Ers ei dreialu chwe blynedd yn ôl, mae gwasanaeth cymorth iechyd meddwl ar-lein Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi cyrraedd hyd at 30,000 o atgyfeiriadau.

Cafodd y gwasanaeth, sy’n rhad ac am ddim, ei dreialu’n llwyddiannus ym Mhowys ym mis Mai 2018, a chaiff ei bweru gan blatfform iechyd meddwl digidol SilverCloud.

Wrth ymateb i’r pandemig Covid-19, cafodd y gwasanaeth ei rannu ledled Cymru er mwyn sicrhau cymorth i bobol mewn angen.

Y cyhoedd yn cofleidio darpariaeth ddigidol

Dywed Fionnuala Clayton, rheolwr y prosiect, fod nifer yr atgyfeiriadau yn adlewyrchu penderfyniad Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i chwalu’r rhwystrau at ofal, a dangos bod y cyhoedd yn barod i gofleidio darpariaeth ddigidol.

“Mae degau o filoedd o bobol wedi darganfod manteision ein gwasanaeth cymorth ar-lein, gan nad oes ganddo restrau aros, mae’n gyfleus i’w ffordd o fyw ac yn canolbwyntio ar atal yn gyntaf,” meddai.

“Gyda llwybrau atgyfeirio newydd eisoes ar waith a mwy o ddatblygiadau cyffrous ar y gweill, mae’r gwasanaeth yn debygol o fynd o nerth i nerth.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gynnig cymorth i fwy o gleifion wrth i’r prosiect barhau.”

Beth yn union yw SilverCloud?

Mae SilverCloud yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) a Therapi Gwella Ysgogol (MET).

Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) yw’r therapi sy’n annog unigolion i herio’r ffordd maen nhw’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn er mwyn cael y deunyddiau sydd eu hangen arnyn nhw i ymdopi ag anawsterau bywyd.

Mae rhaglenni rhyngweithio SilverCloud yn dysgu sgiliau ymdopi ymarferol ar gyfer materion iechyd meddwl, ac mae modd eu cyrchu nhw ar-lein unrhyw bryd, unrhyw le a thrwy unrhyw ddyfais symudol.

Maen nhw ar gael am ddim i unrhyw un yng Nghymru dros 16 oed sydd heb atgyfeiriad meddyg teulu.

Yn ogystal, gall cleifion gael eu cyfeirio at y gwasanaeth gan ymarferwyr gofal iechyd ym Mhowys, a thrwy bartneriaethau gydag Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Phrifysgol Cwm Taf.

Mae cynnydd y defnyddwyr yn cael ei fonitro gan ymarferwyr sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n darparu cymorth bob pythefnos ac yn gallu uwch gyfeirio achosion mwy difrifol i dderbyn cymorth pellach.

Daeth i’r amlwg fod dros hanner y 30,000 o atgyfeiriadau wedi bod ar gyfer oedolion sydd angen cymorth â gorbryder ac iselder.

Roedd bron i 2,000 wedi gofyn am gymorth ar gyfer straen, tra bod cannoedd yn rhagor wedi gofyn am gymorth ynghylch panig, diffyg cwsg ac anhwylderau gorfodaeth obsesiynol.

Mae rhaglenni ar waith hefyd i gefnogi plant, pobol ifanc a’u rhieni neu ofalwyr.

Astudiaeth Achos

Yn ystod pandemig Covid-19, fe wnaeth un fam o ardal Abertawe ddechrau ymchwilio i ddefnyddio’r gwasanaeth wedi i’w merch ddatblygu pryder.

Dywedodd y fam bod ei merch yn un hapus a hyderus, yn cymdeithasu ac yn mwynhau, gan gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gwahanol o ddawnsio i nofio, o gymnasteg i glybiau amrywiol eraill cyn Covid-19.

Ond yna fe ddaeth y “trobwynt allweddol lle gwnaeth y pryder ddechrau datblygu, a phan ddychwelodd i’r ysgol fe wnes i wirioneddol sylwi arno”.

“Dechreuodd gilio i’w chragen a phenderfynodd nad oedd eisiau dawnsio mwyach,” meddai.

“Ymhen amser, doedd hi ddim eisiau mynd i’r clybiau na chwaith i’r ysgol.”

Cafodd y ferch ei chyfeirio at baediatregydd i ddechrau, a daeth yn amlwg wedyn bod y symptomau corfforol yn gysylltiedig â’r pryder.

Cafodd y fam fynediad at raglen SilverCloud ‘Supporting an Anxious Child’, gafodd ei gynllunio ar gyfer rhieni a gofalwyr plant pedair i unarddeg oed.

Mae’n addysgu strategaethau ar gyfer herio pryderon, wynebu ofnau a rheoli pryder.

Mae rhieni hefyd yn dysgu sut i ymateb yn fwy cadarnhaol pan fydd plentyn yn cael trafferth.

Wrth ymateb i’r rhaglen, dywed y fam ei bod yn “llwyddiant mawr” ac y byddai’n ei hargymell.

“Mae’n gwrs da iawn i blant a phobol ifanc nad ydyn nhw wedi archwilio pryder o’r blaen,” meddai.

“Pan fo hyn yn digwydd i chi, mae popeth yn mynd yn wirioneddol ddiflas a digalon, ac mae popeth yn wael – gallwch chi ganolbwyntio’n hawdd ar y drwg.

“Fe wnaeth hefyd ei helpu i ddeall sut y gallai gorbryder effeithio arni’n gorfforol.

“Roedd ymarferion yno i’w helpu i gydnabod bod llawer o broblemau cyfog a stumog mewn gwirionedd yn achosi’r pryder.

“Nid yw’n ateb cyflym, ond yn gyflym iawn dysgodd sut roedd ei phryder yn effeithio arni, ac ar ôl ychydig fisoedd roedd yn gallu mynychu gwersi karate ar ei phen ei hun ar ôl dilyn un o’r strategaethau gafodd eu hawgrymu ar y cwrs.”