Mae’n bosib y gallai Donald Trump ennill poblogrwydd yn y ras arlywyddol yn sgil yr ymgais i’w lofruddio, yn ôl darlithydd sy’n arbenigwr ar wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau.
Yn ôl Dr Ian Stafford o Brifysgol Caerdydd, gallai’r ymgais i ladd cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau gryfhau’r gefnogaeth sydd iddo ymhlith ei bleidleiswyr presennol.
Cafodd ei anafu wedi i ddyn saethu ato mewn rali yn Pennsylvania yr wythnos ddiwethaf.
Mae lluniau teledu o’r digwyddiad yn dangos Donald Trump yn disgyn i’r llawr cyn iddo gael ei amgylchynu gan swyddogion o’r gwasanaethau cudd.
Cododd ar ei draed ar ôl tua munud, gyda gwaed ar ei glust dde a’i foch.
Cafodd Thomas Matthew Crooks, y dyn sydd wedi’i amau o fod yn gyfrifol am yr ymosodiad ac sydd wedi’i enwi gan yr FBI, ei saethu’n farw.
Cafodd dyn yn y dorf ei saethu’n farw yn yr ymosodiad hefyd, ac mae dau ddyn arall mewn cyflwr difrifol.
Joe Biden yn cael dianc rhag y sylw
Dros y misoedd diwethaf, fe fu cryn ddyfalu y gall fod dementia neu gyflwr iechyd arall ar Joe Biden, yr Arlywydd presennol.
Cafodd ei gyflwr ei drafod ymhellach yn ddiweddar, wedi iddo gyflwyno Volodymyr Zelensky, Arlywydd Wcráin gan ei alw’n Vladimir Putin, sef Arlywydd Rwsia, mewn digwyddiad gan NATO yr wythnos ddiwethaf.
Oriau’n ddiweddarach, cyfeiriodd at Donald Trump fel Dirprwy Arlywydd – ond swydd Kamala Harris yw honno.
Mae Karine Jean-Pierre, Ysgrifennydd y Wasg y Tŷ Gwyn, wedi dweud wrth ohebwyr nad yw’r arlywydd erioed wedi cael diagnosis o glefyd Parkinson, dementia nac unrhyw anhwylder niwrolegol dirywiol tebyg.
Dywed y Tŷ Gwyn fod yr arlywydd wedi cael asesiad niwrolegol dair gwaith ers dod i’r swydd, a hynny’n rhan o’i brofion iechyd blynyddol.
Y ras ar gyfer y Tŷ Gwyn
Yn ôl Dr Ian Stafford, bydd yr ymgais i ladd Donald Trump bellach yn flaenoriaeth uwch na’r pryderon am iechyd Joe Biden a’r cwestiynau ynghylch a ddylai sefyll yn y ras am yr arlywyddiaeth.
“Dydw i ddim yn meddwl y daw unrhyw beth cadarnhaol o hyn i ymgyrch Biden,” meddai wrth golwg360.
“Yr hyn y bydd yn ei wneud yw cysgodi’r dadleuon yn y blaid Ddemocrataidd ar hyn o bryd ynghylch ei ymgeisyddiaeth achos, yn amlwg, cyn i hyn ddigwydd dyna oedd prif ffocws y ddadl wleidyddol yn yr Unol Daleithiau.
“Ond dydy hyn ddim o reidrwydd yn mynd i helpu ei ymgyrch.
“Os rhywbeth, mae’n mynd i fywiogi sylfaen Trump hyd yn oed yn fwy.
“Mae’n mynd i uno’r blaid Weriniaethol hyd yn oed yn fwy, ac felly mae’n dod yn her i Biden.”
Effaith ar ymgyrch Donald Trump
Yr hyn does neb yn ei wybod ar hyn o bryd, meddai Dr Ian Stafford, yw sut fydd hyn yn effeithio ar ymgyrch Donald Trump.
“Mae’n mynd i chwarae allan yr wythnos hon yn y confensiwn Gweriniaethol, oherwydd mae’n amlwg ei fod eisoes wedi datgan yn ei araith ei fod yn mynd i alw am undod cenedlaethol yn ei araith yno,” meddai.
“Ond mae’n dibynnu mewn gwirionedd ar yr hyn mae’n ei ddweud.
“Gallwch weld bod senarios lle mae hyn yn bwydo i mewn yn eithaf braf i’r naratif mae wedi’i fabwysiadu’r holl ffordd yn ôl o’r adeg y cyhoeddodd ei ymgeisyddiaeth – ei fod wedi cael ei dargedu gan y cyfryngau a’r sefydliad, a’i fod yn ymladd dros y person bob dydd yn America.
“P’un a yw’n ceisio ei ddefnyddio’n eithaf tebyg i hynny neu a yw’n ceisio newid cyfeiriad a defnyddio hyn fel ffordd o geisio apelio at ystod ehangach o bleidleiswyr, bydd yn rhaid i ni weld beth sy’n digwydd yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
“Ond byddai’n newid cyfeiriad mawr iddo fo drio apelio at bleidleiswyr cymedrol neu Ddemocrataidd.”
Dilyn llwybr Ronald Reagan?
Pan fu ymgais i ladd Ronald Reagan wrth iddo sefyll fel ymgeisydd Gweriniaethol yn 1981, fe wnaeth y cyhoedd gynhesu ato mewn polau piniwn.
Mae rhai’n cwestiynu ai dyma fydd yn digwydd yn achos Donald Trump.
“Mae ymdrechion i ladd wastad yn sioc, mewn ffordd, achos er eu bod nhw wedi digwydd yn y gorffennol, dydyn nhw ddim yn digwydd mor aml â hynny,” meddai Dr Ian Stafford.
“Er ein bod ni wedi arfer gyda saethu yng nghyd-destun yr Unol Daleithiau, yn anaml y mae’n digwydd mewn perthynas ag ymgeiswyr arlywyddol neu arlywyddion eu hunain.
“Felly mae wedi dod fel sioc mewn rhai ffyrdd, ond ddim mewn ffyrdd eraill os ydych chi’n meddwl am yr iaith sy’n cael ei defnyddio yng ngwleidyddiaeth gyfoes yr Unol Daleithiau a’r polareiddio o fewn cymdeithas yr Unol Daleithiau.
“Mae marc cwestiwn a allai Trump weld cynnydd yn ei boblogrwydd.
“Ond o ystyried bod yr etholiad yn dal i fod rai misoedd i ffwrdd, ac o ystyried bod y polau mor dynn, mae yna gwestiwn a fyddai unrhyw gefnogwyr presennol i Biden yn cael eu denu gan Trump dim ond oherwydd y digwyddiad hwn.
“Efallai y gwelwn ychydig o symudiad, ond yr hyn sy’n amlwg yn mynd i ddigwydd yw, i’r bobol sy’n cefnogi Trump eisoes, mae hyn yn mynd i ddyfnhau eu cefnogaeth a’u hymlyniad wrtho.
“Mae p’un a yw’n mynd i ennill mwy o bobol oherwydd hyn ychydig yn fwy agored i drafodaeth.”