Bydd newyddiadurwyr sy’n gweithio yn y Wyddeleg yn cael eu talu’r faint â’r rhai sy’n gweithio yn Saesneg.
Cafodd cyhoeddiad ei wneud fore heddiw (Gorffennaf 12) yn dweud y bydd holl staff gwasanaeth Gwyddeleg RTÉ Raidió na Gaeltachta yn cael eu talu’r un faint â’r rhai sy’n gweithio ar wasanaethau Saesneg.
Roedd gwahaniaeth o 25% yng nghyflogau’r staff Gwyddeleg a’r rhai oedd yn gweithio drwy Saesneg yn RTÉ, yn ôl adroddiadau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
‘Diwrnod da’
Bydd y newid cyflog yn dod i rym fis Medi, wedi ymgyrchu hir gan Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) a’r undebau sy’n cynrychioli gweithwyr RTÉ.
“Mae hwn yn ddatblygiad hirddisgwyledig,” meddai Séamus Dooley, Ysgrifennydd Gwyddeleg yr NUJ.
“Am flynyddoedd, mae’r NUJ wedi bod yn mynnu tâl cyfartal i’n haelodau yn Raidió na Gaeltachta.
“Mae’r mater wedi bod yn ganolog i nifer o ddadleuon yng nghynadleddau’r undeb ac rydyn ni wedi pwysleisio’r gwahaniaeth mewn cyflogau bob cyfle posib, gan gynnwys yn ein tystiolaeth i Gomisiwn Dyfodol y Cyfryngau.
“Mae heddiw’n ddiwrnod da i Raidió na Gaeltachta a’r NUJ.
“Mae’n dangos pŵer dyfalbarhad.
“Mae’n siom ei bod hi wedi cymryd cyhyd i gydnabod cyfraniad hafal darlledwyr Raidió na Gaeltachta, sydd wedi dangos eu bod nhw’n arloesol, yn gallu addasu ac yn gwbl ymroddedig.”
Ychwanega’r NUJ bod y cyhoeddiad yn pwysleisio pwysigrwydd cyfraniad gohebwyr cyfrwng Gwyddeleg ledled RTÉ a rôl hanfodol darlledu cyhoeddus wrth hyrwyddo’r iaith Wyddeleg.