Mae Vaughan Gething wedi dweud nad yw’r cyfrifoldeb arno fe i brofi’r honiad arweiniodd at ddiswyddo Hannah Blyddyn.

Mewn trafodaeth danllyd efo Llŷr Gruffydd, Aelod Seneddol Plaid Cymru, yn ystod Pwyllgor Craffu ar waith y Prif Weinidog dywedodd Vaughan Gething ei fod yn “yn glir efo’r dystiolaeth” sydd ganddo.

Mynnodd hefyd ei fod yn parhau â’i ddyletswyddau fel Prif Weinidog er gwaetha’r sefyllfa, gan godi ei lais wrth i Llŷr Gruffydd dorri ar ei draws efo cwestiwn pellach ar un pwynt.

Mae Hannah Blythyn wedi bod yn gwadu’r cyhuddiad yn ei herbyn ers iddi gael ei diswyddo o’i rôl fel Ysgrifennydd Partneriaeth Gyhoeddus fis Mai.

Roedd wnelo’r cyhuddiad yn ei herbyn â stori gyhoeddodd NationCymru oedd yn datgelu bod Vaughan Gething wedi dweud wrth gydweithwyr yn y cabinet ei fod yn dileu negeseuon WhatsApp o gyfnod Covid-19 oherwydd y byddai’n rhaid eu dangos pe bai cais rhyddid gwybodaeth yn gofyn am eu gweld.

Soniodd Hannah Blyddyn wrth y Senedd ddydd Mawrth (Gorffennaf 9) bod digwyddiadau’r misoedd diwethaf wedi effeithio ar ei llesiant.

Yn sgil hynny, a’r diddordeb yn y stori, penderfynodd NationCymru gyhoeddi nad Hannah Blythyn oedd ffynhonnell eu stori ddoe (Gorffennaf 11)

Yn ystod y pwyllgor, dywedodd Vaughan Gething nad yw’n meddwl mai Hannah Blyddyn roddodd y dystiolaeth yn uniongyrchol i NationCymru yn uniongyrchol, ond bod llun o’i ffôn wedi’i anfon atyn nhw.

“Pan mae hi’n dod at y dystiolaeth, does yna ddim anghysondebau efo beth dw i wedi’i ddweud, dw i erioed wedi trio honni bod Hannah Blythyn wedi cysylltu’n uniongyrchol efo NationCymru,” meddai.

“Dw i’n dweud yn glir, gan fy mod wedi cael cadarnhad, bod llun o’i ffôn wedi ei ddarparu i NationCymru.

“Mae gweinidogion yn gyfrifol am eu data nhw,” ychwanegodd.

“Dim cyfrifoldeb” i gyhoeddi’r dystiolaeth

Wrth drafod effaith y cwestiynau ar ei ddiffuantrwydd fel Prif Weinidog, siaradodd Vaughan Gething efo emosiwn am orfod wynebu un cyhuddiad ar ôl y llall.

“Mae o’n anodd iawn i fi i gael pobol yn cwestiynu fy niffuantrwydd dro ar ôl tro,” meddai.

“Drwy gydol fy mywyd, fel cynrychiolwr undeb, cyfreithiwr masnachol, fel Aelod a Gweinidog, dw i bob amser wedi trio gwneud y peth iawn.”

Er ei fod yn ymwybodol bod y penderfyniad i ddiswyddo Hannah Blythyn yn un “anodd”, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn teimlo bod ganddo ddewis.

“Pe bawn i ond yn edrych allan am fy hun, fyddwn i wedi ceisio brwydro hyn allan a gwneud dim byd.

“Felly, fe wnes i wneud y penderfyniad anodd oherwydd fy mod i’n credu mai dyna’r peth iawn i’r llywodraeth a’r wlad.”

Ar ddiwedd y drafodaeth, dywedodd Vaughan Gething ei fod yn “gwrthod yn llwyr” bod unrhyw gyfrifoldeb arno fo i ryddhau’r dystiolaeth.

“Dyw’r cyfrifoldeb ddim arna i, i wneud hynny,” meddai.

Bydd y drafodaeth ynglŷn â’r dystiolaeth yn parhau wythnos nesaf, gyda chynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig i orchymyn y Prif Weinidog i rannu’r dystiolaeth yn cael ei drafod yn y Senedd brynhawn dydd Mercher (Gorffennaf 17).

‘Osgoi craffu’

Wrth ymateb, dywed Llŷr Gruffydd ei bod hi’n “eironig” bod Vaughan Gething wedi “gwneud popeth posib i osgoi craffu” mewn sesiwn graffu.

“Mae yna dal ddau fersiwn gwahanol o’r digwyddiadau’n ymwneud â’r negeseuon gafodd eu rhyddhau i’r wasg ac mae’r Prif Weinidog dal i osgoi cwestiynau pwysig.

“Pam wnaeth e ddileu negeseuon, yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru a pham wnaeth e fethu darparu’r negeseuon i Archwiliad Covid y Deyrnas Unedig.

“Yr hiraf mae’r Prif Weinidog yn gwadu graddfa’r sgandal o’i gwmpas, yr hiraf y bydd pobol Cymru’n dioddef yn sgil anallu’r llywodraeth Lafur hon.”

“Teimlo fel bod y diwedd yn dod” i Vaughan Gething fel Prif Weinidog Cymru

Rhys Owen

Ychwanega’r ffynhonnell o’r Blaid Lafur bod “embaras” o fewn y blaid am y sefyllfa