Does dim rheswm pam y byddai Llywodraeth Cymru’n cyrraedd eu targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, medd y Ceidwadwyr Cymreig.
Daw eu sylwadau wedi i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) gerbron y Senedd ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 15).
Mae’r Bil yn cynnwys rhoi sail statudol i’r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Gobaith Jeremy Miles, cyn-Ysgrifennydd y Gymraeg, sydd newydd ymddiswyddo o’r Cabinet, yw y bydd y Bil yn cyflawni’r nod drwy geisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol orfodol yn defnyddio’r Gymraeg yn annibynnol, o leiaf.
Yr amcan yw i bob disgybl feithrin sgiliau llafar sydd gyfystyr â lefel B2, o leiaf, o’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer ieithoedd. Mae’r lefel honno’n cyfeirio at bobol sydd yn ddigon rhugl i gyfathrebu heb ymdrech â siaradwyr iaith gyntaf.
Graddfa B2 yw’r drydedd lefel uchaf o ran rhuglder iaith.
Yn ei ymateb i’r Bil, dywed Tom Giffard, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Gymraeg, fod yr iaith “yn rhan o hanes a threftadaeth yr holl Deyrnas Unedig, yn ogystal â Chymru”.
“Mae gan Lywodraeth Lafur Cymru record o fethu targedau; does yna ddim rheswm pam y byddan nhw’n cyrraedd yr un hwn; edrychwch ar ganlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) Cymru.”
‘Croesawu ond angen mwy o adnoddau’
Er bod Mentrau Iaith Cymru wedi croesawu’r Bil Addysg a’i ddyheuad “i bob disgybl ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus drwy’r system addysg statudol”, maen nhw’n dweud bod angen mwy o adnoddau arnyn nhw i sicrhau bod cyfleoedd i bobol siarad Cymraeg ledled cymunedau.
Mae’r Mentrau Iaith yn siarad yn ddyddiol ag oedolion ifainc sy’n difaru na chawson nhw’r cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg drwy’r system addysg, medden nhw.
Ychwanega Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru, fod rôl y Mentrau Iaith wrth greu profiad Cymraeg lle gall dysgwyr ifanc gael eu trochi’n “hanfodol”.
“Cymerwch Tafwyl fel enghraifft; mae’n enghraifft wych o’n gwyliau cerddorol Cymraeg ledled Cymru’n sy’n gwneud y Gymraeg yn berthnasol ac yn creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol ac yn ddiofyn.
“Mae’r Mentrau Iaith hefyd yn cefnogi ysgolion ar draws Cymru i atgyfnerthu defnydd anffurfiol y Gymraeg, ond mae cymaint mwy y gallwn ni ei wneud.”
Dywed Dewi Snelson, cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, fod angen mwy o adnoddau ar y Mentrau Iaith i gefnogi eu gwaith.
“Mae angen ymrwymiad ariannol gan yr Awdurdodau Lleol ac ymrwymiad mwy sylweddol o’r Llywodraeth er mwyn ein galluogi ni i greu profiad holistaidd o’r Gymraeg i blant a phobol ifanc Cymru, yn ogystal â’u teuluoedd,” meddai.
“Mae gyda ni’r cysylltiadau gyda’r ysgolion a’r gymuned ar draws Cymru, ond rydyn ni angen mwy o adnoddau.”
‘Cyfle tecach’
Wrth gyhoeddi’r Bil, dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar y pryd, fod y Bil yn “gam hanfodol” tuag at wireddu’r uchelgais o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae’r cynigion hyn yn ymwneud â rhoi cyfle tecach i blant a phobol ifanc ddod yn siaradwyr Cymraeg,” meddai.
“Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i adeiladu Cymru lle mae’r Gymraeg yn ffynnu ym mhob cymuned, a lle gall pob un fod yn falch o’u treftadaeth a’u sgiliau dwyieithog neu amlieithog.”
Mae’r Bil hefyd yn mynd ati i sicrhau bod addysg drochi Gymraeg ar gael ledled y wlad.
“Mae ein dull o drochi dysgwyr yn y Gymraeg yn unigryw i ni yng Nghymru, ac rwy’n ymfalchïo yn yr hyn y mae ein hathrawon yn ei wneud bob dydd,” meddai Lynne Neagle, yr Ysgrifennydd Addysg.
“Mae’r Bil yn brosiect hirdymor, a byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion i gyflwyno mwy o Gymraeg i’w gweithgareddau.”