Arbed arian a chefnogi’r blaned yw gobaith Cyfnewidfa Gwisg Ysgol sydd wedi’i threfnu yn sgil Cynulliadau Newid Hinsawdd lleol.

Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ym Mlaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd dros y bythefnos nesaf, fel bod teuluoedd yn gallu cael gwisgoedd holl ysgolion yr ardal am ddim.

Cafodd Cynulliadau Cymunedol eu cynnal ym Mlaenau Ffestiniog, a phedair ardal arall yng Ngwynedd, gan brosiect GwyrddNi yn ystod 2022/23.

O’r Cynulliadau hynny, cafodd Cynlluniau Gweithredu lleol eu datblygu ac un elfen o gynllun Bro Ffestiniog yw ‘Rhannu Stwff a Thrwsio’.

Eglura Nina Bentley, hwylusydd GwyrddNi ym Mlaenau Ffestiniog, mai pwrpas yr elfen honno o’r cynllun oedd rhannu eitemau a sgiliau, trwsio nwyddau sydd ddim angen eu taflu, ac edrych ar wastraff ar lefel ehangach ledled y gymuned.

“Beth sydd gennym ni yw nifer o ysgolion bychain, a does yna ddim lot o achosion pan mae cymunedau’r holl ysgolion yn dod ynghyd yr un pryd,” meddai wrth golwg360.

“Roedd e i weld yn syniad da.

“Gall teuluoedd arbed arian ar wisg ysgol, maen nhw reit ddrud.

“Does dim angen prynu rhai newydd pan mae gan eich cymydog neu rywun arall yn y gymuned yr union beth rydych chi ei angen – pam ddim cael lle hwyliog i rannu hynna?

“Mae’n wych i’r amgylchedd, unrhyw beth sy’n stopio ni rhag prynu pethau newydd pan nad oes angen… pethau’n gorfod cael eu cynhyrchu o sgratsh, yn aml mewn rhannau eraill o’r byd a’u cludo yma, ac ar yr ochr arall rydyn ni’n creu mynyddoedd a mynyddoedd o wastraff – lot ohono fo’n hollol iawn i ailddefnyddio.

“Mae rhoi Bro Ffestiniog yn y cyd-destun hwnnw’n beth gwych i’w wneud.”

Maen nhw hefyd yn pwysleisio nad oes rhaid bod wedi cyfrannu gwisg er mwyn derbyn rhai.

Mae’r lein ddillad yng nghanol y dref wedi denu sylw ymwelwyr a phobol leol, meddai Nina, gan gynnwys un ymgyrchydd newid hinsawdd o Fryste oedd yn awyddus i fynd â’r syniad adre efo fo

‘Creu cymuned gryfach’

Arian drwy brosiect GwyrddNi sy’n mynd tuag at gynnal y ddwy gyfnewidfa, ynghyd â golchi a sychu’r holl ddillad.

Bydd y gyfnewidfa gyntaf yn digwydd yn y Ganolfan Gymdeithasol ym Mlaenau Ffestiniog ddydd Sadwrn, Gorffennaf 20 rhwng 11yb a 2yp, a’r ail ar iard Ysgol Bro Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd ar Orffennaf 27.

Bydd gwisgoedd holl ysgolion cynradd y dalgylch, ynghyd ag Ysgol y Moelwyn, wedi’u rhannu i finiau – hen finiau sydd wedi cael eu glanhau a’u rhoi gan Gyngor Gwynedd, a’u harddu gan blant yr ysgolion cynradd – yn y digwyddiadau.

Bydd gweithgareddau crefft i blant a phaentio wyneb yn rhan o’r diwrnodau, ac mae Nina Bentley yn annog pobol i ddod yno i rannu eu syniadau am yr hyn yr hoffen nhw weld yn digwydd yn y gymuned.

Y gwisgoedd ysgol yn cael eu sortio, ar ôl eu golchi a’u sychu

Ynghyd ag arbed arian a chefnogi’r blaned, mae rhannu eitemau’n ffordd o ddod â chymuned at ei gilydd, yn ôl Nina Bentley.

“Pan rydyn ni’n rhannu pethau, mae’n creu cymuned gryfach ac yn creu cysylltiadau cryfach rhwng pobol, pobol yn teimlo fel bod eu cymuned yn helpu nhw, bod yr ysgol yn teimlo fel teulu,” meddai.

“Mae o’n creu teimladau da am lle rydyn ni’n byw.”

Cyfnewidfa hen ddillad ysgol yn Llanrug yn helpu’r amgylchedd a’r gymuned

Elin Wyn Owen

“Mae’n beth da i normaleiddio’r syniad o ailddefnyddio a bod pethau ail-law ddim yn rhywbeth i fod â chywilydd ohonyn nhw”