam gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, a hynny ar yr adeg fwyaf hanfodol yn eu bywydau.
Clywodd y pwyllgor gan deuluoedd sydd wedi gorfod brwydro i gael yr addysg a’r gofal plant mae gan eu plant hawl i’w cael.
Maen nhw bellach yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r pum casgliad allweddol a’r 32 argymhelliad sy’n deillio o’u hymchwiliad blwyddyn o hyd.
Mynediad cyfartal i ysgolion a gofal plant
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan deuluoedd sy’n cael trafferth cael mynediad at addysg gynhwysol a chymorth gofal plant addas.
Mae gormod o leoliadau prif ffrwd sydd ddim yn diwallu anghenion plant a phobol ifanc, sy’n cael eu trin fel pegiau sgwâr mewn tyllau crwn, heb unrhyw addasiadau’n cael eu gwneud i’w galluogi i gymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol, yn ôl yr adroddiad.
Mewn lleoliadau arbenigol, gwelodd y pwyllgor lawer o arfer da o ran sut mae plant a phobol ifanc yn cael eu cefnogi mewn ffyrdd sy’n datgloi eu galluoedd a’u potensial, ond mae angen rhagor o’r math hwnnw o ddarpariaeth, medden nhw.
“Mae’r ymchwiliad hwn mor bwysig i rieni fel fi oherwydd bod fy mhlant yn ddi-eiriau, ond mae hyn yn rhoi llais iddyn nhw,” meddai Betsan Gower Gallagher, mam i efeilliaid awtistig chwech oed, oedd wedi rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor am ei phrofiadau.
“Mae gan fy mhlant anghenion hynod gymhleth ond mae’n frwydr ddiddiwedd i gael y gefnogaeth y mae gennym hawl iddi,” meddai.
“Mae’n rhaid i ni frwydro a brwydro am hyd yn oed y pethau sylfaenol, fel addysg.
“Ac nid oes unrhyw gymorth gofal plant yn ein hardal a all hwyluso anghenion fy mhlant dros yr haf – hyd yn oed ar gyfer gweithgareddau sy’n cael eu hysbysebu fel rhai cynhwysol nid oes cyfleusterau digonol i’n cefnogi ni.
“Rydyn ni eisiau gwneud y gorau dros ein plant, maen nhw mor arbennig ac yn llawn llawenydd a chariad – ond rydyn ni wedi blino’n lân o ran system sy’n gweithio yn ein herbyn.”
Argymhellion a chasgliadau
Mae’r adroddiad yn gwneud 32 o argymhellion penodol ac yn dod i bum casgliad allweddol.
Yn gyntaf, mae nifer sylweddol o hawliau plant a phobol ifanc i addysg, fel sy’n cael eu nodi yn Erthygl 28 ac Erthygl 29 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, yn cael eu torri yng Nghymru ar hyn o bryd.
Yn ail, gall amddifadu plant a phobol ifanc o’r hawliau hyn gael effaith fawr ar eu llesiant emosiynol a meddyliol, yn ogystal â’u hiechyd corfforol, a gall hyn effeithio’n barhaol ar eu cyfleoedd mewn bywyd.
Yn drydydd, daeth yr adroddiad i’r casgliad y gall effaith amddifadu plant a phobol ifanc o’u hawliau i addysg, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer gofal plant cynhwysol, gael effaith anfesuradwy ar eu teulu, yn enwedig rhieni, gofalwyr a brodyr a chwiorydd.
Dywedodd teuluoedd oedd wedi rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor fod gorfod brwydro dros hawliau sylfaenol wedi effeithio ar eu hiechyd eu hunain a’u gallu i weithio.
Y pedwerydd casgliad oedd fod y ddarpariaeth anghyson yn arwain at loteri cod post, yn enwedig i’r rhai sydd am gael addysg a gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg.
Lle mae darpariaeth dda yn bodoli, mae hynny oherwydd bod unigolion yn benderfynol, ac nid o ganlyniad i ddull gweithredu strwythurol.
Pumed casgliad yr adroddiad yw bod y broblem yn cynnwys rhwystrau cymhleth sy’n ymwneud ag agweddau at anabledd a gwahaniaeth yn gyffredinol, ond mae nifer o gamau ymarferol y gellir eu rhoi ar waith.
“Drwy gydol yr ymchwiliad hwn, clywsom gan rieni oedd yn ysu am gefnogaeth, ac i gael rhywun i wrando arnyn nhw,” meddai Buffy Williams, cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
“Bydd llawer o’r straeon yn aros gyda mi am byth.
“Fydden ni ddim yn gwneud ein gwaith pe na fyddem yn clywed eu lleisiau ac yn cyflwyno’r achos cryfaf posibl i Lywodraeth Cymru dros yr hyn sydd angen ei newid – dyna rydyn ni’n ei ddweud yn yr adroddiad hwn.
“Y strwythur sydd ar fai, nid athrawon na staff gofal plant unigol sy’n gwneud eu gorau glas er gwaetha’r strwythur.
“Ond ni fydd y darn hwn o waith yn dod i ben gyda hynny.
“Byddwn yn cadw llygad barcud ar y camau a gymerir a sut y maent yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad am weddill cyfnod y Senedd.
“Ni allwn wneud cam â’n pobol ifanc mwyach.
“Dim ond un cyfle gewch chi mewn addysg, a dylai hwnnw fod y cyfle gorau posibl.”