Mae Vaughan Gething wedi cyhoeddi’r dystiolaeth arweiniodd at ddiswyddo Hannah Blythyn, Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol ei Gabinet tan fis Mai.
Cafodd y dystiolaeth ei rhyddhau ychydig cyn i’r Prif Weinidog gyhoeddi ei ymddiswyddiad.
Ers iddo ofyn i’r Aelod o’r Senedd dros etholaeth Delyn adael y llywodraeth, gan ddweud iddi rannu gwybodaeth â’r wasg, mae Hannah Blythyn wedi gwadu’r honiadau yn ei herbyn.
Roedd y Prif Weinidog wedi bod dan bwysau i gyhoeddi’r dystiolaeth oedd yn sail i’w benderfyniad, a dywed ei fod wedi penderfynu gwneud hynny heddiw er mwyn “cadarnhau eglurder a chywirdeb”.
Yr wythnos ddiwethaf, cadarnhaodd Vaughan Gething nad yw wedi ceisio honni mai Hannah Blythyn ei hun wnaeth rannu’r negeseuon â gwefan NationCymru, ond yn hytrach fod llun o’i ffôn wedi’i rannu â nhw.
Fodd bynnag, dywedodd bryd hynny nad oedd y cyfrifoldeb arno fe i brofi’r honiadau.
Roedd a wnelo’r cyhuddiad yn ei herbyn â stori gyhoeddodd Nation.Cymru, oedd yn datgelu bod Vaughan Gething wedi dweud wrth gydweithwyr yn y Cabinet ei fod yn dileu negeseuon WhatsApp o gyfnod Covid-19 oherwydd y byddai’n rhaid eu dangos pe bai cais rhyddid gwybodaeth yn gofyn am eu gweld.
Y dystiolaeth
Mae’r dystiolaeth mae Vaughan Gething wedi’i chynnig yn cynnwys dau lun gwahanol o’r un sgwrs iMessage o fis Awst 2020 rhwng unarddeg o weinidogion Llafur Cymru.
Cafodd y llun cyntaf, sy’n llun o ffôn rhywun yn hytrach na screenshot, ei anfon at Lywodraeth Cymru ym mis Mai gan newyddiadurwr oedd yn ceisio sylw ar ei gynnwys. Er bod y llun hwn wedi’i ryddhau eisoes wedi’i olygu i guddio enwau, mae’r llun heb ei olygu wedi’i rannu heddiw.
Mae’r ail ddelwedd yn screenshot o ffôn un arall o’r cyfranogwyr, ac yn dangos bod Hannah Blythyn yn rhan o’r sgwrs ar y diwrnod hwnnw gan fod blaenlythrennau ei henw i’w gweld ar dop y sgwrs.
“Wrth edrych ar sgwrs iMessage ar ddyfais unigolyn, bydd modd gweld llythrennau cyntaf yr holl gyfranogwyr eraill, ar wahân i rai’r cyfranogwr ei hunan,” meddai Vaughan Gething mewn datganiad ysgrifenedig.
“Drwy groesgyfeirio’r dystiolaeth ynghylch aelodau’r sgwrs yn erbyn y llun o’r sgwrs a gafodd ei rannu â ni gan y newyddiadurwr, daw’n amlwg mai’r unig lythrennau cyntaf sydd ar goll yn y ddelwedd hon yw rhai’r cyn-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.
“Mae hefyd yn amlwg bod y ddelwedd wedi’i thynnu yn 2020 a’i chadw cyn i’r datgeliad ddod yn amlwg yn gynharach eleni.
“Y ddau ddarn o dystiolaeth hyn, gyda’i gilydd, yw’r rheswm pam dw i wedi nodi’n glir wrth y Senedd na all y llun hwn ond fod yn ddelwedd o ffôn y cyn-Weinidog. Gwnes i’r penderfyniad anodd i ofyn i’r cyn-Weinidog adael y Llywodraeth ar sail yr wybodaeth hon a’r diffyg esboniad credadwy.
“Gweinidogion sy’n gyfrifol am ddiogelwch eu data, ac ni waeth sut y daeth y llun i feddiant y newyddiadurwr, ni ddylai’r ddelwedd fod wedi cael ei chymryd, gan arwain fel y gwnaeth at Weinidogion yn colli ymddiriedaeth yn y ffordd y diogelir preifatrwydd eu trafodaethau.
“Roedd yn arbennig o anodd i gydweithwyr eraill nad oeddent yn gallu bod yn glir nad nhw oedd yn gyfrifol am y datgeliad dan sylw.”
Roedd disgwyl i’r Senedd drafod cynnig allai ei gwneud hi’n orfodol i Vaughan Gething rannu’r dystiolaeth, fory (dydd Mercher, Gorffennaf 17).
“Er nad wyf yn ystyried y gall y deunydd a gyhoeddir heddiw fod yn ofynnol gan y cynnig hwnnw, er tryloywder ac o ystyried y diddordeb parhaus, rwyf wedi penderfynu ei rannu â’r Aelodau heddiw,” meddai.