Mae’r gwrthbleidiau’n dweud bod amser Vaughan Gething yn Brif Weinidog “yn dod i ben”, wedi i nifer o’i weinidogion ymddiswyddo.
Fore heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 16), mae Julie James, Lesley Griffiths, Jeremy Miles a Mick Antoniw wedi gadael y Cabinet.
Ers cael ei ethol, mae Vaughan Gething wedi bod dan y lach am dderbyn £200,000 i’w ymgyrch arweinyddol gan droseddwr amgylcheddol, ac wedi colli pleidlais hyder yn y Senedd.
Dros yr wythnos ddiwethaf, mae’r Prif Weinidog wedi bod yn destun penawdau cyson yn sgil ei benderfyniad i ddiswyddo Hannah Blythyn o’i Gabinet.
Mae Vaughan Gething yn dweud bod ganddo dystiolaeth sy’n profi bod llun o’i ffôn a negeseuon yn ymwneud â chyfnod Covid-19 wedi cael ei ddangos i NationCymru.
Ers mis Mai, mae Hannah Blythyn wedi bod yn gwadu ei bod hi wedi rhyddhau unrhyw wybodaeth i’r wasg.
‘Colli ffydd’
Wrth ymateb i’r diswyddiadau, dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, fod Vaughan Gething wedi “arwain llywodraeth o anhrefn ac wedi rhoi ei hunan-les o flaen buddiannau pobol Cymru”.
“Am fisoedd, mae crebwyll gwael, osgoi craffu ac agwedd o ‘wneud dim’ tuag at lywodraethu wedi tanseilio swyddfa’r Prif Weinidog ac wedi niweidio enw da gwleidyddiaeth Cymru,” meddai.
“Anaml mae penaethiaid llywodraethau mewn democratiaethau yn diystyru ewyllys eu senedd a pharhau er gwaethaf colli pleidlais o hyder.
“Mae’r Blaid Lafur wedi rhoi eu cefnogaeth i Vaughan Gething, ac mae Keir Starmer wedi ymddwyn fel ei gefnogwr pennaf.
“Mae’r gweinidogion ymddiswyddodd heddiw yr un mor euog; dylen nhw fod wedi gweithredu’n llawer cynt, yn hytrach nag ymyrryd ar yr unfed awr ar ddeg pan welon nhw un pennawd gwael yn ormod.
“Mae pobol Cymru’n colli ffydd yng ngallu Llafur i lywodraethu Cymru,” meddai, gan ychwanegu bod Llafur yn “rhedeg allan o syniadau” a hyder y cyhoedd.
Ar X (Twitter gynt), dywed Hywel Williams, cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, y byddai rhywun yn meddwl y byddai colli ffydd y Cwnsler Cyffredinol “yn ergyd farwol” i’r Prif Weinidog.
“Ond gyda Mr Gething, ac yn bwysicach Keir Starmer, wrth y llyw…”
‘Amser yn dod i ben’
Yr un yw neges Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.
“Mae amser Vaughan Gething yn Brif Weinidog yn dod i ben, a hynny’n iawn o beth,” meddai.
“Ond all Llafur ddim parhau i dwyllo pobol Cymru.
“Fe wnaeth y gweinidogion, fel Jeremy Miles, eistedd yn ei Gabinet, sefyll wrth ei ochr, ac mae cymaint o fai arnyn nhw am chwalfa’r llywodraeth yng Nghymru.
“Bydd Cymru’n cofio.”
‘Llond bol ar sgandalau’
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi bod yn galw ar Vaughan Gething i ymddiswyddo ers iddo golli’r bleidlais hyder hefyd, ac maen nhw wedi ailddatgan hynny heddiw.
“Fedrwn ni ddim fforddio caniatáu i’r dadlau mewn yn Llafur Cymru dynnu’n sylw ni oddi wrth yr ystod o faterion difrifol sy’n wynebu’n gwlad ddim hirach,” meddai’r arweinydd Jane Dodds.
“Mae’r Cymry wedi cael llond bol ar sgandalau gwleidyddol cyson ac addewidion yn cael eu torri; maen nhw eisiau gweld system wleidyddol sy’n gweithio iddyn nhw.”
‘Cefnogaeth y meinciau cefn’
Wrth ymateb i’r diswyddiadau, dywed Alun Davies, yr Aelod Llafur o’r Senedd, fod darllen eu cyhoeddiadau’n “drist”.
“Mae Mick [Antoniw] wedi gweithio’n galed dros nifer o flynyddoedd er mwyn gyrru agenda dros ddiwygio yn ei blaen,” meddai.
“Bydd yr holl weinidogion sy’n gadael y llywodraeth heddiw’n canfod cefnogaeth sylweddol gan aelodau Llafur ar y meinciau cefn.”