Mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi ei fod e wedi dechrau’r broses o ymddiswyddo.
Mewn datganiad, dywed iddo wneud y “penderfyniad anodd” i gamu o’i rôl yn arweinydd Llafur Cymru ac yn Brif Weinidog.
Ychwanega y byddai wedi gobeithio gallu “myfyrio, ailadeiladu ac adnewyddu” dros yr haf, ond ei fod yn “sylweddoli bellach nad yw hyn yn bosib”.
Yn ôl Rhys Owen, Gohebydd Gwleidyddol golwg360, gallai Llafur Cymru benderfynu penodi Ken Skates neu Huw Irranca-Davies i’w olynu.
‘Anrhydedd fwyaf fy mywyd’
Mewn datganiad, dywed Vaughan Gething fod cael ei benodi’n Brif Weinidog Cymru’n “anrhydedd fwyaf” ei fywyd, “hyd yn oed am rai misoedd”.
Mae e wedi canmol “ymroddiad i wasanaeth cyhoeddus gan ein gwasanaeth sifil”, ac “ymroddiad i warineb gan y cyhoedd yng Nghymru”.
“Dw i wedi dilyn fy ngyrfa wleidyddol erioed er mwyn gwasanaethu Cymru,” meddai.
“Ac mae gallu dangos i gymunedau sydd wedi’u tangynrychioli fod yna le iddyn nhw, i ni, yn fraint ac yn anrhydedd na fydd fyth yn pylu.
“Dyna oedd wedi fy nenu i at wasanaeth cyhoeddus.
“Cyn dod yn Aelod o’r Senedd, fe wnes i frwydro achosion cyflogaeth ar ran pobol oedd wedi cael eu camdrin yn y gweithle.
“Roeddwn i eisiau rhoi grym i’r rheiny heb lais.
“Dyna sydd wedi fy ysgogi erioed.
“Fe wnes i hefyd ymgyrchu i greu’r Senedd, gan adeiladu 30 mlynedd o waith er mwyn cefnogi taith datganoli Cymru.”
Ychwanega mai hon yw’r “adeg fwyaf anodd” iddo fe a’i deulu.
‘Anwiredd’
“Mae honiad cynyddol bod rhyw fath o gamwedd wedi digwydd wedi bod yn niweidiol, â chymhelliant gwleidyddol ac yn amlwg yn anwir,” meddai Vaughan Gething wedyn.
“Dros unarddeg o flynyddoedd yn weinidog, dw i erioed wedi gwneud penderfyniad er mwyn elwa’n bersonol.
“Dw i erioed wedi camddefnyddio fy nghyfrifoldebau gweinidogol.
“Mae fy ngonestrwydd yn bwysig. Dw i erioed wedi ei beryglu.
“Dw i’n gresynu nad yw baich y prawf bellach yn beth pwysig yn iaith ein gwleidyddiaeth.
“Dw i’n gobeithio y gall hynny newid.
“Byddaf nawr yn trafod amserlen ar gyfer ethol arweinydd newydd fy mhlaid.
“Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r rhai sydd wedi estyn allan i’m cefnogi i, fy nhîm a fy nheulu yn ystod yr wythnosau diwethaf.
“Mae wedi golygu’r byd i bob un ohonom.
“I’r rhai yng Nghymru sy’n edrych fel fi – y mae llawer ohonyn nhw dw i’n eu hadnabod yn teimlo’n ddigalon ac yn bryderus yn bersonol y funud hon – gwn y gall ein gwlad fod yn well.
“Gwn na all hynny ddigwydd hebddon ni.
“Bydd – ac mae’n rhaid bod llywodraeth yn edrych fel y wlad y mae’n ei gwasanaethu.”
‘Hen bryd’
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi croesawu ymddiswyddiad Vaughan Gething, gan ddweud ei bod hi’n “hen bryd”.
“Ond does dim amheuaeth fod ei gydweithwyr Llafur, o’r rheiny sydd wedi ymddiswyddo heddiw yr holl ffordd i fyny at Keir Starmer, wedi sefyll wrth ei ochr ac yn euog o dorri llywodraethiant Cymru,” meddai.
“Bydd Cymru’n cofio.”
‘Wedi gwneud y peth iawn o’r diwedd’
Wrth ymateb, dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, fod Vaughan Gething “wedi gwneud y peth iawn o’r diwedd”.
“Mae pobol Cymru wedi colli ffydd yn y Prif Weinidog,” meddai.
“Ond mae pobol Cymru hefyd yn colli hyder yng ngallu Llafur i lywodraethu yng Nghymru.
“Gallai hwn fod yn drydydd Prif Weinidog Cymru mewn saith mis – drws symudol o anhrefn.
“Mae Llafur wedi rhoi buddiannau’r blaid uwchlaw buddiannau’r genedl am yn rhy hir.
“Rhaid i bobol Cymru gael y cyfle i ethol llywodraeth newydd, a rhaid galw etholiad.
“Ar ôl 25 mlynedd wrth y llyw, all Llafur ddim ailadeiladu ac adnewyddu o’r tu fewn.”