Dywed Aelod Seneddol Llafur yng Ngwent ei bod hi wedi rhoi’r gorau i dderbyn cyflog fel cynghorydd sir, ond nad yw’n barod i gamu o’i swydd fel cynghorydd.
Mae’r Ceidwadwyr wedi ceisio cynyddu’r pwysau ar Catherine Fookes, wedi iddyn nhw gyflwyno cynnig i gyfarfod yr wythnos nesaf iddi ymddiswyddo yn dilyn yr etholiad cyffredinol.
Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan y Cynghorydd Richard John, arweinydd yr wrthblaid Geidwadol, sydd wedi “llongyfarch y Cynghorydd Fookes ar ei hethol yn Aelod Seneddol dros Sir Fynwy, ond yn nodi’r rhesymau iddi roi gorau i’w rôl”.
Mae’r rhesymau hynny yn cynnwys “amhariad a heriau sylweddol” yn ward Trefynwy y bu’n ei gynrychioli fel cynghorydd sir ers Mai 2022.
“O ystyried yr holl anhrefn y bu’n rhaid i drigolion a busnesau ward y dref ymdopi â nhw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’n hanfodol eu bod yn cael y cyfle i ethol cynghorydd diwyd all fod ar lawr gwlad i’w chynrychioli, nid yn Llundain,” meddai’r Cynghorydd Richard John.
Ategodd hefyd na fyddai’n “deg ar y cyhoedd” pe bai Catherine Fookes yn parhau i “gymryd y ddau gyflog pan fo pawb yn gwybod y byddai’n amhosibl gwneud cyfiawnder â’r ddwy swydd.”
Cyflog
Cyflog blynyddol aelodau seneddol yw £91,346 – tra bo cynghorwyr sir yn derbyn £18,666.
Tynnodd y Ceidwadwyr sylw at gyfanswm y ddwy rôl, sef cyflog o ryw £110,000.
Ond dywed Catherine Fookes ei bod hi eisoes wedi ysgrifennu at y Cyngor yn nodi ei bod hi eisiau rhoi’r gorau i dderbyn ei chyflog fel cynghorydd sir.
Dywed y bydd yn ymddiswyddo o’r Cyngor, ond y dylid cynnal is-etholiad “pan fydd y nifer uchaf o bleidleiswyr yn gallu cymryd rhan”.
Y Cyngor
Roedd Llafur wedi rhedeg y Cyngor fel gweinyddiaeth leiafrifol am flwyddyn cyn cytundeb ym mis Mai 2023.
Golyga hyn fod un cynghorydd o’r Blaid Werdd yn eistedd mewn grŵp ‘Annibynnol Gwyrdd’ gyda chynghorydd annibynnol.
Mae’r cytundeb hwnnw, sy’n rhoi 23 pleidlais gyfunol i’r Cynghorydd Llafur a’r Blaid Werdd Ian Chandler – a phleidlais ychwanegol y cynghorydd Annibynnol Gwyrdd, Meirion Howells – wedi bod yn hollbwysig mewn nifer o bleidleisiau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae gan y Ceidwadwyr, enillodd is-etholiad Cyngor Tref Mynwy yn ward y dref ym mis Mehefin, ddeunaw aelod a byddai’n rhaid iddyn nhw daro bargen gyda phob un, neu rai, o’r pedwar grŵp Annibynnol cryf i geisio cael rheolaeth ar y Cyngor oddi wrth Lafur.
Dau gyflog
Dywedodd Catherine Fookes ei bod hi, “ddydd Sul, Gorffennaf 7, wedi ysgrifennu at y Cyngor yn gofyn iddyn nhw roi’r gorau i fy nhalu, a gwnaethon nhw hynny ar unwaith”.
“Dw i ddim yn derbyn dau gyflog,” meddai.
“Dylai’r Ceidwadwyr wirio eu ffeithiau cyn gwneud cyhuddiadau.
“Dw i wastad wedi bod yn glir na fyddai gen i ddwy swydd pe bawn yn cael fy ethol i’r Senedd.
“Gallaf gadarnhau, felly, y byddaf yn ymddiswyddo maes o law, ond dydy sbarduno etholiad yn ystod gwyliau’r ysgol ddim o fudd i’r pleidleiswyr, gan y bydd nifer o drigolion i ffwrdd.
“Byddaf yn cyflwyno fy ymddiswyddiad yn ffurfiol ar adeg fydd yn arwain at etholiad pan fydd y nifer uchaf o bleidleiswyr yn gallu cymryd rhan.”
Bydd cynnig y Ceidwadwyr yn cael ei gyflwyno i gyfarfod llawn Cyngor Sir Fynwy yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga ddydd Iau (Gorffennaf 18).
Pan ailddechreuodd cyfarfodydd y Cyngor yr wythnos ddiwethaf, yn dilyn cyfnod yr etholiad, fe wnaeth cadeirydd y Ceidwadwyr ar bwyllgor craffu’r Cyngor dynnu sylw absenoldeb Catherine Fookes.
Dywedodd cynghorydd Llafur fod y blaid yn ailbennu seddi’r pwyllgor o ganlyniad.
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cydymffurfio â chais Catherine Fookes i atal ei thaliadau.